WILLIAMS, DANIEL THOMAS ('Tydfylyn'; 1820 - 1876), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd a cherddor

Enw: Daniel Thomas Williams
Ffugenw: Tydfylyn
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1876
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd a cherddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: David James Bowen

Ganwyd 20 Hydref 1820 ym Merthyr Tydfil. Cychwynnodd ei yrfa fel groser, eithr bu raid iddo roi hynny heibio o achos afiechyd, ac yn fuan wedyn dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr. Ordeiniwyd ef 18 Gorffennaf 1870 yn weinidog capel Annibynnol Adulam, Merthyr. Cystadlai mewn eisteddfodau, ac ef ydoedd bardd cadeiriol eisteddfod Ystrad, 1870. Yr oedd hefyd yn feirniad eisteddfodol. Cyhoeddodd gyfrolau o gerddoriaeth a barddoniaeth, megis Y Canor Dirwestol, 1845; cyfansoddiadau cerddorol gwobrwyedig 1849; Pennillion Arobryn Eisteddfod y Cymmrodorion Dirwestol, Merthyr, 1854, 1855 (gol.); Cathlau Byrion, 1864; darlith ac awdl ar 'Y Mor,' 1868. Ysgrifennodd y geiriau Cymraeg i 'Yr Ehedydd' a'r geiriau Saesneg i 'Rhyfelgan y Myncod' a 'Cydgan y Bradwyr,' cyfansoddiadau cerddorol gan Joseph Parry. Bu farw 2 Mai 1876.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.