EDWIN (bu farw 1073), arglwydd Tegeingl

Enw: Edwin
Dyddiad marw: 1073
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arglwydd Tegeingl
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: William Llewelyn Davies

(h.y. cymydau Rhuddlan, Coleshill, a Prestatyn), a 'sylfaenydd' un o 'Bymtheg Llwyth Gwynedd.' Bu Tegeingl yn rhan o frenhiniaeth Seisnig Mercia am dros dair canrif, h.y. nes ailgoncweriwyd hi gan Ddafydd ab Owain Gwynedd yn y 12fed ganrif. Mewn rhai achau dywedir fod Edwin yn or-or-wyr i Hywel Dda ac mai Ethelfleda, merch Edwin, brenin Mercia, oedd ei fam. Priododd Iwerydd, chwaer Bleddyn ap Cynfyn, a daeth yn dad Owain, Uchdryd, a Hywel.

Yr oedd llawer o hen deuluoedd tiriog Gogledd Cymru (yn enwedig yn siroedd y Fflint a Dinbych) yn hawlio disgyn o Edwin neu ei feibion - Mostyniaid Mostyn a Talacre yn eu plith; yr oedd Dr. David Powel, Rhiwabon, hefyd yn hawlio ei fod yn disgyn o Uchdryd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.