YOUNG, THOMAS (1507-1568), archesgob Caerefrog;
g. yn Hodgeston, sir Benfro. Aeth i Neuadd Broadgates (Coleg Pembroke heddiw), Rhydychen, lle y graddiodd B.A. 14 Mehefin 1529, M.A. ar 19 Mawrth 1553, B.C.L. ar 17 Chwefror 1538, a D.C.L. ar 13 Chwefror 1566, a daeth yn bennaeth ei neuadd, 1542-6. Gwnaed ef yn ficer Llanfihangel Castell Gwallter (Genau'r Glyn), Ceredigion, yn 1541, rheithor Hodgeston a Nash, 1542, prebendari Trallwng, 1545, a Thregaron, 1560. Wedi ei ddewis yn gantor Tyddewi yn 1542, daeth yno i breswylio yn 1547, a bu'n un o arweinyddion y blaid a wrthwynebodd Ferrar [q.v.]. Dywedir iddo ffoi i'r Cyfandir yn ystod teyrnasiad Mari, ond ni ellir olrhain ei alltudiaeth ymhlith cofnodion Cyfandirol. Yn 1559, bu'n un o ymwelwyr brenhinol esgobaethau Cymru, ac etholwyd ef yn esgob Tyddewi, 6 Rhagfyr 1559. Ar sail cymeradwyaeth Parker etholwyd ef yn archesgob Caerefrog, 27 Ionawr 1561. Fel archesgob a llywydd cyngor y Gogledd, bu'n flaenllaw yn hyrwyddo trefniant crefyddol Elisabeth, ond cafodd ei feirniadu am gamddefnyddio eiddo tymhorol ei esgobaeth. Bu f. 26 Mehefin 1568, a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Caerefrog. Priododd (1) â merch George Constantine, a (2) â Jane Kynaston, Estwick, Staffs., a ddug iddo un mab, Syr George Young.
Llyfryddiaeth:
- D.N.B.;
- Cal. S.P. Dom. a Cal. S.P. Spanish;
- Foxe, Acts and Mons.;
- Garrett, Marian Exiles;
- Le Neve, Fasti;
- Wood, Athen. Oxon.;
- E. Yardley, Men. Sac..
Awdur:
Syr Glanmor Williams, M.A., Abertawe