WILLIAMS, WILLIAM (fl. 1648-77), awdur Poetical Piety

Enw: William Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur Poetical Piety
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Ychydig a wyddys amdano ar wahân i'r hyn a fynega ef ei hun yn y cyflwyniad i Syr Thomas Pryse, Gogerddan, Sir Aberteifi, sydd yn ei lyfr Poetical Piety: or Poetry made Pious …, a argraffwyd yn 1677 yn Llundain dros yr awdur 'at the White Swan in BlackFryers near the King's Printing-house.' Dywed ei fod y pryd hynny yn agos i'r 30 oed, ei eni yng nghymdogaeth Gogerddan, a'i fod yn adnabod Syr Thomas yn nyddiau ieuenctid hwnnw a'r adeg y daeth i'w oed. Pwysleisia hefyd y dylid gwahaniaethu rhyngddo ag awdur arall o'r un enw ('he's Cornwal born and I am Cardigan') a gyhoeddodd yntau lyfr yn Llundain yn 1677, sef Divine Poems and Meditations, by William Williams of the county of Cornwall … when he was a prisoner in the King's-Bench.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.