WILLIAMS, JOHN ('Ioan Madog '; 1812 - 1878), gof a bardd

Enw: John Williams
Ffugenw: Ioan Madog
Dyddiad geni: 1812
Dyddiad marw: 1878
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gof a bardd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 3 Medi 1812 yn y Bontnewydd, Rhiwabon, lle yr oedd ei rieni, Richard ac Elinor Williams, yn byw ar y pryd. Dychwelasant ymhen tua naw mlynedd i'r cartref gwreiddiol yn Nhremadog. Bu'r mab mewn ysgol am dymor yn Nhremadog, ac, yn ddiweddarach, mewn ysgolion yn sir Ddinbych ac yng Nghaernarfon. Yn y cyfamser dysgodd ddilyn galwedigaeth ei dad. Ymddiddorodd mewn barddoniaeth yn gynnar; dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau, gan ennill yn Aberffraw, 1849, Rhuddlan, 1850, eisteddfod Madog, 1851, etc. Cafodd ei urddo'n fardd yn eisteddfod y Bala, 1836. Dywed ' Cynhaiarn ' fod iddo gryn fedr yng ngwneuthur offer haearn i'w defnyddio ar y llongau a adeiledid ym Mhorthmadog. Bu farw 5 Mai 1878 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Ynyscynhaiarn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.