WILLIAMS, WILLIAM ('Gwilym ab Ioan '; 1800 - 1868), bardd yn U.D.A.;

Enw: William Williams
Ffugenw: Gwilym ab Ioan
Dyddiad geni: 1800
Dyddiad marw: 1868
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn y Bala, a'i addysgu mewn ysgol elfennol. Ymfudodd i U.D.A. yn 1825, gan ymsefydlu yn Efrog Newydd lle y daeth yn farsiandwr, ac, yng nghwrs amser, yn ysgrifennydd y S. David's Charitable Society. Enillodd y wobr yn eisteddfod y Fenni, 1837, am 12 o englynion er cof am Thomas Price ('Carnhuanawc'); enillodd wobrwyon am farddoniaeth mewn eisteddfodau yn U.D.A. hefyd. Cyhoeddwyd llawer o'i waith yn Y Cyfaill, Y Cenhadwr Americanaidd, etc. Bu farw yn Efrog Newydd, 28 Ionawr 1868.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.