YORKE, PHILIP (1743-1804), Erddig (neu Erthig ), Wrecsam , hynafiaethydd,
mab hynaf Simon Yorke (bu f. 1767), ŵyr Simon Yorke, Dover, groser cyfanwerthol, a chefnder i'r arglwydd-ganghellor Hardwicke; g. 29 Gorffennaf 1743 yn Erthig, a etifeddasid gan Simon (1732) oddi wrth ei ewythr, John Meller, a brynasai'r stad ar ôl i Josua Edisbury [q.v.] fynd yn fethdalwr. Yr oedd yn fab-bedydd Hardwicke. Wedi iddo fod mewn ysgolion paratoawl yn ymyl Llundain (1758-9), treuliodd dri thymor yn Ysgol Eton (1759-60); bu wedyn gartref am ychydig amser cyn treulio dau dymor yn Benet College, Caergrawnt (Coleg Corpus Christi yn awr) o 10 Ebrill 1762 ymlaen, a myned ymlaen i Lincoln's Inn (1764). Graddiodd yn M.A. ‘per literas regias’ yn 1765 a dyfod yn ôl i Gymru gyda diddordeb cryf yn y clasuron (Virgil yn arbennig) ac atyniad tuag at hynafiaethau — etholwyd ef yn F.S.A. yn 1768. Ychydig o flas a oedd ganddo ar ddiddordebau a phleserau ffasiynol ei oes. Pan etifeddodd y stad, y flwyddyn flaenorol, dangosodd ei fod yn feistr tir goleuedig; defnyddiodd ei incwm o £7,000 y flwyddyn i brydferthu'r plasty a'r tir o'i amgylch, i brynu ychwaneg o diroedd yn agos i'w stad ei hun, i ddatblygu gweithiau mwynau, ac i amaethu mewn dull gwyddonol. Cymerth ei le mewn bywyd cymdeithasol a llywodraeth leol, a bu yn y Senedd ddwywaith dros fwrdeisdrefi ‘poced’ yn Lloegr. Eithr oblegid fod ei ddechreuadau a'i addysg yn Seisnig a'i wraig gyntaf heb fod yn Gymraes, ychydig o ddiddordeb a gymerai yng ngwlad ei enedigaeth hyd nes iddo, yn 1782, briodi â Diana, merch Piers Wyn, Dyffryn Aled, a gweddw R. O. Meyrick. Gan ddechrau ‘with no great respect for the mountain Welsh great or small’ (‘Nimrod’), a hoffai ei wraig yn fwy ‘when the Welshwoman is not predominant’ (Cust, Chronicles of Erthig … ii, 251, 261), datblygodd ddiddordeb hynafiaethydd yn ei disgyniad hi o Farchudd, arglwydd Uwchdulas, nes iddo, erbyn 1795, ‘come to think the race of Cadwallon more glorious that the breed of Gimcrack’; y flwyddyn honno argraffwyd drosto, gan Richard Marsh, Wrecsam, Tracts of Powys, gwaith wedi ei gyflwyno i Thomas Pennant [q.v.] ac yn seiliedig ar yr ychydig ffynonellau printiedig a oedd at ei wasanaeth ac ar lythyrau a fu rhyngddo â Walter Davies (‘Gwallter Mechain’ [q.v.] ac ysgolheigion eraill; y mae'r gyfrol yn cynnwys hanes disgynyddion Bleddyn ap Cynfyn [q.v.], gwrthateb i feirniadaeth Polydore Virgil ar yr hen Frythoniaid, nodiadau ar arglwyddiaethau'r Goron ym Mhowys, a rhai llythyrau gan Goronwy Owen [q.v.] a Lewis Morris (‘Llewelyn Ddu o Fôn)’ [q.v.]. Helaethwyd y gwaith hwn a datblygodd nes ffurfio'r gwaith clasurol hwnnw Royal Tribes of Wales, a argraffwyd, 1799 gan John Painter, Wrecsam. Rhoes fynegiant hefyd i'w ddiddordeb mewn achyddiaeth ac arf-beisiau trwy beri paentio a dodi yng nghyntedd blaen ei dŷ arf-beisiau prif deuluoedd Gogledd Cymru, eithr llesteiriwyd gan ei farwolaeth (19 Mawrth 1804) ei fwriad o baratoi gwaith ar y Pymtheg Llwyth Cyffredin a oedd i ddilyn ei Royal Tribes. Claddwyd ef ym Marchwiel; ysgrifennodd ‘Nimrod’ fel hyn amdano — ‘the worst horseman I ever saw in a saddle,’ a ‘one of the worst-dressed men in the country,’ eithr ychwanegodd ei fod heb ei ail fel cydymaith, ymddiddanwr, ac adroddwr straeon; llwyddodd hefyd i raddau fel actiwr yn chwaraedy Wynnstay. Y mae teuluoedd Yorke (Erthig) a Wynn-Yorke (Dyffryn Aled) yn ddisgynyddion o'i ddwy briodas.
Llyfryddiaeth:
- D.N.B.;
- A. L. Cust, Chronicles of Erthig on the Dyke;
- A. N. Palmer, Country Townships of Wrexham, 236-42;
- J. E. Griffith, P.A.C.F., 167, 327;
- ‘Nimrod’ (C. J. Apperley), My Life and Times;
- T. Pennant, Tours (arg. 1883), i, 374-5;
- Philip Yorke, The Royal Tribes of Wales (arg. 1887), rhagymadrodd bywgraffyddol gan R. Williams.
Awdur:
Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor