WYNN ac OWEN (TEULUOEDD), Glyn (Cywarch), Sir Feirionnydd, a Brogyntyn Sir Amwythig.

Priododd EINION, a oedd yn fyw ar 16 Hydref 1380, ac yn disgyn yn bumed o Osbwrn Wyddel (ganwyd c. 1293), â Tanglwst, ferch Rhydderch ap Ieuan Llwyd , Gogerddan, Sir Aberteifi. Dilynwyd ef gan IFAN (yn fyw 6 Hydref 1427), RHYS, ac IFAN (yn fyw 4 Mawrth 1513). Gwraig Ifan oedd Laurea, merch Richard Bamville, Wirral, sir Gaerlleon - y mae'n debyg iddynt briodi cyn 1 Hydref 1499 ac mai drwy'r briodas hon y daeth Ifan, a elwir weithiau yn IEUAN AP RHYS (yr oedd yn fyw yn 1513), yn berchen tiroedd y Glyn - ' had released to him certain lands which became part of Glyn estate which are stated to have been pledged by Richard Bamville ' medd W.W.E. Wynne yn Pedigree of … Wynne of Peniarth (London, 1872), gan ychwanegu ' Through his marriage, Glyn and much of the property in the parish of Llanvihangel [y Traethau], came into the family, but probably there was no mansion house at Glyn at so early a period.' Yr oedd JOHN ab IEUAN, aer y briodas uchod, yn fyw ar 27 Tachwedd 1545, ac yn byw yn Glyn. Mab iddo ef oedd ROBERT WYN ap JOHN (bu farw 1589) a briododd (yn 1544, o bosibl) Katherine, merch Eliza Morris (sef Ellis ap Maurice), Clenennau, Sir Gaernarfon, ac a ddaeth yn dad MAURICE AP ROBERT WYNNE (bu farw rhwng 9 Chwefror 1609/10 a 16 Ebrill 1610). Yr oedd yn siedwr Meirionnydd ar 19 Hydref 1604. Trwy ei ail wraig, Annes, merch Robert ap Richard, Llecheiddior, Sir Gaernarfon, cafodd WILLIAM WYNN (bu farw 1658), siryf Meirionnydd yn 1618 ac eilwaith yn 1637. Yn 1611 priododd ef, sef William Wynn, â Catherine (bu farw 23 Chwefror 1638/9), ferch William Lewis Anwyl, Parc, Llanfrothen. Dyma'r William Wynn a adeiladodd (ailadeiladu) y Glyn presennol; am fanylion gweler erthygl gan yr arglwydd Harlech yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, i, 9-11. Aer William Wynn a Katherine (Anwyl) oedd ROBERT WYNN (bu farw 1670), Glyn ac Ystumcegid, siryf Meirionnydd yn 1655 a 1699. Ei wraig ef oedd Catherine (bu farw 1675), merch a chyd-aeres Robert Owen Ystumcegid; eu haer hwythau oedd OWEN WYNN (bu farw 1682/3), Glyn ac Ystumcegid, a briododd Elizabeth, merch ac aeres Robert Mostyn, Nant, Sir y Fflint. O'r briodas honno bu dwy ferch - (1) MARGARET (bu farw 1727), a briododd Syr ROBERT OWEN (bu farw 1698), Clenennau a Brogyntyn, Sir Amwythig, a fu'n aelod seneddol sir Feirionnydd, 1681-5, ac a etholwyd dros fwrdeisdrefi Caernarvon yn 1698 - yr oedd Syr Robert Owen yn ŵyr i Syr John Owen (1600 - 1666), Clenennau, a fu'n ymladd ym mhlaid Siarl I; a (2) Catherine, gwraig Peter Pennant, Bychtwn, Sir y Fflint. Yr oedd yr arglwyddes Margaret Owen a'i gŵr yn gydnabyddus ag Ellis Wynne, awdur Gweledigaetheu, y Bardd Cwsc, yntau hefyd yn llinach Wyniaid Glyn Cywarch. Ysgrifennodd Ellis Wynne at Syr Robert Owen ar 16 Medi 1697 yn erfyn ei gymorth i ddatrys problem ynghylch eiddo John Jones, Uwchlaw'r Coed, ewythr Wynne, ac, ar 9 Tachwedd 1706, anfonodd lythyr at yr arglwyddes, a oedd bellach yn weddw, yn gofyn iddi hi a'i mab WILLIAM OWEN, adael i'r ysgrifennydd a'i blwyfolion ym mhlwyf Llandanwg gael yr hen Shire Hall yn Harlech i'w droi'n gapel anwes; y mae'r ddau lythyr yng nghasgliad Brogyntyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru - gweler Ellis Wynne: Dauganmlwyddiant, a gyhoeddwyd gan y Llyfrgell yn 1934. Aer Syr Robert a'r arglwyddes oedd WILLIAM OWEN (bu farw 1768). Priododd ef â Mary, ferch Henry Godolphin, deon S. Paul's a phennaeth ('Provost') Eton - gweler llythyrau aelod o deulu Godolphin yn Ll.G.C., ac ymdriniaeth arnynt yn Etoniana, 1939. Gadawodd y ddau hyn ferch, MARGARET OWEN, a briododd Owen Ormsby (bu farw 1804), Willowbrook, swydd Sligo, Iwerddon, yntau, gyda llaw, yn fab i Margaret Wynn, a oedd yn un o ddisgynyddion teulu Wynn o Wydir. Merch i Margaret (Owen) ac Owen Ormsby oedd MARY JANE ORMSBY (bu farw 1869), aeres Glyn, Clenennau, a Brogyntyn. Ei phriod hi oedd William Gore (bu farw 1860), a'u haer hwy oedd JOHN RALPH ORMSBY -GORE (1816 - 1876), y barwn Harlech 1af (crewyd 11 Ionawr, 1876).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.