Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BARRINGTON, DAINES (1727-1800), barnwr, hynafiaethydd, a naturiaethwr. Disgrifir ei yrfa yn weddol lawn yn y D.N.B. — mab i Shute, is-iarll 1af Barrington, ydoedd. Er nad Cymro mohono, daeth i gysylltiad clos â Chymru ac i ddylanwadu ar ei bywyd mewn rhai cyfeiriadau, gan astudio a hyrwyddo astudiaeth ei hanes a'i hynafiaethau. O 1757 am dros ugain mlynedd bu'n farnwr cylchdaith Môn, Caernarfon, a Meirionnydd (y Sesiwn Fawr); yn ddiweddarach yr oedd yn farnwr yng nghylchdaith Caer — yn ystod y cyfnod hwnnw y bu'n cydeistedd â'r barnwr (yr arglwydd) Kenyon [q.v.] i glywed apêl am ohirio praw deon Llanelwy, sef William Davies Shipley [q.v.]. Deuai'r swyddi hyn ag ef yn fynych i Ogledd Cymru, a phan nad oedd ar gylchdaith gohebai â rhai o brif hynafiaethwyr a naturiaethwyr y wlad. Yr oedd yn awyddus am gael gweld ffrwyth yn dyfod o astudiaethau Evan Evans (‘Ieuan Brydydd Hir’) [q.v.] i lenyddiaeth gynnar Cymru; efe (a'r esgob Thomas Percy) fu'n foddion i ddyfod â gwaith Evan Evans i sylw Thomas Gray a Samuel Johnson (Cymm., 1951, 69). Ef hefyd oedd y cyntaf i gyhoeddi gwaith Syr John Wynn, History of the Gwydir Family; fe'i cyhoeddodd y tro cyntaf yn 1770, gyda nodiadau, a'r eiltro (yn 1781) fel rhan o gyfrol yn dwyn y teitl Miscellanies by the Honourable Daines Barrington. Yr oedd yn aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, yn F.S.A., ac yn F.R.S. Ymhlith ei gyfraniadau i gyhoeddiad y Royal Society yr oedd Letter from the Hon. Daines Barrington, F.R.S., … giving an Account of some Experiments made in North Wales [yn ardal Arennig, sir Feirionnydd] to ascertain the different Quantities of Rain which fell at the same Time, at different Heights. Darllenwyd hwn (y mae copi yn N.L.W. MS. 12416) yng nghyfarfod y gymdeithas ar 6 Mehefin 1771. Cyhoeddwyd ei ‘Notes on the Language of Birds’ gan Thomas Pennant yn ei British Zoology. Cadwyd rhai o lythyrau Barrington at gyfeillion yng Ngogledd Cymru yn N.L.W. MS. 2065 (llythyr, 19 Hydref 1775, at Paul Panton yr hynaf — ynglŷn â Syr John Wynn (o Wydir), Inigo Jones, a phont Llanrwst), yn N.L.W. MS. 3484 (llythyr 8 Mawrth 1770, at Paul Panton eto — yn hwn y mae'n galw Edward Lhuyd ‘…one of the greatest men that ever existed for philological learning … also … a very distinguished fossilist’), ac yn N.L.W. MS. 12416 (llythyrau at John Lloyd, F.R.S., Wigfair — yn un o'r llythyrau hyn dywed Barrington y gall drefnu i Lloyd gael copi gan Paul Panton o'r ohebiaeth a fu rhwng Syr John Wynn a Syr Hugh Myddelton; mewn llythyr arall y mae'n gofyn i Lloyd ddychwelyd iddo ‘MS. Memoirs of Owen Glendower’). Cyfeirir ato yn llythyrau Morrisiaid Môn — gw. y mynegeion gan Hugh Owen; ‘a great antiquary and lover of British antiquities’ medd Lewis Morris amdano mewn un llythyr (ii, 344). Brawd iau i Daines Barrington oedd Shute Barrington, a fu'n esgob Llandaf o 1769 hyd 1782. [Bu farw 14 Mawrth 1800.]

Llyfryddiaeth:

  • At y cyfeiriadau a roddwyd eisoes, ychwaneger W. R. Williams, Welsh Judges (Brecknock, 1899).

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth