BIGGS, NORMAN (1870-1908), chwaraewr pêl droed (Rygbi);
g. 3 Tachwedd 1870 yng Nghaerdydd, yn drydydd mab i John Biggs, ac yn aelod o deulu y bu cynifer â phump ohonynt (heblaw ef) yn cynrychioli Caerdydd ar y maes Rygbi. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac yn Trinity Hall, Caergrawnt; bu wedyn ym musnes ei dad. Chwaraeai ar yr asgell dros Gaerdydd, gan ddechrau yn 1887. Bu'n cynrychioli Cymru wyth o weithiau yn 1893 a 1894; ei ddiwrnod mawr oedd hwnnw yn Edinburgh yn 1893, pan fu ei gyflymdra a'i fedr yn foddion i ennill y fuddugoliaeth gyntaf i Gymru ar Sgotland, a chyda hi'r ‘Goron Driphlyg’ am y tro cyntaf erioed. Ef oedd capten Caerdydd yn y blynyddoedd hynny, a thano ef y chwaraeodd E. Gwyn Nicholls [q.v.] gyntaf dros Gaerdydd. Heblaw chwarae dros Gaerdydd, bu Biggs yn chwarae dros Richmond, dros Brifysgol Caergrawnt, a thros y ‘London Welsh.’ Aeth allan gyda ‘Yeomanry’ Morgannwg i'r rhyfel â'r Boëriaid, a daeth yn gapten. Wedi'r rhyfel, aeth i Nigeria yn swyddog yn yr heddlu milwrol; lladdwyd ef yno 27 Chwefror 1908, mewn ysgarmes â'r brodorion.
Llyfryddiaeth:
- Cardiff Rugby Football Club History, 113;
- The Times, 4 Mawrth 1908;
- S. W. Daily News, 4 Mawrth 1908.
Awdur:
Dr Moelwyn Idwal Williams, M.A., Aberystwyth