WILLIAMS, ZACHARIAH (1683 - 1755), meddyg a dyfeisydd

Enw: Zachariah Williams
Dyddiad geni: 1683
Dyddiad marw: 1755
Plentyn: Anna Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg a dyfeisydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir; Meddygaeth
Awdur: Gwyn Jones

a thad Anna Williams; Ganwyd yn Rosemarket, Sir Benfro, a bu'n dilyn ei alwedigaeth fel meddyg am beth amser yn Neheudir Cymru. Derbyniwyd ef i'r Charterhouse, Llundain, yn 1729 fel 'poor brother pensioner.' Rhydd teitlau ei lyfrau syniad am ei ddiddordebau - The Mariner's Compass Compleated, 1740 a 1745; A True Narrative of certain Circumstances relating to Zachariah Williams in the Charterhouse, 1749; a Account of an Attempt to ascertain the Longitude at Sea by an exact Theory of the Variation of the Magnetical Needle, 1755. Ni chafodd ddim lwc gyda'i ddarganfyddiadau a bu'n cyhuddo Samuel Molyneux o ddwyn ei gynlluniau. O fis Rhagfyr 1745 ymlaen yr oedd yn orweiddiog, a bu farw yn ddyn wedi ei siomi, 12 Gorffennaf 1755. Cymerai Samuel Johnson gryn ddiddordeb ynddo - chwilier mynegai Powell i arg. Birkbeck Hill o Boswell.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.