BROMWICH, RACHEL SHELDON (1915-2010), ysgolhaig

Enw: Rachel Sheldon Bromwich
Dyddiad geni: 1915
Dyddiad marw: 2010
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Morfydd E. Owen

Ganwyd Rachel Sheldon Amos ar 30 Gorffennaf, 1915 yn Hove, Sussex, y pedwerydd o bump o blant ac ail ferch Syr Percy Maurice Maclardie Sheldon Amos (1872-1940) a'i wraig Lucy Scott-Moncrieff (1880-1958), ill dau o dras Albanaidd. Yr oedd Amos yn gyfreithiwr academaidd yn ogystal ag yn fargyfreithiwr ac erbyn diwedd Diffyniaeth Prydain ym 1922 ef oedd cynghorydd cyfreithiol llywodraeth yr Aifft. Treuliodd Rachel saith mlynedd cyntaf ei bywyd yn yr Aifft. Pan ddychwelodd i Brydain penodwyd Amos i gadair Quain yn y gyfraith yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain, y trydydd o'i deulu i ddal cadair yn y gyfraith. Crynwyr oedd teulu Rachel, ac ar ôl mynychu ysgolion yn Cuckfield yn Sussex ac Ambleside yn Cumbria, addysgwyd hi yn Ysgol y Mount yng Nghaer Efrog. Bu'n ffyddlon i'r Crynwyr ar hyd ei hoes.

Ar ôl Ysgol y Mount a chyfnod o diwtora preifat, ym 1934 aeth Rachel yn fyfyrwraig i Goleg Newnham, Caergrawnt. Astudiodd Saesneg ar gyfer rhan gyntaf y Tripos ac enillodd ddosbarth cyntaf, ond fel rhan o'i chwrs cymerodd bapur mewn Hen Saesneg a ddysgid gan ei chyfarwyddwraig, Mrs Dorothy de Navarro. Yn Rhan 2 y Tripos ymunodd Rachel ag adran Hector Munro Chadwick, sef Section B y Tripos Archaeoleg ac Anthropoleg a neilltuwyd ar gyfer 'Astudiaethau Hen Saesneg, Norseg ac Archaeoleg', lle y dysgodd yr ieithoedd Celtaidd gyda Kenneth Jackson, ac enillodd ddosbarth cyntaf am yr ail dro. Byddai Chadwick yn annog y rhai o blith ei ddisgyblion a ymddiddorai yn yr ieithoedd Celtaidd i ennill mwy o brofiad o'r ieithoedd llafar byw. Ar ôl graddio ym 1938 aeth Rachel, fel yr aethai Kenneth Jackson o'i blaen, i eistedd wrth draed Syr Ifor Williams ym Mangor, y meistr ar y testunau cynnar a fu fyth wedyn yn arwr iddi. Ystyriai ei fod yn fwy o ysgolhaig na Chadwick ei hunan. Gyda'i gefnogaeth yntau dechreuodd Rachel weithio ar Drioedd Ynys Prydein.

Ar drothwy'r rhyfel ym 1939 priododd Rachel â chyd-fyfyriwr disglair iddi, sef John I'A. Bromwich (1915-1990), mab y mathemategydd enwog, Thomas Bromwich (1875-1929) a fu'n Athro cadeiriog yng Ngalway. Prif ddiddordeb John Bromwich oedd hanes yr iaith Saesneg. Ymunodd ef â'r fyddin ac fe'i hanfonwyd i Belfast lle y ganwyd iddynt fab y rhoddwyd yr enw Gwyddeleg Brian arno. Daeth Brian yn beiriannydd a threuliodd lawer o'i fywyd yn gweithio dramor mewn gwledydd datblygol. Ymhen amser cafodd Brian a'i wraig, Christine (née Shire), dri o blant a oedd yn wyrion hoff i Rachel ac a allai ennyn yr elfen chwareus a direidus ynddi.

Tra bu hi yn Iwerddon mynychai Rachel ddosbarthiadau Michael O'Brien ar Hen Wyddeleg a dechreuodd weithio ar y Trioedd. Trwy drychineb difethwyd ei holl nodiadau ar gyfer y traethawd mewn ymgyrch fomio. Pan anfonwyd ei gŵr dramor, ar ôl cyfnod byr yng nghanolbarth Cymru dychwelodd Rachel i gartref ei mam yn Ulpha yn Ardal y Llynnoedd. Er gwaethaf anawsterau dybryd cyfnod y rhyfel fe ddyfalbarhaodd Rachel gyda'i hastudiaethau a manteisiodd ar bob cyfle i ddarllen yn eang.

Wedi'r rhyfel, olynodd Rachel Kenneth Jackson yn ddarlithydd yn iaith a llenyddiaeth y Celtiaid yng Nghaergrawnt. Ymhlith ei chyhoeddiadau cynnar ceir erthyglau allweddol. Y cyntaf oedd y golygiad o gopi cynharaf Trioedd Ynys Prydein o lawysgrif Peniarth 16. Dengys dwy erthygl o'r un cyfnod ei diddordeb yn nhraddodiadau cyfnod diweddarach, sef 'The Continuity of the Gaelic Tradition in eighteenth-century Ireland', a'i hastudiaeth dreiddgar o'r 'Keen for Art O'Leary', lle y cymharodd y caoĩnti llafar a gasglwyd gan Crofton Croker â'r traddodiad llafar Gwyddeleg. Yng nghyfrol goffa H. M. Chadwick, The Early Cultures of North-west Europe (1950), dangosodd Rachel Bromwich ddiddordeb cynnar yn Llydaw a chyfrannodd bennod yn cymharu chwedlau brodorol Cymru a Llydaw am ddylifiadau megis yr hanes am Gantre'r Gwaelod a hanes Ker Is, wrth olygu cerdd o Lyfr Du Caerfyrddin.

Campwaith Rachel, yn ddiamau, oedd ei golygiad o'r Trioedd hanesyddol a chwedlonol Cymreig, Trioedd Ynys Prydein, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1961. Heb os nac onibai, mae hwn yn un o weithiau mwyaf ysgolheictod Cymraeg yr ugeinfed ganrif. Y mae'r gyfres hon o destunau yn darparu mynegai i draddodiadau cynnar Cymru. Trysor pennaf y golygiad yw'r nodiadau ar enwau personol, dros bedwar cant ohonynt, a ffurfia fynegai i Oes Arwrol Cymru. Ymddangosodd golygiadau diwygiedig a mwy helaeth o Trioedd Ynys Prydein, ym 1978, 2006 a 2014. Dilynwyd y gyfrol gan gyfres o erthyglau ar bynciau Triawdaidd, megis ei Darlith Goffa i G. J. Williams ar gyfer 1968, 'Trioedd Ynys Prydein in Welsh Literature and Scholarship' (1969), ac erthyglau megis 'William Camden and “Trioedd Ynys Prydein”' (1968) a 'Trioedd Ynys Prydein: The Myvyrian Third Series' (1968). Ar yr un pryd, cynhyrchai ffrwd gyson o erthyglau ac adolygiadau ar bynciau eraill. Roedd Rachel Bromwich yn adolygwr cyson ac yn aelod ymroddedig o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol ac y mae llawer o'i herthyglau megis, 'Scotland and the earliest Arthurian Tradition' (1963) yn trafod mater Arthuriana a'r rhamantau canoloesol.

Gwahanol oedd canolbwynt ei hastudiaethau academaidd yn ystod ail hanner ei gyrfa, pan droes at waith bardd mwyaf Cymru, Dafydd ap Gwilym. Dilynwyd ei darlith i'r Cymmrodorion yn 1964, 'Tradition and Innovation in the Poetry of Dafydd ap Gwilym', gan arolwg o waith y bardd yn ei chyfrol ar gyfer y gyfres 'Writers of Wales', Dafydd ap Gwilym (1974). Daethpwyd ag amrywiaeth o'i phapurau beirniadol ynghyd yn 1986 yn Aspects of the Poetry of Dafydd ap Gwilym: collected papers. Efallai mai uchafbwynt ei gwaith ar Ddafydd ap Gwilym oedd ei chyfieithiad ar gyfer cyfres y Welsh Classics, sef Dafydd ap Gwilym, a Selection of Poems (1982), a ailgyhoeddwyd ac a ddiwygiwyd droeon.

Yr oedd Rachel Bromwich yn unigolyn a ddangosodd lawer o barch tuag at y sawl a'i dysgodd neu a roes gynorthwy iddi. Cyflwynodd waith Syr Ifor Williams i gynulleidfa ehangach trwy gyfieithu ei argraffiad o Armes Prydein i'r Saesneg ar gyfer cyfres Institiúid Ard Léinn Dulyn (1972) a thrwy gyhoeddi nifer o'i bapurau yn The Beginnings of Welsh Poetry (1972). Paratôdd gyda D. Simon Evans olygiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg o'r chwedl Gymraeg fawr Culhwch ac Olwen (1988 a 1997) a seiliwyd ar yr astudiaeth a ddechreuwyd gan ei chyfaill, yr Athro Idris Foster. Yr oedd yn ymwybodol o'i dyletswydd i ysgolheictod, ac fe drefnodd gyda Syr Idris Gylch yr Hengerdd yn Rhydychen a golygodd gyda Dr Brinley Jones ffrwyth y trafodaethau yn Astudiaethau ar yr Hengerdd (1978) er anrhydedd i'r Athro. Yr oedd yn un o olygyddion The Arthur of the Welsh (1991), cyfrol a gyflwynodd arolwg cyfoes ar ysgolheictod Arthuraidd. Y mae dwy gyfrol lyfryddol: Medieval Celtic Bibliography (Cyf. 5 Llyfryddiaethau Cyfres Toronto, 1974) a Medieval Welsh Literature to 1400 (1996) yn ogystal â'r Glossary to Culhwch ac Olwen (1992) i gyd yn tystio i'w dyfalbarhad yn darparu arweiniad i eraill.

Gwnaeth Rachel Bromwich gyfraniad arloesol a chwbl greiddiol i'r astudiaeth o'r holl lenyddiaethau Celtaidd hanesyddol a chydnabuwyd ei champ mewn gwahanol ffyrdd. Dyrchafwyd hi'n Ddarllenydd mewn Celteg ym Mhrifysgol Caergrawnt, a hi oedd y Cymrawd Syr John Rhŷs cyntaf yn Rhydychen. Rhoddwyd iddi Gymrodoriaeth Athro er anrhydedd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor, a chyflwynwyd gradd D.Litt honoris causa iddi gan Brifysgol Cymru trwy Fangor. Yr oedd yn Is-lywydd Mygedol Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion a'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol yn ogystal â bod yn aelod o Gyngor Cymdeithas Testunol Iwerddon.

Yr oedd Rachel yn addysgwraig drylwyr, yn tawel annog ei myfyrwyr ac yn driw iddynt. Dysgai'r llyfrau gosod yn ofalus. Nid oedd yn ieithydd yn ei hanfod: gwir gyfraniad ei dysgu oedd ei darlithiau ar lenyddiaethau canoloesol Iwerddon a Chymru. Cynhyrchodd Section B Caergrawnt yn ystod ei chyfnod hi ddilyniant di-baid o ysgolheigion nodedig a dysgwyd llawer ohonynt ganddi. Ni fu bywyd yn hawdd iddi yn wastad ac yr oedd yn effro i anawsterau pobl eraill, gan gynnig help ymarferol lle gallai.

Roedd magwraeth gynnar Rachel Bromwich yn golygu bod arni angen cymuned sefydlog yn gefn iddi - a chafodd hyd i hynny yng Nghymru. Ar ôl ymddeol ymgartrefodd yn Nhyddyn Sabel, y tŷ uchaf ar Foel Faban yn Eryri, dau gae i ffwrdd o gartref ei chyfaill, Syr Idris Foster, ac yn ddiweddarach ym mhentref Carneddi. Ar ôl marw Syr Idris, pan sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ym 1985, symudodd i Aberystwyth. Bu'n hael ei rhoddion o lyfrau i'r Ganolfan. Bu farw yn Aberystwyth ar 15 Rhagfyr 2010.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-03-27

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.