DINELEY neu DINGLEY, THOMAS (bu farw 1695), teithiwr

Enw: Thomas Dineley
Dyddiad marw: 1695
Rhiant: Thomas Dingley
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: teithiwr
Maes gweithgaredd: Teithio
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Mab ac aer Thomas Dingley o ardal Southampton; addysgwyd yn ysgol y bardd Shirley (gweler D.N.B.), ac ymaelododd yn 1670 yn Gray's Inn. Bu'n teithio (yn gyfaill i lysgenhadon ac uchelwyr eraill) yn yr Iseldiroedd, Ffrainc, ac Iwerddon, a phob tro sgrifennodd hanes manwl ei deithiau, gan ei harddu a darluniau o'i waith ef ei hunan. I bwrpas y Bywgraffiadur presennol, nid rhaid manylu ond ar yr Account of the Official Progress of…[the] Duke of Beaufort through Wales in 1684 - yr oedd Dineley yng ngosgordd y dug Beaufort, arglwydd-lywydd y goror, pan wnaeth hwnnw daith swyddogol drwy Gymru i ' edrych ansawdd y wlad.' Yn ôl ei arfer, sgrifennodd Dineley hanes y daith - diddorol ynddo'i hunan a diddorol hefyd yn herwydd y lliaws darluniau. Cyhoeddwyd ffacsimile o'r llawysgrif yn 1885, gyda rhagymadrodd gan R. W. Banks, sail y nodyn hwn. Bu Dineley farw yn Louvain yn 1695, yn ddibriod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.