WILLIAMS, WILLIAM (1748 - 1820), clerigwr, ac un o ragredegwyr mudiad yr ysgol Sul yng Nghymru

Enw: William Williams
Dyddiad geni: 1748
Dyddiad marw: 1820
Rhiant: Ann Williams
Rhiant: Rhys Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, ac un o ragredegwyr mudiad yr ysgol Sul yng Nghymru
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Daniel Williams

mab Rhys ac Ann Williams, Glanwenlais, Cil-y-cwm, Sir Gaerfyrddin. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan esgob Tyddewi, 1 Medi 1771, ac yn offeiriad 14 Awst 1774. Bu'n gurad yng Nghaerfyrddin, ond fel curad S. Gennys, Cernyw, yr adwaenir ef. Bu'n gohebu â Thomas Charles o'r Bala ar fater addysgu Cymru. Caif y credyd o gychwyn ysgol Sul yn nhŷ Dafydd Elias, Brynteg, Cil-y-cwm, a cheir sicrwydd iddo wneuthur cais (oddeutu 1781) i sefydlu ysgolion Sul yn Aberystwyth, Aberdyfi, a Machynlleth. Bu yn ei fryd sefydlu yng Nghymru gymdeithas ar gynllun S.P.C.K. Bu farw 12 Mai 1820, a gorffwys ei weddillion yng Nghil-y-cwm.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.