Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , TALIESIN (‘ Taliesin ab Iolo ’; 1787 - 1847 ), bardd ac awdur ;

mab Edward Williams (‘ Iolo Morganwg ’) [q.v.] . Fe'i g. yn ôl traddodiad Bro Morgannwg yng ngharchar Caerdydd ar 9 Gorffennaf 1787 , a bedyddiwyd ef yn Nhrefflemin 16 Medi . Cafodd ei addysg mewn ysgol yn y Bont-faen , ac yna bu'n gweithio gyda'i dad fel saer maen a thriniwr cerrig beddau . Bu'n cadw ysgol yn Silston ( Gileston ), a thua 1813 cafodd le fel athro cynorthwyol mewn ysgol a gedwid gan y Parch. David Davis [q.v.] yng Nghastell Nedd . Yn 1816 , agorodd ysgol ym Merthyr Tydfil , ac yno y bu hyd ei f., 16 Chwefror 1847 ; claddwyd yn Nhrefflemin . Ychydig a wyddom am ei weithgarwch llenyddol yn ei ieuenctid, ac y mae'n ffaith ddigon rhyfedd mai ychydig o ddiddordeb a gymerai yn hanes a llenyddiaeth Cymru nes iddo ddyfod i gysylltiad a hyrwyddwyr y cymdeithasau taleithiol, a hynny tua 1820 . Bu wedi hynny'n ffigur amlwg ym mywyd Cymreig Merthyr Tydfil , yn yr eisteddfodau a gynhelid yno yn ogystal ag yn y rhai a drefnid gan y cymdeithasau taleithiol a chan Gymreigyddion y Fenni . Bu'n cynorthwyo ei dad i gyhoeddi Cyfrinach Beirdd ynys Prydain , a ddaeth allan o'r wasg yn 1829 . Ef a gafodd lawysgrifau ei dad, a bu wrthi am flynyddoedd yn rhoi trefn arnynt, ac yn eu rhwymo'n gyfrolau. Fe'u hastudiodd yn ofalus, a chasglodd ddetholion ohonynt, casgliad a gyhoeddwyd gan The Welsh MSS. Society yn 1848 o dan y teitl, Iolo Manuscripts . Yn 1838 , enillodd wobr yn eisteddfod y Fenni am draethawd ar ‘ Hynafiaeth ac Awdurdodaeth Coelbren y Beirdd ,’ traethawd a gyhoeddwyd yn 1840 . Llwyddodd i ddarbwyllo'r rhan fwyaf o'i gyfoeswyr nad ffug diweddar mo'r egwyddor ‘dderwyddol’ hon. Cyhoeddodd ddwy gân Saesneg ; sef Cardiff Castle , 1827 , a The Doom of Colyn Dolphyn , 1837 , gyda nodiadau ar hanes Morgannwg . Y mae ganddo hefyd gerddi Cymraeg , ac enillodd y gadair yn eisteddfod Caerdydd yn 1834 am awdl ar y Derwyddon . Gadawodd draethodau ar ei ôl, a chyhoeddwyd un ohonynt yn 1886 , sef Traethawd or Gywreinedd, Hynafiaeth a Hen Bendefigion Glynn Nedd . Nid oes dim camp ar ei waith fel bardd , a chan ei fod yn derbyn popeth a welai yn llawysgrifau ei dad fel gwirionedd na ellid mo'i amau, y mae ei nodiadau hanesiol yn gymharol ddiwerth. Llwyddodd ei dad i gadw ei gyfrinach fawr rhagddo. Dywaid ei gyfoeswyr ei fod yn wr hoffus, siriol, a chyfeillgar, a bu'n hynod lwyddiannus fel ysgolfeistr .

Mab iddo oedd Edward Williams ( 1826 - 1886 .

Ffynonellau:

  • Enwogion Cymru. A Biographical Dictionary of Eminent Welshmen , 1852 ;
  • Y Wawr sef cylchgrawn misol y Bedyddwyr Cymreig yn America , Utica , 1853 , 114-5;
  • Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru , 1870 ;
  • Y Gwyddoniadur Cymreig , 1889–96 .

Awdur:

Yr Athro Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963), Gwaelod-y-garth, Caerdydd

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54