BEYNON, WILLIAM (1884?-1932), paffiwr;
g. yn Port Talbot, a bu yn byw yn ddiweddarach yn Llangynwyd, Morgannwg. Bu Beynon yn paffio yn gyson o 1912 hyd 1918, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ymladdodd â'r paffwyr blaenaf yn Ewrop ac America. Ei gampwaith mwyaf oedd yn 1913 pan enillodd fuddugoliaeth yn erbyn ‘Digger Stanley’ am y teitl o bencampwr Prydeinig (‘bantam’), a hefyd am y ‘Lonsdale Belt.’ Yn ddiweddarach y flwyddyn honno enillodd Stanley y teitl yn ôl oddi wrth Beynon. Cafodd Beynon ei ladd gan gwymp yn y pwll glo yn y Bryn, ger Port Talbot, ar 20 Gorffennaf 1932.
Llyfryddiaeth:
- The Times, 21 Gorffennaf 1932, 21 Mai 1934;
- West. Mail, 21 Gorffennaf 1932, 20 Mehefin 1950 (‘Former Welsh Boxing Champions, No. 11,’ gan Tudor James);
- The Glamorgan Gazette, 25 Mai 1934.
Awdur:
Dr Moelwyn Idwal Williams, M.A., Aberystwyth