CLAY, JOHN CHARLES (1898-1973), cricedwr

Enw: John Charles Clay
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1973
Priod: Gwenllian Mary Clay (née Homfray)
Rhiant: Margaret Amelia Clay (née Press)
Rhiant: Charles Leigh Clay
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cricedwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: D. Huw Owen

Ganwyd Johnnie Clay yn Nhresimwn, Morgannwg, ar 18 Mawrth 1898, yn fab i Charles L. Clay a'i wraig Margaret (ganwyd Press). Yn aelod o deulu amlwg ym myd chwaraeon yn ardal Cas-gwent, gyda busnes llongau ei dad wedi ei leoli yn Nociau Caerdydd, fe'i addysgwyd yn Ysgol Caerwint. Priododd Gwenllian Mary, merch Colonel Homfray, castell Penlline.

Yn fowliwr cyflym pan yn ŵr ifanc, bu'n aelod o dîm sir Fynwy cyn iddo chwarae ei gêm gyntaf i Forgannwg yn 1921. Y tymor canlynol ef oedd bowliwr mwyaf llwyddiannus y sir gan gipio 83 wiced ar gyfartaledd o 22.01 rhediad. Yn 1924 fe'i penodwyd yn gapten, yn lle 'Tal' Whittington, ac wedi dioddef cyfres o anafiadau, arbrofodd gyda bowlio gwyriad i'r chwith a throellfowlio. Cyfrannodd yn sylweddol i'r gwellhad ym mherfformiadau'r sir gyda'r clwb yn symud i fyny o waelod y tabl i'r 13fed safle. Yn gynnar yn nhymor 1926 bu'r sir ar frig tabl Pencampwriaeth y Siroedd am y tro cyntaf yn ei hanes. Yn ystod y tymor canlynol, sgoriodd fatiad uchaf ei yrfa, sef 115 heb fod allan yn erbyn Seland Newydd. Ar ddiwedd y tymor hwn ildiodd y gapteiniaeth oherwydd ymrwymiadau busnes.

Parhaodd i chwarae yn ystod y tymhorau canlynol. Yn 1929 sgoriodd ei gant cyntaf yn y Bencampwriaeth yn erbyn swydd Gaerwrangon yn Abertawe. Yn batio rhif 10, mae ei bartneriaeth gyda Joe Hills o 203 rhediad am y nawfed wiced yn parhau i fod yn record i'r clwb. Serch hynny, troellfowliwr oedd ef yn bennaf, ac fe'i ystyriwyd yn un o'r bowlwyr sbin pennaf yn y Bencampwriaeth yn y blynyddoedd yn arwain at, ac yn syth wedi'r Ail Ryfel Byd. Chwaraeodd i Loegr yn y Bumed Gêm Prawf yn erbyn De Affrica yn 1935, a gwrthododd gynigion eraill: mae'n debyg y byddai wedi ennill mwy o anrhydeddau petai wedi cytuno i fod ar gael am deithiau tramor. Cipiodd fwy na 100 wiced mewn tymor ar dri achlysur, a'i berfformiad gorau mewn un gêm oedd 17 wiced am 212 o rediadau (9 am 66 ac 8 am 146) yn Abertawe yn erbyn swydd Gaerwrangon yn 1937.

Disgrifiwyd Johnnie Clay yn 'dad criced Morgannwg' ar sail ei ymdrechion diwyd i sicrhau parhad Clwb Criced Morgannwg yn ystod blynyddoedd ariannol anodd y 1930au. Gwasanaethodd fel trysorydd y clwb rhwng 1933 a 1938 a chodwyd symiau sylweddol o arian yn y digwyddiadau amrywiol a drefnwyd ganddo ef a'i gyfaill Maurice Turnbull, ysgrifennydd y clwb. Yn ddyn busnes a leolwyd yng Nghaerdydd, defnyddiodd yn fedrus hefyd ei gysylltiadau yn y byd masnachol i sicrhau parhad y clwb.

Yn dilyn marwolaeth Maurice Turnbull, cytunodd Clay i arwain y sir eto yn 1946. Trosglwyddodd y gapteiniaeth y flwyddyn ganlynol i Wilf Wooller ond parhaodd i chwarae yn achlysurol. Yn 1947 cipiodd 54 wiced ar gyfartaledd o 15.83 rhediad ac yn y flwyddyn ganlynol roedd ganddo ffigurau o ddeg wiced am 65 o rediadau yn erbyn Surrey a naw wiced am 79 o rediadau yn erbyn Hampshire pan enillodd Morgannwg Bencampwriaeth y Siroedd am y tro cyntaf. Yr oedd yn addas iawn mai Clay, yn ŵr 50 oed, a gipiodd y wiced olaf i gwympo yn y gêm honno. Yn ystod ei yrfa cipiodd gyfanswm o 1,315 wiced ar gyfartaledd o 19.77 rhediad.

Gwasanaethodd fel dewiswr i'r Gemau Prawf yn 1947 ac 1948, a pharhaodd i fod yn gysylltiedig â'r tîm sirol, gan weithredu fel ymddiriedolwr ac fel Llywydd y Clwb o 1960 tan ei farwolaeth yn 1973. Yr oedd ei ddiddordebau eraill yn y maes chwarae yn cynnwys hela a rasys ceffylau, ac roedd yn berchen nifer o raswyr. Bu'n Ysgrifennydd Helfa Morgannwg, ac yn Stiward a Chyfarwyddwr Cae Ras Cas-gwent, a osodwyd ar diroedd ei gartref teuluol ym Mharc Piercefield yn y 1920au. Cynhelir ras geffylau hirbell yno bob blwyddyn er cof amdano.

Bu farw John Charles Clay yn Sain Hilari ar 11 Awst 1973.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-02-20

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.