WINSTONE, JAMES (1863 - 1921), arweinydd y glöwyr yn Neheudir Cymru

Enw: James Winstone
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1921
Priod: Sarah Jane Winstone (née Iven)
Rhiant: Hannah Winstone (née Edmunds)
Rhiant: William Winstone
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arweinydd y glöwyr yn Neheudir Cymru
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Huw Morris-Jones

Ganwyd yn Risca, Mynwy, 1863, mab William a Hannah Winstone. Dechreuodd weithio yn 8 oed mewn gwaith priddfeini ac wedyn aeth i'r pwll glo yn Risca. Bu raid iddo adael yno oherwydd ei ymdrechion gyda'r undeb llafur ac aeth i Dreharris. Yn fuan wedi mynd yno gwahoddwyd ef yn ôl i Risca gan y glöwyr i'w cynrychioli fel swyddog i bwyso'r glo. Yn 1901 etholwyd ef yn swyddog Undeb y Glöwyr dros gymoedd dwyreiniol Mynwy. Bu'n un o sefydlwyr Ffederasiwn Glöwyr Deheudir Cymru a gwnaed ef yn llywydd ar ôl William Brace yn 1915; daliodd y swydd honno hyd ei farw yn 1921. Yn 1917 aeth i Ganada fel cynrychiolydd undebau llafur Prydain Fawr. Ymladdodd dair etholiad seneddol, ond bu'n aflwyddiannus bob tro. Ymladdodd fel ymgeisydd Llafur ym mwrdeisdrefi Mynwy yn 1906, ac fel gwrthwynebydd y Llywodraeth Gydbleidiol yn yr is-etholiad ym mwrdeisdrefi Merthyr yn 1915, a thrachefn yn yr un lle yn 1919. Yn 1906 etholwyd ef yn aelod o gyngor sir Fynwy; codwyd ef yn aldramon yn 1919 ac ef oedd llywydd y cyngor yn 1920; yr oedd hefyd yn is-lywydd y pwyllgor addysg, ac yn ustus heddwch yn sir Fynwy. Yn 1886 priododd â Sarah Jane Iven yng Nghasnewydd a bu iddynt saith o blant, ond bu dau farw'n ifanc. Yr oedd Winstone yn Fedyddiwr selog a chymerodd ran flaenllaw mewn cylchoedd Anghydffurfiol a dirwestol. Bu farw yn Llundain ar ôl triniaeth law-feddygol, 27 Gorffennaf 1921.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.