JOHNS, WILLIAM (1771 - 1845), gweinidog ac athro Undodaidd, ac awdur

Enw: William Johns
Dyddiad geni: 1771
Dyddiad marw: 1845
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog ac athro Undodaidd, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1771 mhlwyf Cilmaenllwyd (Caerfyrddin, ar ochr Sir Benfro). Ni wyddys ddim am ei dras, ond gellir nodi bod y cyfenw John(s) yn gyffredin yng nghofnodion eglwys Glandwr, Sir Benfro (gweler J. Lloyd James, Hanes Eglwys Glandŵr, 141-3), a ofalai am Annibynwyr Cilmaenllwyd. Anghyson hefyd yw'r adroddiadau o'i ddyddiau bore. Dywedir iddo weithio ar dyddyn ei dad (ac na fedrai ddim Saesneg) nes bod yn 16 oed - eto dywedir iddo, yn yr oedran hwnnw, fynd i gynorthwyo'r Dr. Edward Williams gyda'r ieithoedd clasurol, yn academi Croesoswallt. Gellid dyfalu iddo fod yn ysgol hyglod John Griffiths (1731 - 1811) yng Nglandŵr. Bu dan nawdd y Bwrdd Cynulleidfaol o 1789 hyd 1793; bwrier felly iddo fod yng Nghroesoswallt yn 1789-90, ond o 1790 ymlaen bu yn academi Northampton. Yno, ymadawodd â'i Galfiniaeth - ac â'i Drindodiaeth. Bu'n weinidog yng Nghaerloyw a Totnes. Yn 1799 dewiswyd ef yn athro'r clasuron yn academi Manceinion, ond yn 1800 cododd ysgol yn Wrecsam; ymhen ychydig fisoedd symudodd hi i Nantwich, gan fugeilio'r gynulleidfa Undodaidd yno hefyd o 1801 hyd 1803. Symudodd ei ysgol drachefn, yn 1804, i Fanceinion; bu gyda hynny'n weinidog am ysbaid yn Partington, sir Gaerlleon, ac wedyn, o 1805 hyd ychydig cyn ei farw, yn weinidog Sale. O 1803 hyd 1830 bu'r gwyddonydd enwog John Dalton (a oedd ar y pryd yn athro yn academi Undodaidd Manceinion) yn lletya yn ei dy, a chydweithiai'r ddau gyfaill gyda'r ' Manchester Literary and Philosophical Society ' yr oeddynt yn gydysgrifenyddion iddi. Sgrifennai Johns yn fynych i'r Monthly Repository, a chyhoeddodd naw o lyfrau, yn eu plith weithiau gramadegol, gwerslyfr ar lysieueg, 'ymddiddanion' a'r y Drindod a'r pechod gwreiddiol, ac ymdriniaeth â'r rhagymadrodd i'r Bedwaredd Efengyl. Bu farw 27 Tachwedd 1845 yn Higher Broughton.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.