WILLIAMS, Syr ROGER (1540? - 1595), milwr ac awdur

Enw: Roger Williams
Dyddiad geni: 1540?
Dyddiad marw: 1595
Rhiant: Eleanor Williams (née Vaughan)
Rhiant: Thomas Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Milwrol
Awdur: William Llewelyn Davies

Y mae tri gŵr o'r enw hwn ac y mae'n bwysig gwahaniaethu rhyngddynt-(1) Syr Roger Williams (1604? - 1683), sefydlydd talaith Rhode Island, U.D.A.; fe'i hawlid ef fel Cymro, yn ddiweddarach fel gŵr o Gernyw, ond erbyn hyn gellir awgrymu mai mab ydoedd i James Williams, ' citizen and merchant taylour of London,' a'i wraig Alice; (2) Roger Williams, aelod o deulu Penrhos, sir Fynwy (cyfenwid y teulu yn Addams-Williams yn ddiweddarach; gweler dan Williams, Syr Trevor); a (3) Syr Roger Williams (1540? - 1595), sef hwnnw y cyfeirir yn fyr ato yma.

Fel yr ail Roger Williams, yr oedd Syr Roger Williams, y milwr a'r awdur, yn aelod o deulu Penrhos - yn fab i Thomas Williams a'i wraig Eleanor, merch Syr William Vaughan. Dywed Wood iddo dreulio peth amser yn Rhydychen (Coleg y Trwyn Pres). Aeth yn filwr yn gynnar yn ei oes; yn wir, nid oedd ond tua 17 oed pan fu'n ymladd yn S. Quentin. Treuliodd, bron y gweddill o'i oes ar gyfandir Ewrop fel ' soldier of fortune,' a dyfod yn adnabyddus fel gŵr gwrol a beiddgar ac fel arbenigwr yng ngwyddor rhyfela. Ym mis Ebrill 1572 fe'i ceir yn un o'r tri chan gŵr a aeth i Flushing gyda capten Thomas Morgan i gynorthwyo'r Is-Ellmyn yn erbyn lluoedd Sbaen; bu hefyd yn ymladd mewn cysylltiad â Syr Humphrey Gilbert a Syr Philip Sidney. O'r Iseldiroedd aeth i'r Almaen - am fanylion pellach gweler yr erthygl arno yn y D.N.B. Cafodd ei wneuthur yn farchog gan iarll Leicester (1586 ?). Ei gyhoeddiad cyntaf oedd A Brief Discourse of War, 1590; dilynwyd hwnnw gan Newes from Sir Roger Williams, 1591. Yn 1618 (sef wedi marw'r awdur) cyhoeddwyd Actions of the Low Countries (gweler adargraffiad yn Somers ' Tracts, 1809, a chyfieithiad yn iaith Holland, 1864, o dan y teitl Memorien van Roger Williams. Bu Syr Roger Williams farw 12 Rhagfyr 1595 yn ei gartref yn Llundain a'i gladdu (23 Rhagfyr) yn eglwys gadeiriol S. Paul.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.