WILLIAM, LODWICK (fl. 1689?), ysgrifennwr anterliwdiau,
awdur Sherlyn Benchwiban, anterliwt a gyhoeddwyd yn 1802 gan Morgan Rees. Dichon fod nifer o weithiau Lodwick William ym meddiant Morgan Rees, ond hwn ydyw'r unig ddarn yr ymddengys iddo ei gyhoeddi. Ychydig o fanylion sydd i'w cael am fywyd yr awdur, ond yn ei anterliwt ceir cyfeiriadau at bersonau a digwyddiadau sydd yn awgrymu mai tua 1689 y cyfansoddwyd hi. Ar wyneb-ddalen argraffiad 1802 dywedir mai gŵr o ‘Glanllwchwr, Llandybïe’ oedd yr awdur. Ffermdy ym mhlwyf Llandybïe, sir Gaerfyrddin, oedd ‘Glanllwchwr’ (neu ‘Cwmllwchwr’). Ymddengys fod Lodwick William yn feddyg o gryn fri, a dywed traddodiad poblogaidd ei fod hefyd yn ymwneud â dewiniaeth. Yn ôl awdurdodau eraill, fodd bynnag, brodor o'r Bala neu o Geredigion ydoedd.
Llyfryddiaeth:
- Gomer M. Roberts, Hanes Plwyf Llandybïe, 225-9;
- G. G. Evans, ‘Yr Anterliwd Gymraeg’ (traethawd M.A. Prifysgol Cymru, 1938), 51-7, 79;
- T. J. R. Jones, ‘Yr Anterliwt Gymraeg: ei ffynonellau, ei chrefftwaith, a'i gwerth fel arwyddocâd o ddiwylliant y bobl’ (traethawd M.A. Prifysgol Cymru, 1939), 90-5.
Awdur:
Hywel David Emanuel, M.A., (1921-70), Aberystwyth