Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES, THOMAS (‘Twm Carnabwth ’; 1806?-1876), paffiwr; g. mewn lle o'r enw Carnabwth, Mynachlog-ddu, sir Benfro. Bu ganddo ran yn nherfysgoedd ‘Beca’ — ond nid rhan mor amlwg ag a briodolir iddo weithiau. Enillodd enw mawr fel paffiwr, ond yn 1847, mewn ymladdfa (ac yntau'n feddw) â gŵr o'r enw Gabriel Davies, collodd un o'i lygaid. Newidiodd ei fuchedd, ac ymaelododd gyda Bedyddwyr Bethel, Mynachlogddu. Mewn tŷ o'r enw ‘Trial’ yr oedd yn byw, ac yno y cafwyd ef wedi marw, 17 Tachwedd 1876, ‘yn 70 oed’ meddai carreg ei fedd — claddwyd ef ym mynwent Bethel.

Llyfryddiaeth:

  • H. Tobit Evans, Rebecca and her Daughters, 9-13.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.