WILLIAMS, WILLIAM (1747 - 1812), clerigwr efengylaidd

Enw: William Williams
Dyddiad geni: 1747
Dyddiad marw: 1812
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr efengylaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Daniel Williams

a adwaenir fel ' William Williams, Waterbeach,' sir Gaergrawnt. Wedi ei ordeinio penodwyd ef yn gaplan i ffowndri Seisnig yn Rotterdam, ac wedi hynny (1794-1812) yn ficer plwyf Waterbeach. Bu farw 13 Hydref 1812. Cysylltir ei gymwynas â Chymru â Bibl Cyssegr-Lan, arg. Caergrawnt, 1807. William Owen Pughe, oedd y cywirwr swyddogol. Trwy esgeulustra Pughe daeth agos i 3,000 o gopïau allan yn wallus ac anghyflawn - pennod viii o Llyfr y Barnwyr yn gwbl allan. Blinwyd Thomas Charles a'r awdurdodau; ond achubwyd eu pennau drwy egni ac ysgolheictod William Williams. Claddwyd ef yng nghangell ei eglwys, a dodwyd tabled goffa yn y mur.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.