WILLIAMS, WILLIAM LLEWELYN (1867 - 1922), aelod seneddol, cyfreithiwr, ac awdur

Enw: William Llewelyn Williams
Dyddiad geni: 1867
Dyddiad marw: 1922
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: aelod seneddol, cyfreithiwr, ac awdur
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 10 Mawrth 1867 yn Brownhill, Llansadwrn, dyffryn Tywi (ar 15 Medi 1938 dadorchuddiwyd cofgolofn iddo o flaen y tŷ), yn ail fab i Morgan Williams a'i wraig Sarah (Davies). Yr oedd ei deulu'n dda eu byd, ac yn Annibynwyr o hil gerdd; ei daid, Morgan Williams, yn ddiacon yng Nghapel Isaac cyn symud o'r Ffrwd-wen (Llandeilo) i Brownhill, a dau o frodyr ei dad yn weinidogion, sef JOHN WILLIAMS (1819 - 1869), a fu'n weinidog yn Llangadog gerllaw, ac wedyn yng Nghastellnewydd Emlyn gyda Chapel Iwan (Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, iii, 421-2), a BENJAMIN WILLIAMS (1830 - 1886), a fu yng Ngwernllwyn (Dowlais), Dinbych, a Chanaan (Abertawe) ac a oedd yn awdur amryw lyfrau (Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, v, 123-5).

Aeth Llewelyn Williams i Ysgol Llanymddyfri ac wedyn (Hydref 1885) i Goleg Brasenose, Rhydychen. Yr oedd yno pan gychwynnwyd Cymdeithas Dafydd ab Gwilym (gweler T. Rowland Hughes yn Y Llenor, 1931, a'i atgofion ef ei hunan yn Cymru O.M.E. am 1921); ei 'ffugenw' ynddi oedd enw ei goleg - ' y Trwyn Pres.' Graddiodd yn 1889 yn yr ail ddosbarth mewn hanes, a rhoddwyd ef yn ail orau yn y gystadleuaeth am y ' Stanhope Prize.' Dychwelodd i Gymru i fod yn newyddiadurwr; i ddechrau'n olygydd y South Wales Star yn y Barri, ac wedyn yn olygydd y South Wales Post (Abertawe); bu am gyfnod ar staff y South Wales Daily News (Caerdydd), ac yn ddiweddarach ar staff y Star yn Llundain. Ychydig mewn cymhariaeth a sgrifennodd yn Gymraeg; gellir nodi ei ddwy stori, Gwilym a Benni Bach, 1897 (ail arg. 1945), efelychiad o'r stori Americanaidd Helen's Babies, a Gwr y Dolau (1899; ail arg. 1946) - nid oes gamp neilltuol arnynt; a sgrifennodd atgofion diddorol i'r Beirniad yn 1917, ' Slawer Dydd ' - cyhoeddwyd hwy'n llyfr, dan yr un teitl, yn 1918. Yn Saesneg, cyhoeddodd gryn lawer, yn enwedig yng nghylchgronau Cymdeithas y Cymmrodorion o 1900 ymlaen - peth o'r gwaith yn faledau hanesyddol, ond heblaw hynny ysgrifau gwir bwysig ar hanes Cymru, megis yr ysgrif nodedig ar y Catholigion Cymreig ar y Cyfandir (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1901-2); casglwyd nifer o'r ysgrifau hyn yn gyfrol, The Making of Modern Wales, yn 1919. Yr oedd ei wybodaeth o gyfnod y Tuduriaid yn sylweddoi, ac efe a olygodd arg. ' Everyman ' o History J. A. Froude. Ar gyfnodau eraill, yr oedd braidd yn fympwyol, fel y dengys ei wrthodiad i wynebu'r ffeithiau am Owain Lawgoch a ' Iolo Morganwg.' Yr oedd yn un o garedigion mwyaf yr eisteddfod, a bu'n llywydd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol.

Troes o newyddiadura at y gyfraith ac at wleidyddiaeth. Galwyd ef i'r Bar o Lincoln's Inn yn Ionawr 1897; bu wedyn yn ' Bencher ' yn ei Inn. Daeth yn K.C. yn 1912; yr oedd yn ' arweinydd ' ym mrawdlysoedd Deheudir Cymru; bu'n ' recorder ' Abertawe (1914-5) a Chaerdydd (1915-22). Wedi anfon ei enw ymlaen droeon am ymgeisiaeth seneddol, etholwyd ef yn 1906 yn aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Caerfyrddin, a daliodd y sedd hyd oni ddiddymwyd hi yn 1918. Rhyddfrydwr o'r hen stamp oedd ef; nid oedd ganddo unrhyw olwg ar sosialaeth. O Rydychen hyd ei fedd, bu'n genedlaetholwr yn anad unpeth arall; ar dir cenedlaetholdeb yn hytrach nag ar sail 'liberationism' crefyddol y cefnogai ddatgysylltu a dadwaddoli'r Eglwys Wladol yng Nghymru; ac yr oedd yn eiddgar dros ymreolaeth i Gymru (ac i Iwerddon, Llydaw, Fflandrys), ond ymreolaeth o fewn ffrâm y Deyrnas Gyfunol a ddymunai ef - dengys ei ysgrif ar y Deddfau Uno (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1907-8, a'r bennod gyfatebol yn ei lyfr) mai mantais, i'w feddwl ef, oedd uniad Cymru â Lloegr. Ar bwnc y tir, ei feddyginiaeth ef oedd amlhau rhydd-ddeiliaid, nid cenedlaetholi'r tir. Ni bu neb selocach dros hawliau'r dyn unigol - yr hen ryddfrydiaeth eto. Bodlonodd, braidd yn erbyn ei anian, i gefnogi rhyfel 1914 (ymhell cyn hynny, yr oedd wedi gwrthwynebu mynd i ryfel â'r Boëriaid), yn bennaf am i'r Ellmyn ymosod ar wlad Belg; ond fel y cerddai'r rhyfel, cynyddai ei anesmwythyd yntau - safodd yn erbyn gorfodaeth filwrol, amddiffynnodd y 'gwrthodwyr cydwybodol,' gwingai yn erbyn y ' Defence of the Realm Act,' ac yn y diwedd daeth toriad pendant a digymrodedd rhyngddo a Lloyd George. Pan ymgeisiodd am sedd Ceredigion yn 1921, dygwyd ymgeisydd swyddogol yn ei erbyn, a gorchfygwyd ef, mewn etholiad hynod boeth. Bu farw 22 Ebrill 1922; gadawodd weddw, Elinor (Jenkins, Glan Sawdde).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.