Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



YOUNG, DAVID (1844-1913), gweinidog Wesleaidd a hanesydd; g. gerllaw Hwlffordd, 3 Tachwedd 1844. Pan oedd yn ieuanc symudodd y teulu i Bontlotyn, a bu yntau am gyfnod yn gweithio yn y gwaith glo. Derbyniwyd ef i'r weinidogaeth Wesleaidd yn 1868, a bu'n gwasnaethu cylchdeithiau Caerfyrddin (1868), Aberystwyth (1869-71), Machynlleth (1872), Merthyr Tydfil (1873-5), Aberdâr (1876-8), Llanidloes (1879-81), Caerdydd (1882-4), a Ferndale (1885-7). Etholwyd ef yn gadeirydd talaith Deheudir Cymru yn 1880. Pleidiai'r cynllun o uno Wesleaeth Gymraeg a Wesleaeth Saesneg y Deau, ‘amalgamation’ fel y'i gelwid — a phan ganfu mor gyndyn oedd gwrthwynebiad ei gyd-Gymry yn y dalaith iddo, aeth drosodd i'r gwaith Saesneg. Wedi tymor ar gylchdaith Saesneg Loudoun Square, Caerdydd (1888-90), bu ar rai o gylchdeithiau pwysicaf Lloegr. Cymerth ran flaenllaw ynglŷn â dirwest ac addysg (yn enwedig ynglŷn â sefydlu Coleg Caerdydd), a dywedir iddo ddangos dawn arbennig fel trefnydd ar ei gylchdeithiau. Yn 1893 cyhoeddodd hanes Wesleaeth yng Nghymru, The Origin and History of Methodism in Wales; gw. hefyd Proc. Wesley Hist. Soc., ix. Bu f. ym Margate, 4 Awst 1913.

Llyfryddiaeth:

  • Yr Eurgrawn, 1913, 358.

Awdur:

Y Parch. Griffith Thomas Roberts, M.A., (1887-1977), Tregarth, Bangor / Talsarnau