WILLIAMS, WILLIAM, Llandygái (1738 - 1817), llenor, hynafiaethydd, a swyddog pwysig ar gloddfa lechi Cae-braich-y-cafn

Enw: William Williams
Dyddiad geni: 1738
Dyddiad marw: 1817
Plentyn: Edmund Williams
Plentyn: Robert Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor, hynafiaethydd, a swyddog pwysig ar gloddfa lechi Cae-braich-y-cafn
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd 1 Mawrth 1738 yn Nhrefdraeth, Môn, o rieni tlodion, a main iawn oedd ei fyd yn ei ddyddiau cynnar. Bu'n wehydd dros dro, ac yna'n brentis cyfrwywr yn Llannerch-y-medd am saith mlynedd. Daeth yn un o ddisgyblion prydyddol Huw Hughes y ' Bardd Coch ', ac yn bur gyfeillgar â Robert Hughes, sef ' Robin Ddu yr ail ', a thrwy'r cyfeillgarwch hwnnw y daeth yn aelod gohebol o Gymdeithas Gwyneddigion Llundain; daeth yn gydnabyddus hefyd â William Morris o Gaergybi. Trobwynt mawr ei fywyd oedd taith ei dad i'r Penrhyn i gael sgwrs â Richard Hughes, pen gorchwyliwr y stad a sgwïer ei hun (o deulu Bodrwyn a Thre'rdryw ym Môn) Cafodd gychwyn fel clerc achlysurol yn y swyddfa, gan lanw'r amser i fyny fel cyfrwywr; mynnodd ymberffeithio fel tir-fesurydd, a gofynnwyd am ei wasanaeth gan berchenogion stadau fel Gwaenynog yn sir Ddinbych a Meillionydd yn Llŷn. Nid anaml ychwaith y ceisid ganddo weithredu fel athrywynnwr a chanolwr rhwng meistr a ffermwr, rhwng ffermwr a ffermwr. Pwynt pwysig arall yn ei yrfa oedd argyhoeddiad Richard Pennant, yr arglwydd Penrhyn cyntaf, mai William Williams oedd yr union ddyn i lywio codi, cludo, a gwerthi'r llechi; parhaodd yr oruchwyliaeth hon o 1782 i 1802, a phrawf 12 o lyfrau cownt Williams am y flwyddyn olaf hon pa mor drylwyr y cadwai ei olwg ar bethau, a pha mor fanwl ei ddulliau, gyda'r saith golofn o fanylion ymhob un o'r 12 llyfr. Ar ei ymddiswyddiad cafodd gyflog blynyddol llawn am weddill ei oes. Yn awr daeth hamdden i lenydda : yn 1802 cyhoeddwyd (arg. Rhydychen) ei Observations on the Snowdon Mountains, gyda sylwadau diddorol am arferion yr ardaloedd ac (yn naturiol ddigon) bennod hir ar dras a threigl teulu'r Penrhyn (awdur y bennod hon oedd John Thomas o Fiwmares gynt); bum mlynedd wedi ei farw cyhoeddwyd Prydnawngwaith y Cymry, gwaith a fwriadwyd fel cyflenwad' i Drych y Prif Oesoedd. Ar wahân i'r gweithiau argraffedig hyn, gadawodd ar ei ôl beth wmbredd o gyfraniadau mewn llawysgrif, fel ' Iolo o'r Cyffredin Glas,' lle y caiff Williams gyfle, ar ddull stori a chaneuon, i draethu ei farn ar ddiwinyddiaeth Calfin, ar rysedd sectyddion, ar seiadau Methodus; nid annhebyg yw'r 'Ddadl rhwng Tudur a Gronwy ynghylch Etholedigaeth.' Yn 1803 yr oedd ganddo yn barod, eto mewn MS. 289 td., ' Lysiau-lyfr yn cynnwys amryw ddail, a'u Rhinwedd i iachau amryw Glefydau,' a disgrifir hwn fel 'o sgrifeniad William Williams '; eto, ' History of Carnarvonshire,' 106 td., gyda syniadau diddorol am ardaloedd y chwareli. Nid yw'n syndod yn y byd, yn wyneb y llafur llenyddol dygn, ddarllen am ei garedigrwydd yn rhoddi gwybodaeth am bobl a phethau Arllechwedd i Richard Fenton, Syr Richard Colt Hoare, a'r Gwyddel Hyde Hall a ysgrifennodd Bangor MS. 908. Bu farw 17 Gorffennaf 1817. Ni chollwyd llengarwch o'r teulu ar ei farwolaeth ef; adeiladodd Robert Williams, ei fab, llenor da a ffrind i lenorion, Gorph o Dduwinyddiaeth, a'i gyhoeddi ym Mangor, 1831; ac awdur marw-goffa William Williams yn y Gwyliedydd am 1828 (ar ffurf llythyr at ' Gutyn Peris ') oedd ei fab Edmund Williams.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.