Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WYNN (TEULU), Gwydir , sir Gaernarfon .

Perthynai Wyniaid Gwydir i linach a oedd yn sefydlu, yn y 14eg g. a'r 15fed g., gnewyllyn stadau bychain yn nhrefgorddau rhyddion Penyfed a Pennant yn Eifionydd . Tua dechrau y 14eg g. priododd Dafydd ap Gruffydd , Nantconwy , a oedd yn hawlio ei fod yn disgyn o Owain Gwynedd , ag Efa , ferch ac aeres Gruffydd Fychan , un o gydetifeddion ‘ Gwely Wyrion Gruffydd ’ ym Mhenyfed ; ceir disgynyddion yr uniad hwn yn y Gesail Gyfarch , Ystumcegid , Clenennau a Bryncir . Yn ystod gwrthryfel Owain Glyndwr bu Ieuan ap Maredudd ap Hywel ap Dafydd ap Gruffydd , Cefn y Fan (a elwid yn Ystumcegid yn ddiweddarach) a Chesail Gyfarch , yn pleidio'r Goron, gan farw yn 1403 wrth amddiffyn castell Caernarfon yn erbyn lluoedd Glyndwr ; yr oedd Robert , ei frawd, yn un o bleidwyr Glyndwr a derbyniodd bardwn gan Harri , tywysog Cymru , yn 1408 .

Oblegid, o bosibl, rhannu fel hyn ar wrogaeth aelodau'r teulu, parhaodd rhan helaethaf tiroedd y teulu yn llinell Ieuan ap Maredudd hyd 1463 ; yn y flwyddyn honno, rhannwyd y tiroedd a daeth Gesail Gyfarch i feddiant Ieuan ap Robert ap Maredudd ( 1437 - 1468 ). Pleidiwr plaid Lancaster ydoedd ef a bu f. yn y Gesail Gyfarch yn 1468 o'r pla . Er mwyn osgoi cymryd rhan yng nghwerylon ei geraint yn Eifionydd prynodd ei fab, Maredudd , les ar gastell Dolwyddelan , c. 1489 ; yn ddiweddarach adeiladodd Penimnen ac, yn nes ymlaen, prynodd Gwydir gan Dafydd ap Hywel Coetmor c. 1500 .

Etifeddodd ei fab ef,



JOHN (WYN) ap MAREDUDD (bu f. 9 Gorffennaf 1559 ),

diroedd ei dad yn Gwydir , Nantconwy , Dolwyddelan , a Llanfrothen ; aeth y Gesail Gyfarch i'w hanner-brawd, Humphrey . Ailadeiladodd Gwydir yn 1555 . Yr oedd yn aelod seneddol dros sir Gaernarfon , 1551-3 , a'i siryf yn 1544-5 , 1553-4 , a 1556-7 . Yr oedd gyrfa ei fab, MAURICE WYNN (bu f. 18 Awst 1580 ), yn gyffelyb. Efe oedd y cyntaf o'r teulu i fabwysiadu'r cyfenw Wynn . Bu'n aelod seneddol sir Gaernarfon yn 1553 , 1554 , 1559 , a 1563-7 , ac yn siryf yn 1555 , 1570 , a 1578 .

Aelod mwyaf adnabyddus y teulu oedd mab Maurice , sef



Syr JOHN WYNN ( 1553 - 1627 ).

Yr oedd yng Ngholeg All Souls , Rhydychen , yn 1570 , yn Furnival's Inn yn 1572 , ac yn yr Inner Temple yn 1576 . Ymddengys iddo fyw yn Llundain hyd adeg marw ei dad (yn 1580 ); efallai, serch hynny, iddo fod yn trafaelio yn Ewrop . Wedi iddo etifeddu Gwydir penderfynodd chwarae ei ran ym mywyd cyhoeddus Gogledd Cymru gydag awch. Bu'n aelod seneddol sir Gaernarvon , 1586-7 , yn siryf y sir honno, 1587-8 a 1603 , yn siryf Meirionnydd , 1588-9 , 1600-01 , ac yn siryf sir Ddinbych , 1606-7 . Cafodd ei urddo'n farchog yn 1606 , ei ddewis yn aelod o Gyngor y Goror yn 1608 , a'i ddyrchafu'n farwnig yn 1611 .

O ran ei natur yr oedd yn ddihidio o deimladau a hawliau pobl eraill, yn wancus am diroedd a dylanwad, yn hoff o ymgyfreithio, ac yn wyllt ei dymer. Efe oedd arweinydd y blaid a oedd oruchaf yn sir Gaernarfon — yn ei flynyddoedd olaf yn unig yr oedd goruchafiaeth ei deulu ef a'i blaid yn cael bygwth arni gan eiddigedd teulu Griffith , Cefnamwlch , arweinydd ysgwieriaid ceidwadol Lleyn — gw. isod, dan Syr Richard Wynn , yr ail farwnig . Ceisiodd Syr John Wynn gychwyn gwneuthur brethynnau Cymreig (‘friezes’) yn nyffryn Conwy ; yr oedd iddo ddiddordeb yng ngwaith copr Mynydd Parys , sir Fôn ; ac yn y flwyddyn 1625 awgrymodd i Syr Hugh Myddelton y buddioldeb o sychu rhannau o'r Traeth Mawr , sydd yn rhannu sir Gaernarfon oddi wrth sir Feirionnydd (ac a oedd yn ymestyn bron hyd at dy'r Wyniaid yn Llanfrothen ). Sefydlodd ysgol ac elusendai yn Llanrwst yn 1610 . Yr oedd yn un o'r petisiynwyr am gomisiwn brenhinol i gynnal eisteddfod yn 1594 , a bu'n bleidiol i weithgarwch llenyddol ei gâr, Thomas Wiliems , Trefriw .

Ysgrifennodd ‘ History of the Gwydir Family ’ a gyhoeddwyd yn 1770 (gol. Daines Barrington ), 1827 (gol. Angharad Llwyd ), 1878 (gol. Askew Roberts ), a thrachefn yn 1927 (gol. John Ballinger ). Ysgrifennodd hefyd arolwg ar Benmaenmawr (cyhoeddwyd 1859 , gydag adargraffiad yn 1906 , gol. W. Bezant Lowe ). Bu f. 1 Mawrth 1626/7 .

O'i wraig Sydney , merch Syr William Gerrard , bu i Syr John Wynn 10 mab a dwy ferch. Y mab hynaf oedd



JOHN WYNN ( c. 1584 - 1614 )

a gafodd ei addysg yn ysgol Bedford ac yn Lincoln's Inn . Bu ef yn siryf Meirionnydd , 1611-2 , a chafodd ei urddo'n farchog yn 1613 . Nid ymddengys i'w briodas â Margaret , merch Syr Thomas Cave , fod yn un hapus, a bu'n trafaelio yn Ffrainc a'r Eidal , 1613-4 , gan farw yn Lucca yn yr Eidal , 1614 , o bosibl yn Babydd . Ei frawd iau ef,


RICHARD WYNN ( 1588 - 1649 ),

a ddilynodd eu tad yn ail farwnig yn 1627 . Wedi cael ei addysg yn Lincoln's Inn , dechreuodd Richard Wynn wasnaethu y Lord Chamberlain yn 1608 , yr oedd yn was yr ystafell wely i Siarl , tywysog Cymru , 1617-25 , a bu gyda'r tywysog yn Sbaen yn 1623 . Dewiswyd ef yn drysorydd i'r frenhines Henrietta Maria yn 1625 ; yn 1629 yr oedd yn was yr ystafell wely i'r brenin a'r frenhines . Bu'n aelod seneddol sir Gaernarfon , 1614 , Ilchester , 1621-2 a 1624 , Andover , 1640 , a Lerpwl , 1640-9 . Pan fethodd yn ei ymgais i gael ei ethol yn aelod seneddol dros sir Gaernarfon yn 1620 ac y dewiswyd John Griffith , Cefnamwlch , dechreuodd dylanwad gwleidyddol teulu Gwydir yn y sir edwino o ddifrif. Adeiladodd Gapel Gwydir yn eglwys Llanrwst yn 1633 . Er mor agos oedd ei gysylltiadau personol â'r teulu brenhinol ni fu iddo ddangos ei fod yn awyddus i wastraffu ei stadau yng ngwasanaeth y brenin yn ystod y Rhyfel Cartrefol . Bu f. 18 Gorffennaf 1649 .

Ni fu plant o briodas ( 1618 ) Syr Richard Wynn ag Anne , ferch ac aeres Syr Francis Darcy , a disgynnodd y farwnigiaeth a'r stadau i'w frawd,



OWEN WYNN ( 1592 - 1660 ).

Cafodd Owen Wynn ei addysg yn ysgolion Westminster ac Eton a bu yng Ngholeg S. Ioan , Caergrawnt . Prentisiwyd ef i un o farsiandwyr y Staple , 1608 . Yn ddiweddarach cafodd nawdd John Williams , arglwydd-geidwad y sêl fawr , a phriododd â Grace , nith hwnnw, yn 1624 . Fel ei frawd hyn, ni chymerodd unrhyw ran yn y Rhyfel Cartref . Serch iddo ofni colli ei diroedd yn 1656 ('sequestration’) ymddengys iddo ddianc rhag y golled honno; yn 1653 , pan oedd yn siryf sir Gaernarfon , efe a gyhoeddodd Cromwell yn ddiffynnwr. Bu'n siryf sir Ddinbych yn 1656 . Cymerai ddiddordeb mewn alcemi a meteloedd , a bu'n gohebu â John Davies o Fallwyd . Bu f. 15 Awst 1660 .

Y 4ydd barwnig ( 1660 ) oedd



RICHARD WYNN ( c. 1625 - 74 ),

mab Syr Owen Wynn . Bu'n siryf sir Gaernarfon , 1657-8 , ac yn aelod seneddol y sir, 1647-53 a 1661-75 ; bu iddo hefyd gysylltiad â llywodraeth leol bwrdeisdref Dinbych . Yn 1659 ymddengys fod iddo ran a chyfran yn y gwrthryfel brenhinol a drefnwyd gan Syr George Booth a Syr Thomas Myddelton — yr oedd wedi priodi â Sarah , ferch Syr Thomas , yn 1654 — a bu yn garcharor yng Nghaernarfon . Pan fu f., 30 Hydref 1674 , aeth ei stad i'w ferch, MARY WYNN ( 1661 - 1689 ), a briododd, yn 1678 , â Robert Bertie , barwn Willoughby de Eresby , ardalydd Lindsey a dug Ancaster wedi hynny, yn nheulu yr hwn y parhaodd Gwydir hyd 1895 . Aeth y farwnigiaeth i John Wynn , Wattsay ( 1628 - 1719 ), unig fab Henry Wynn , degfed mab y barwnig cyntaf , a phan bu John Wynn farw daeth i ben.

Ffynonellau:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Calendar of Wynn (of Gwydir) Papers, 1515–1690, in the National Library of Wales and elsewhere , 1926 ;
  • Clenennau Letters and Papers in the Brogyntyn Collection , 1947 , i, Introduction;
  • Sir John Wynn, The History of the Gwydir Family ;
  • W. R. Williams , The History of the Parliamentary Representation of Wales , 1895 ;
  • E. Breese , Kalendars of Gwynedd … , 1873 ;
  • Y Cymmrodor , xxxviii;
  • The Welsh Review , i, 187-91;
  • Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 1939 , 37-46;
  • J. E. Griffith , Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families , 1914 , 280-1;
  • E. G. Jones , ‘The Caernarvonshire Squires, 1558-1625 (traethawd M.A., anghyhoedd).

Awdur:

Yr Athro Glyn Roberts, M.A., (1904-1962), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54