Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS, FOULK ROBERT (‘Eos Llyfnwy ’; 1774-1870); g. yn Hendreforionbach, Llanllyfni, sir Gaernarfon, 1774. A ganlyn ydyw cofrestriad ei fedydd; ‘10ber-6the Foulk ye son of Robt Wm of Hendreforion bach weaver by Lowry his wife.’ Adwaenid ef ar hyd ei oes dan yr enw Foulk Roberts, ac oherwydd ei ddawn arbennig i ganu gelwid ef yn ‘Ffowc Bach y Canwr.’ Yn 17 oed talodd bonheddwr am dri mis o addysg gerddorol iddo gan John Williams (‘Ioan Rhagfyr’) [q.v.], Dolgellau. Daeth yn gerddor lled dda, ac am lawer o flynyddoedd âi o gwmpas ardaloedd Arfon a Môn i ddysgu'r cantorion ganu. Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir llyfr wedi ei ysgrifennu ganddo. Ar yr wyneb-ddalen y mae — ‘Llyfr Cerddoriaeth o Gerddi Sion a gwir folianwyr yr Arglwydd. Casgliad o Anthemau, Hymn Tonau, Carolau a hen alawon, a ysgrifennwyd tua 1834 gan Foulk Roberts “Eos Llyfnwy” Llanrug, sir Gaernarfon.’ Mae 1,158 o dudalennau i'r llyfr, a channoedd o donau ac anthemau o waith prif gerddorion y cyfnod. Wedi priodi symudodd Foulk Roberts i fyw i'r Clegir yng nghwr uchaf plwyf Llanrug, ac yno y bu f. 11 Rhagfyr 1870. Claddwyd ef ym mynwent Llanrug.

Llyfryddiaeth:

  • M. O. Jones, Byw. Cerdd. Cymr.;

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn

Atodiadau a chywiriadau:

ROBERTS, FOULK (‘Eos Llyfnwy ’; Bywg., 976, o dan WILLIAMS, FOULK ROBERT ) Bedyddiwyd ef yn Llanllyfni, 6 Rhag. 1782; claddwyd brawd hŷn o'r un enw ar 16 Gorff. 1780. Pr. ei gyfnither, Catherine Williams, yn Llanberis, 6 Awst 1800.

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth gan Huw Roberts, Pwllheli.