Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GIBBS, REGINALD ARTHUR (1872-1938), perchennog llongau yng Nghaerdydd (un o bedwar brawd adnabyddus yn y fusnes honno), a chwaraewr pêl droed (Rygbi); g. 1872. Bu'n cynrychioli Cymru 16 o weithiau rhwng 1906 a 1911, naill ai fel asgellwr neu fel maeswr (‘stand-off half’); enillodd un o'r ddau ‘gais’ a gafodd Cymru y tro cyntaf y chwaraeodd hi yn Twickenham (1910); ac yr oedd yn un o dim Caerdydd dan E. Gwyn Nicholls [q.v.] pan enillwyd y fuddugoliaeth enwog dros Dde Affrica. Bu f. 28 Tachwedd 1938.

Llyfryddiaeth:

  • Rugby Football Annual, 1939-40, 17-8;
  • West. Mail, 29 Tachwedd 1938.

Awdur:

Dr Moelwyn Idwal Williams, M.A., Aberystwyth