Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLOYD , Syr RICHARD ( 1606 - 1676 ), Brenhinwr a barnwr

Hawlia un aelod arall (heb sôn, am y tro, am David Owen , ‘ Dafydd y Garreg Wen ,’ ) o'r tylwyth hwn ryw ychydig sylw. O gymharu'r tablau yn J. E. Griffith ( Pedigrees , 330, 353, 269), gwelir fod gan Syr Richard Lloyd chwaer o'r enw Margaret , a briododd â Richard Anwyl o'r Parc . Merch iddynt hwy oedd Barbara , a oedd yn fyw yn 1707 ac a fu'n briod ddwywaith, yr eiltro â rhyw ‘ Parry ,’ a uniaethir gan rai â Jeffrey Parry o Rydolion , hynaif Parriaid Madryn — ond ni thâl hyn, oblegid yr oedd hwnnw wedi marw pan oedd hi eto'n briod am y tro cyntaf. Enw ei gwr cyntaf, fel y praw Nannau MS. 3452 yn llyfrgell Coleg y Gogledd , oedd Hugh Lloyd (nid ‘ Richard ’ fel y dywed Griffith ) o Ddeneio a Nefyn . Trydydd mab (pumed mab, yn ôl rhai) y ddeuddyn hyn oedd RODERICK LLOYD (bu f. 1730 ) o'r Hafodwryd ym Mhenmachno , a ymaelododd yn Lincoln's Inn yn 1684 (ac a fwriodd y rhan fwyaf o'i oes ynddo), ac a ddaeth (fel ei ewythr Richard Anwyl ) yn ‘ Clerk of the Outlawries in the Court of Common Pleas .’ Dywedir yn aml ei fod yn ‘protonotary’ i'w gymydog enwog Syr Robert Price o'r Giler , ond nid ymddengys ei enw yn rhestrau W. R. Williams ( The Welsh Judges ) — er hynny, y mae'n amlwg fod cyswllt agos, ar hyd ei yrfa, rhyngddo a Price . Cofir ef ym Mhenmachno yn herwydd yr ysgol, yr elusendai, a'r elusennau (gan gynnwys ‘llyfrau Cymraeg i'r tlodion’) a roes ef i'w blwyf — gw. yr ewyllys ( Nannau MS. 3448 ym Mangor ), a hefyd Lowe , The Heart of Northern Wales , ii, 437-40, a Gweithiau Gethin , 250, 253-4. Priododd ( 1703 ) ag Anne , gweddw Robert Pugh o'r Bennar neu'r Bennardd ym Mhenmachno ( cyfreithiwr o'r Middle Temple ), a gadawodd ferch, Anne eto, a briododd ( 1730 ) ag Edward Williams o Feillionydd . Merch iddynt hwy, Anne drachefn, drwy ei phriodas â Robert Howell Vaughan ( Griffith , op. cit., 201), a ddug eiddo Roderick Lloyd i deulu Hengwrt-Nannau , a dyna'r paham y mae ei bapurau ef ymhlith papurau Nannau yn llyfrgell Coleg y Gogledd — papurau (yn enwedig Nannau MSS. 3444-60 ) sy'n cyfannu ac yn cywiro rhyw gymaint ar dablau J. E. Griffith . Bu Roderick Lloyd f. fis Mai 1730 , a chladdwyd 30 Mai yng nghapel Lincoln's Inn . Merch o'i phriodas gyntaf (â Robert Pugh ) i'w wraig oedd Anne Pugh , a ddaeth yn wraig i John Wynne , esgob Llanelwy ; dyna'r paham y gwelir enw'r esgob gyda Syr Robert Price ac eraill ymhlith ysgutorion ewyllys Roderick Lloyd .

Ffynonellau:

  • P. H. Lawson yn y The Cheshire Sheaf, being local gleanings, historical & antiquarian , Ionawr a Chwefror 1937 , a'r cyfeiriadau eraill a roddwyd uchod.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

LLOYD , Syr RICHARD ( 1606 - 1676 ), Brenhinwr a barnwr ,

o Esclus , sir Ddinbych ; mab Evan Lloyd , Dulasau , sir Gaernarfon (nid mab Primus Lloyd , Marrington , fel y dywed y D.N.B. ). Ymsefydlasai ei deulu ers canrifoedd yng nghyffiniau Penmachno , gan hawlio eu bod yn disgyn o fab anghyfreithlon i Ddafydd , brawd y tywysog Llywelyn olaf . Yr oedd Syr Richard yn nai i offeiriad Rhiwabon ac yn gefnder i dri offeiriad arall yng Ngogledd Cymru ac i Humphrey Lloyd , esgob Bangor . Aeth i'r Inner Temple yn 1631 , bu'n gwasanaethu ar negeseuau dros ei wlad mewn gwledydd tramor yn 1635-6 , a phan ddychwelodd rhoddwyd iddo'r hawl i ddilyn y gwr a ddaliai ar y pryd y swydd o ‘ Prothonotary ’ a chlerc i'r Goron yn siroedd Dinbych a Threfaldwyn . Bu'n gwasnaethu Siarl I pan oedd hwnnw ar gyrch yn Sgotland yn 1639 . Wedyn fe'i gwnaethpwyd yn atwrnai cyffredinol dros Ogledd Cymru ; yn y swydd honno bu'n ddiwyd iawn, o Awst 1641 hyd Ebrill 1642 , yn gwrthweithio'r cynnwrf a wneid gan rai a geisiai ddifodi cyngor y goror yn Llwydlo — ei ddull ef o wrthweithio oedd mabwysiadu mesurau gohirio neu wneud cynigiadau gwrthgyferbyniol; yn gynnar ym mis Mehefin aeth i Gaerefrog at y brenin gan ddwyn iddo ddatganiadau o deyrngarwch chwe sir Gogledd Cymru . Bu'n croesawu a lletya'r brenin pan ymwelodd hwnnw â Wrecsam ar 27 Medi a 7 Hydref 1642 i geisio ennill milwyr o'i blaid, a chafodd ei urddo'n farchog ar yr ail ymweliad. Bu'n flaenllaw yn amddiffyniad Caer yn 1643 a sir Ddinbych yn 1644 . Wedi i filwyr plaid y Senedd ddyfod ar gyrch i Gymru yn 1644 fe'i gwnaethpwyd yn llywiawdr castell Holt ; parhaodd i ddal y castell hyd 13 Ionawr 1647 , pryd yr ymostyngodd i Thomas Mytton ar delerau a olygai y gallai ef fynd allan o Brydain gyda £300 allan o'i stad bersonol ef ei hun a chaniatâd i'w deulu gadw tiroedd o'r un faint o werth. Oblegid ei agwedd ddi-ildio tuag ati penderfynodd y Senedd geisio peidio â'i gynnwys ef ymhlith y rhai a oedd i gael pardwn pan oeddid yn ystyried telerau 1647 . Dychwelodd wedi'r Adferiad a gwnaethpwyd ef yn farnwr cylchdaith de-ddwyreiniol y Sesiwn Fawr ym mis Gorffennaf 1660 . Bu'n weithgar gyda'r mudiad i ailsefydlu cyngor y goror gan baratoi memorandwm (a gyflwynwyd ym mis Mehefin 1661 ) yn cynnwys ailadroddiad o resymau ac ymresymiadau a ddefnyddiasai 20 mlynedd cyn hynny. Yn yr un flwyddyn etholwyd ef i'r Senedd gan dref Caerdydd a sir Faesyfed ; dewisodd eistedd dros yr olaf, gan barhau i wneuthur hynny hyd ei f. ar 5 Mai 1676 . Claddwyd ef yn Wrecsam .

Ffynonellau:

  • Oxford Dictionary of National Biography , a'r ffynonellau a enwir yno;
  • J. E. Griffith , Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (1914) , 328, 330;
  • Huntington Library, U.S.A., Llawysgrifau Egerton yn Llyfgrell Huntigndon, U.D.A 7539-7559;
  • N.L.W. Llawysgrifau Crosse of Shaw Hill yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 1101-1111;
  • C. A. J. Skeel , The Council in the Marches of Wales a study in local government during the sixteenth and seventeenth centurie (Caergrawnt, 1904) , 166;
  • R. H. Morris , The Siege of Chester, 1643–1646 (1924) , 110, 122, 146, 185.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54