Priododd Ellis Wynne (1) Medi, 1698, â Lowry Wynne, Moelyglo, cares a chymdoges iddo (bu hi f. ym mis Gorffennaf 1699 ar enedigaeth eu cyntaf-anedig, Edward, a fu yntau f. cyn cyrraedd ei ddwyflwydd oed); a (2) â Lowry Lloyd, Hafod Lwyfog, Beddgelert. Ganwyd naw o blant o'r ail briodas; sonnir isod am William, yr ail fab, ac Edward, y mab ieuengaf.
Ar y dydd cyntaf o Ionawr 1704/5 daeth Ellis Wynne yn rheithor plwyf cyfagos Llandanwg; yr oedd gofal capelwriaeth Llanbedr hefyd arno. Ym mis Tachwedd 1706 ysgrifennodd lythyr at yr arglwyddes Margaret Owen, gweddw Syr Robert Owen, Porkington (Brogyntyn yn awr), swydd Amwythig (â chysylltiad ganddo hefyd â Glyn Cywarch), gan ddechrau fel hyn — ‘My Parishioners of Llandanwg and my Self are extreamly desirous of a Chappell again at Harlech …’ (un o lythyrau Brogyntyn, yn y Llyfrgell Genedlaethol; gw. ef., ynghyd â llythyr arall gan Ellis Wynne yng nghasgliad Brogyntyn, yn Dauganmlwyddiant Ellis Wynne, Llawlyfr y Dathliad, 1934, ac yn Jnl. Merioneth Historical Soc., 1949). Yn 1711 rhoes heibio ofalu am Llandanwg (a Llanbedr) ac o fis Gorffennaf y flwyddyn honno hyd ei farwolaeth bu'n rheithor Llanfair-juxta-Harlech. (Gw. manylion am ei waith fel offeiriad a'i fywyd yn gyffredinol, a rhestr o rai o'i lyfrau a'i lawysgrifau, yn Dauganmlwyddiant Ellis Wynne).
Fe gofir am Ellis Wynne yn fwyaf dim fel awdur Gweledigaetheu y Bardd Cwsc, a argraffwyd am y tro cyntaf yn 1704, yn Llundain; o'r clasur pros nodedig hwn yr oedd o leiaf 32 o argraffiadau wedi ymddangos hyd at y flwyddyn 1932 ac o leiaf tri chyfieithiad Saesneg wedi eu paratoi — ceir manylion yn Jnl. of the Welsh Bibliog. Soc., iv, 199-208. Yr oedd yr awdur wedi cyhoeddi eisoes (Llundain, 1701) ei gyfieithiad (Rheol Buchedd Sanctaidd …)o Holy Living … Jeremy Taylor. Yn 1710 ymddangosodd ei argraffiad o'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Yn y Llyfr Gweddi hwn yr argraffwyd ei emyn mwyaf adnabyddus, sydd yn dechrau ‘Myfi yw'r Adgyfodiad Mawr’; cafwyd pedwar emyn arall ganddo, ynghyd â fersiwn o un o'r salmau a dwy garol plygain, mewn gyhoeddwyd wedi iddo farw, gan Edward Wynne, sef yn Prif Addysc y Cristion … 1755. Bu Ellis Wynne f. 13 Gorffennaf 1734 a chladdwyd ef o dan yr allor yn Llanfair-juxta-Harlech.
Priododd William Wynn (1) 28 Ionawr 1733/4, â Jane, ferch William Wynne, Maesyneuadd, gerllaw Harlech (bu hi f. 9 Rhagfyr 1734, ar enedigaeth plentyn); a (2) â Jane, ferch Hugh Lloyd, Trallwyn, sir Gaernarfon. O'r ail briodas cafwyd unig ferch, Ellin (gw. manylion pellach yn Dauganmlwyddiant Ellis Wynne …). Bu William Wynne f. ym mis Gorffennaf 1761.
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth