GOULD, ARTHUR JOSEPH (1864-1919), chwaraewr pêl droed (Rygbi);
g. yng Nghasnewydd 10 Hydref 1864, yn un o deulu nodedig mewn mabolgampau a chyda'r bêl droed — bu yntau'n chwarae dros Gasnewydd mor gynnar â'r 16 oed; ac o hynny hyd 1898 daliodd ati. Cefnwr oedd ar y cychwyn — bu'n gefnwr dros Gasnewydd am dri thymor, ac fel cefnwr y cafodd ei ‘gap’ cyntaf dros Gymru. Ond fel canolwr y daeth yn wir enwog. Bu'n cynrychioli Cymru gynifer â 27 o weithiau, rhwng 1885 a 1897. Yr oedd yn hynod chwim ei droed, ac yn sgoriwr uchel — am gryn amser, ganddo ef yr oedd y ‘record’ o 44 o ‘geisiau’ mewn un tymor, yn erbyn y clybiau pwysicaf yn y Deheudir. Gyda chlwb Casnewydd y bwriodd y rhan fwyaf o'i yrfa, ond bu hefyd yn chwarae dros Richmond (1886-7) a Middlesex (1887-8). Fel rhedegwr, hefyd, yr oedd iddo fri mawr. Bu f. 2 Ionawr 1919; y mae gwely coffa iddo yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.
Llyfryddiaeth:
- W. J. T. Collins, Rugby Recollections, 9-10;
- The Times, 3 Ionawr 1919;
- West. Mail, 3 Ionawr 1919.
Brawd (hynaf) iddo oedd ROBERT GOULD (1864?-1932), blaenwr, a fu'n chwarae dros Gasnewydd o 1879 hyd 1889, ac a gynrychiolodd Gymru 11 o weithiau rwng 1882 a 1887; bu f. 29 Rhagfyr 1932.
Llyfryddiaeth:
- Rugby Football Annual, 1932-3, 12;
- The Times, 1 Ionawr 1932;
- West. Mail, 2 Ionawr 1932.
Awdur:
Dr Moelwyn Idwal Williams, M.A., Aberystwyth