WILLIAMS, OWEN (GAIANYDD) (1865 - 1928), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a llenor

Enw: Owen (Gaianydd) Williams
Dyddiad geni: 1865
Dyddiad marw: 1928
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Katharine Monica Davies

Ganwyd 8 Hydref 1865 ym mhlwyf Llangwyllog, sir Fôn. Bu'n gweithio ar fferm hyd yn 10 oed, pan gafodd ddamwain dost a bu'n dioddef o'i phlegid ar hyd ei oes. Cafodd ei addysg o dan y Parch. Hugh Richards yn Llannerchymedd, y Parch. R. M. Jones yng Nghaergybi, ac yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Ordeiniwyd ef yn 1897, a'i sefydlu'n fugail ar eglwysi Ro Wen a Tyn-y-groes, lle'r arhosodd hyd ei farwolaeth 11 Tachwedd 1928. Yr oedd yn bregethwr dawnus ac yn fugail cydwybodol a roddai ei wasanaeth yn hael i bobl yr ardal yn gyffredinol. Yr oedd yn llenor ac yn hanesydd diwyd. Gwnaeth astudiaeth arbennig o hanes a hynafiaethau ei sir enedigol. Ysgrifennodd yn helaeth i gylchgronau a newyddiaduron. Cyhoeddodd ' Hanes Llanerchymedd a'i Henwogion,' yn Hanes a Chyfansoddiadau Arobryn Eisteddfod Llanerchymedd (Cymdeithas Eisteddfod Môn, 1906); Ein Pobl Ieuainc … (Caernarfon, 1906); Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785) (Caernarfon, 1907); Dewis Aelod Seneddol: Drama Gymreig (Conwy, 1910), Cymeriadau'r Hen Destament … (Conwy, 1926).

Yr oedd yn ŵr priod a ganwyd iddo ddau fab ac un ferch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.