Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS, JOHN (‘Ioan Rhagfyr ’; 1740-1821); g. 26 Rhagfyr 1740, yn Hafoty Bach, plwyf Celynnin, Meirionnydd, mab William Robert Williams, a'i fam yn berthynas i Edward Samuel, Llangar [q.v.]. Symudodd y teulu i fyw i Dalywaen, ger Dolgellau. Gwneuthurwr hetiau brethyn ydoedd y tad, a dysgodd y mab y grefft. Arferai masnachwyr gwlân o Amwythig letya yn Nhalywaen, a thynnwyd eu sylw at ddawn John Williams i ddysgu, a thalasant am dri mis o addysg iddo yn Amwythig. Cafodd wersi mewn cerddoriaeth, a dysgodd ganu'r trwmped a'r ffliwt. Wedi dychwelyd gartref dechreuodd gyfansoddi cerddoniaeth a barddoniaeth. Yn 1763 priododd â Jane, merch William Jones, Bryn Rhyg, Dolgellau. Yn 1772 rhoddodd ei grefft i fyny ac aeth yn glerc at Edward Anwyl, cyfreithiwr, ac wedi hynny bu'n cadw ysgolion yn Nhrawsfynydd, Abermaw, Dolgellau, a Llanelltyd. Efe oedd cerddor enwocaf ei gyfnod, a chyfansoddodd lawer iawn o gerddoriaeth offerynnol, anthemau, a thonau. Bu rhai o'i anthemau yn boblogaidd am amser hir, a cheir ei donau ‘Sabath,’ ‘Cemaes,’ a ‘Dyfroedd Siloah’ yn ein casgliadau tonau. Ceir ei ddarnau offerynnol — yr ymdeithganau, gavottes, a minuets — yn Y Cerddor Cymreig (Ieuan Gwyllt). Yn llyfr Ffoulk Robert Williams (‘Eos Llyfnwy’ [q.v.]) ‘Cerddoriaeth o Gerddi Seion’ mewn llawysgrif sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir 59 o donau a 21 o anthemau o waith John Williams. Bu f. 11 Mawrth 1821 a chladdwyd ef ym mynwent Llanfair Bryn Meurig.

Llyfryddiaeth:

  • Ser. G., Mai 1822;
  • Y Cerddor, Chwefror 1889;
  • M. O. Jones, Byw. Cerdd. Cymr.;
  • Em. W.;
  • Enw. F.;
  • Y Gwyddoniadur;
  • J.T.J., ii, 645-6.

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn

Atodiadau a chywiriadau:

WILLIAMS, JOHN (‘Ioan Rhagfyr ’; Bywg., 985) Sylwer mai yn Ser. G., Mai 1822 (nid ‘Ser. Cym.’) y ceir ei hanes.