YALE (TEULU), Plas yn Iâl (Bryneglwys) a Plas Gronw (Wrecsam)

Yr oedd y teulu hynafol hwn yn sir Ddinbych yn disgyn o Osbwrn Wyddel, Corsygedol, Sir Feirionnydd, hynaif Fychaniaid Corsygedol, trwy briodas Elise, gor-or-orwyr Osbwrn, ag aeres Allt Llwyn Dragon (Plas yn Iâl wedi hynny). Addysgwyd ei wyr ef

THOMAS YALE (c. 1526 - 1577), cyfreithiwr eglwysig

trydydd mab David Lloyd (Yale) a Gwenhwyfar Lloyd, Llwyn-y-maen, yng Ngholeg Queens', Caergrawnt, a daeth yn gymrawd o'r coleg hwnnw (1544-67) ar ôl iddo raddio. Yn 1546, derbyniodd is-urddau eglwysig ('minor orders'), 24 Medi 1556, gan William Glyn, esgob Bangor, a'i sefydlodd yn rheithoraeth Llantrisant, sir Fôn, ychydig wythnosau'n ddiweddarach. Ni bu'n byw yno fodd bynnag, eithr ymgymhwysodd ar gyfer gyrfa ym myd y gyfraith trwy ddyfod yn Ll.D. (1557) ac yn gyfreithiwr yn llys archesgobol Caergaint (1559) - mewn pryd i gymryd rhan flaenllaw yn y trefniadau cyfreithiol ynglyn ag apwyntiad Matthew Parker yn archesgob Caergaint. Gwnaeth, Parker ddefnydd pur helaeth ohono, gan ei wneuthur yn ganghellor, yn 'vicar-general,' yn farnwr y 'court of audience,' ac edrych arno fel gwr ei ddeheulaw, a'i anfon amryw droeon ar ymweliadau esgobol, yn cynnwys dau ymweliad ag esgobaeth Bangor, 1566 a 1576, yr ail dro gyda Nicholas Robinson, a'i enwi fel ysgutor yn ei ewyllys. O 1562 hyd 1570 yr oedd yn ganghellor esgobaeth Bangor ac o 1564 hyd 1573 yn brebend y Faenol yn eglwys gadeiriol Llanelwy, a gyfrifid yn werth £40 y flwyddyn. Yr oedd yn 'Dean of Arches' o 1567 hyd 1573 ac ar 12 Gorffennaf 1570 gwnaethpwyd ef yn gyd-geidwad (gyda mab Parker) o lys ewyllysiau ('prerogative court') Caergaint. Ar ôl cael ei ethol yn archesgob Caergaint, 1576, ymgynghorodd Grindal â Yale a William Awbrey ar fater diwygio y llysoedd eglwysig, a phan gymerwyd lle Grindal oddi arno ('sequestration'), bu Yale yn gweinyddu'r holl archesgobaeth hyd adeg ei afiechyd marwol ym mis Tachwedd 1577 pryd y'i dilynwyd gan Awbrey.

Y mae'n weddol sicr mai mab anghyfreithlon John Wyn (Yale), aer Plas yn Iâl a brawd hyn Thomas Yale, oedd

DAVID YALE, neu LLOYD (fu farw 1626), canghellor Caer

Dilynodd ei ewythr i Goleg Queens', Caergrawnt, 1555, a bu yntau, fel ei ewythr, yn gymrawd ei goleg (1565-81). Wedi iddo raddio, cafodd reithoraeth Llandegla (1564-73) ac yn 1578 cafodd ei ddewis yn brebend y Faenol ar ôl ei ewythr. Gydag Edmund Meyrick bu'n gweinyddu esgobaeth Bangor pan oedd yn wag (1585) rhwng cyfnod Nicholas Robinson a Hugh Bellot. Daeth yn brebendari Caer, 1582, ac yn ganghellor yr esgobaeth, 1587. Yn 1598 prynodd diroedd lawer gan deulu Erddig (Erthig) (gweler dan Edisbury), gan werthu rhai ohonynt eithr cadw Plas Gronw a fu'n gartref ei deulu hyd 1721. Priododd ei fab, Thomas Yale II, â merch George Lloyd, esgob Caer, ac wedi marw ei gwr ac iddi hithau ail- briodi â llywiawdr New Haven (Con., U.D.A.), aeth ei weddw a'i phlant i fyw yn Plas Gronw gyda'i thad-yng-nghyfraith.

Wyr i Thomas Yale II oedd

ELIHU YALE (1649 - 1721), marsiandwr yn yr India

Yn America y ganwyd ef eithr dychwelodd i Brydain (c. 1651) yn blentyn gyda'i dad, David Yale (II) a ychwanegodd Lwyn Einion at eiddo'r teulu. Cafodd y mab ei addysg yn Llundain a danfonwyd ef gan ei dad i Madras (c. 1670) i fod yn glerc o dan yr East India Company. Daeth yn llywiawdr ('governor') yno (1687-99), a dychwelodd gyda ffortiwn o £200,000 i fyw yn Llundain (fel un o lywiawdwyr y cwmni) bob yn ail â Phlas Gronw lle yr oedd yn noddwr hael i eglwys Wrecsam ac yn fenthyciwr arian i Josua Edisbury; eithr cofir ef yn bennaf am ei roddion (1714-21) i'r coleg yn New Haven, a enwyd yn Brifysgol Yale wedi hynny ar ei enw ef. Bu farw yn Llundain yn 1721 heb wneuthur ei ewyllys. Aethpwyd â'i weddillion i Wrecsam i'w claddu, a rhannwyd y stad rhwng cyd-aeresau, a werthodd y rhan fwyaf ohoni. Aeth Plas Gronw yn ôl i feddiant stad Erthig yn 1728 a thynnwyd y ty i lawr yn 1876.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.