Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



YARDLEY, EDWARD (1698-1770?), archddiacon Ceredigion. Er nad oedd yn Gymro y mae Yardley yn haeddu nodyn byr oherwydd y gwaith a wnaeth ar gofysgrifau eglwys gadeiriol Tyddewi ac ysgrifennu ffrwyth ei ymchwil yn ei lawysgrif a alwodd yn ‘Menevia Sacra’ (yn Ll.G.C. yn awr). Rhydd ef ei hun fanylion am ei yrfa yn y llawysgrif — gw. tt. 230-2 yn Menevia Sacra … gol. gan Francis Green (dros y Cambrian Archaeological Association), 1927. Ganed ef yn Llundain, 28 Mawrth 1698, mab Robert ac Elizabeth Yardley. Cafodd ei addysg yn y Merchant Taylors School a Choleg S. Ioan, Caergrawnt (B.A. 1717/18, M.A. 1721, B.D. 1729). Wedi cael ei ordeinio (diacon 1721, offeiriad 1722) bu'n gwasnaethu yn Llundain hyd ei ddewis i reithoraeth (segur-swydd) S. Florence, sir Benfro (4 Mawrth 1731/2); daeth wedyn yn archddiacon Ceredigion (26 Mai 1739). Dywed ef ei hun iddo yn ystod cyfnod o naw mis yng Nghymru (1739) ddechrau astudio cofysgrifau a hynafiaethau eglwys gadeiriol Tyddewi; rhydd inni hefyd deitlau saith llyfr a gyhoeddodd ar faterion eraill. Penodwyd ei olynydd ddechrau Mawrth 1770, ‘yn herwydd ei f.’

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

YARDLEY, EDWARD (1698-1769; Bywg., 1042) Ychwaneger iddo gael ei ethol, 5 Tach. 1731, yn bregethwr yng nghapel S. Mihangel (hen gapel ysgol Highgate a oedd yn gapel anwes ym mhlwy S. Fair, Hornsey), swydd a ddaliodd dros weddill ei oes. Bu f. 26 Rhag. 1769 (nid 1770) yn 71 oed. Pan chwalwyd y capel symudwyd y cerrig beddau i eglwys S. Fair.

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth gan y Parch. D. H. Matthews allan o lyfryn Old Highgate yn dyfynnu F. T. Cansick, Epitaphs of Hornsey, St Pancras &c (3 cyf., 1872-5).

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth