WILSON, RICHARD (1713 - 1782), arlunydd golygfeydd natur

Enw: Richard Wilson
Dyddiad geni: 1713
Dyddiad marw: 1782
Rhiant: Alice Wilson (née Wynne)
Rhiant: John Wilson
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd golygfeydd natur
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Natur ac Amaethyddiaeth
Awduron: John Edward Horatio Steegman, Iorwerth Cyfeiliog Peate

Aelod o deulu Wilsoniaid Bwlch-y-llyn a'r Ffinnant, Trefeglwys (Maldwyn), un o hen deuluoedd Cymreig Arwystli. Yr oedd

HUGH WILSON, M.A. (1651 - 1687), ficer

Trefeglwys (1674) a hefyd Llangurig (1676) yn fab i RICHARD (bu farw 1688) a Joanna (bu farw 1678) Wilson, Bwlch-y-llyn. Ymbriododd Hugh yn 1679 â Maria (bu farw 1688) gweddw William Lloyd, Maesbangor, Llanbadarn Fawr. Cawsant bump o blant: John (1680), Maria (1681), Margaretta (1683), Elizabeth (1684), ac Ursula (1687). Daeth Elizabeth (1684 - 1728) yn ail wraig i Syr John Pratt (1657 - 1725), ac yn fam i Charles Pratt (1714 - 1794), Arglwydd Camden (1765), a ddaeth yn 1786 yn iarll Camden ac yn arglwydd ganghellor - felly, yr oedd Richard Wilson yr arlunydd yn gefnder i Camden.

Ordeiniwyd

JOHN WILSON (1680 - 1728), ficer

mab Hugh, yn 1703. Penodwyd ef yn rheithor Gwaunysgor (1709-11) ac wedyn yn ficer Penegoes (ger Machynlleth), 1711-28; bu farw 31 Awst 1728, a chladdwyd yn ei blwy genedigol, Trefeglwys, 4 Medi. Cafodd ef a'i wraig Alice bum mab ac un ferch. Daeth y ferch yn weinyddes i'r arglwyddes Sundon a oedd yn 'lady of the bedchamber' i'r frenhines.

RICHARD WILSON (1713 - 1782), arlunydd golygfeydd natur

Ganwyd Richard Wilson Awst 1713 ym Mhenegoes gerllaw Machynlleth, trydydd mab y Parch. John Wilson a'i wraig Alice, aelod o deulu Wynne, Coed-llai, gerllaw'r Wyddgrug. Treuliodd ei fachgendod yn yr Wyddgrug lle y symudodd y tad i fod yn rheithor yn gynnar ar ôl geni'r bachgen. Anfonwyd ef i Lundain yn 1729, gyda chymorth Syr George Wynne, ac yno cafodd ei addysgu i bortreadu lluniau personau. Llwyddodd i raddau helaeth yn y math hwn o arlunio; yn 1748 paentiodd ddarlun yn cynnwys y tywysog Siôr (y brenin Siôr III wedi hynny) a'r dug York pan oeddent yn blant. Paentiodd hefyd yn y cyfnod hwn rai golygfeydd natur - e.e. dau i'w dodi yn y Foundling Hospital, Llundain, 1746, a ' View of Dover,' y gwnaethpwyd ysgythriad ohono yn 1747; y mae yn Philadelphia ' View of Westminster Bridge ' a arwyddwyd ganddo a'i ddyddio yn 1746.

Yn 1750 aeth Wilson i Venice ac oddi yno yn 1751, i Rufain, lle yr arhosodd am chwe mlynedd, gan fyned ar deithiau arlunio i Tivoli, bryniau Albano, ac arfordir Naples a'r cyffiniau. Pan oedd yn yr Eidal rhoes heibio wneuthur portreadau personau, a chanolbwyntio ar ddarluniau natur, gan ddilyn yn hynny gyngor a roes Vernet a Zuccarelli iddo. Yn 1757 gadawodd yr Eidal ac ymsefydlu yn Llundain. Dangoswyd darluniau natur o'i waith yn y Society of Artists, 1760-8; y cyntaf a'r mwyaf enwog oedd y ' Niobe ' a wnaethpwyd i ddug Cumberland. Yn 1768 yr oedd yn un o'r aelodau a ffurfiodd y Royal Academi; dewiswyd ef yn llyfrgellydd yr academi yn 1776. Ymneilltuodd yn 1781 ac aeth i fyw yn Colomendy, gerllaw'r Wyddgrug, lle yr oedd ei frawd yn oruchwyliwr stad Catherine Jones perthynas iddynt. Bu farw 15 Mai 1782 a chladdwyd ef yn yr Wyddgrug.

Paentiodd Wilson amryw o'i brif wrthrychau fwy nag unwaith, a hynny'n ddigon diofal weithiau. Dioddefodd gan esgeulustod a pheth blinder yn ystod ei fywyd; erbyn heddiw, fodd bynnag, rhestrir ef ymhlith portreadwyr natur mawr y 18fed ganrif yn Ewrop. Ar ei orau y mae'n bencampwr dull ('style'); fel darluniwr goleuni y mae'n dilyn yng nghamre Claude a Cuyp, a bu'n ysbrydoliaeth i Constable a Turner. Deuai ei ysbrydoliaeth ef ei hunan o ran yr hanner o'r Eidal ac o ran yr hanner arall o Gymru, ac felly medrodd ddangos yr ymdeimlad o ramant mewn fframwaith glasurol. Y mae enghreifftiau o'i waith ym mwyafrif prif gasgliadau cyhoeddus Ewrop ac America. Y mae'r darlun ohono a baentiwyd gan Mengs yn Rhufain yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.