BAKER, ELIZABETH (c.1720-1789), dyddiadures.
Er nad oedd yn Gymraes — merch clerigwr yn byw yn rhywle yng nghanolbarth Lloegr oedd hi — treuliodd Elizabeth Baker gyfran mor helaeth o'i hoes yn sir Feirionnydd a daeth ei chysylltiad â phlasty a thylwyth Hengwrt, gerllaw Dolgellau, mor glos nes haeddu ohoni le yn y geiriadur hwn, yn arbennig felly ar gyfrif y dyddiadur a gadwodd. Wedi iddi hi, a phobl o'r enw Ralph Lodge, Mrs. Gilbert, a Mrs. Rawlins, gael patent yn caniatáu iddynt chwilio am feteloedd ar rai o diroedd y Goron rhwng Dolgellau a Llanuwchllyn, gadawodd Elizabeth Baker Loegr 25 Gorffennaf 1770 gyda'r amcan o gario'r gwaith ymlaen. Siomiant mawr fu ei hantur, ac ni chafodd hi fawr o gymorth ychwaith gan ei phartneriaid. Gorfu iddi hi, felly, ddyfod yn fath o ysgrifenyddes, o 1771 hyd 1778, i Hugh Vaughan, Hengwrt, a oedd mewn helynt ar ôl helynt ariannol ac yn gorfod dioddef bygwth colli ei gartref a'i eiddo. Tua diwedd y flwyddyn 1778 symudodd Miss Baker i Doluwcheogryd, plasty llai na Hengwrt ond yn ei ymyl; yno llwyddodd am gryn amser i ddal y tŷ rhag bygythion ac ymosodiadau is-siryfion a beilïau; llwyddodd y rheini yn y pen draw, fodd bynnag, a bu Elizabeth Baker yn byw yn Bryn Adda, tŷ sydd yr ochr arall i'r dyffryn, hyd nes y symudodd i dref Dolgellau ar 26 Ebrill 1784. Rhydd ei hanes yn ei dyddiadur — Pen. MS. 416 (mewn 10 cyfrol) yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ceir detholion ohono (wedi eu gwneuthur gan Syr Ben Bowen Thomas) yn Cylchgrawn Ll.G.C., ii, 81-101; o ddarllen y detholion hynny fe welir gymaint o olau a deflir ganddynt ar hanes lleol (pethau a phersonau) nid yn unig yn sir Feirionnydd ond mewn mannau eraill yng Ngogledd Cymru. Claddwyd hi ym mynwent eglwys Dolgellau 26 Tachwedd 1789.
Llyfryddiaeth:
- At y cyfeiriadau a roddwyd uchod ychwaneger B. B. Thomas, The Old Order (Cardiff, 1945).
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth