EVANS, GWYNFOR RICHARD (1912-2005), cenedlaetholwr a gwleidydd

Enw: Gwynfor Richard Evans
Dyddiad geni: 1912
Dyddiad marw: 2005
Priod: Rhiannon Prys Evans (née Thomas)
Plentyn: Dafydd Prys Evans
Plentyn: Alcwyn Deiniol Evans
Plentyn: Meleri Mair Evans
Plentyn: Guto Prys
Plentyn: Meinir Ceridwen Ffransis (née Evans)
Plentyn: Branwen Eluned Evans
Plentyn: Rhys Dyrfal Evans
Rhiant: Catherine Mary Evans (née Richard)
Rhiant: Daniel James Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenedlaetholwr a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwladgarwyr; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Cynog Dafis

Ganwyd Gwynfor Evans ar 1 Medi 1912 yn Y Goedwig, 24 Somerset Road, y Barri, yr hynaf o dri o blant Daniel James ('Dan') Evans (1883-1972), siopwr diwyd a hynod lwyddiannus, a Catherine Mary (ganwyd Richard) (1879-1969), hithau'n siopwraig o blith Cymry capelog Llundain, yn hanu o Gydweli. Cynnyrch Cristnogaeth anghydffurfiol Cymru yn anad unpeth oedd Gwynfor Evans. Roedd ei dad-cu, Ben Evans (1854-1918), yn weinidog gyda'r Annibynwyr, a'i symudiad ef o Lanelli i'r Barri a barodd mai yn y dref fasnachol gosmopolitanaidd honno y ganwyd Gwynfor. Roedd Ben yn nai i weinidog ac yn frawd i ddau arall, ac i'r weinidogaeth yr aeth Idris (1887-1959), brawd Dan. Cafodd Gwynfor ei drwytho, drwy weithgareddau crefyddol a chymdeithasol capel ei dad-cu, lle roedd ei dad yn ddiacon, yn y traddodiad anghydffurfiol ar ei wedd ryddfrydol-radicalaidd, gydwladol. Glynodd wrth werthoedd y traddodiad hwnnw gydol ei oes a phwysodd yn drwm ar gyfeillion o weinidogion ar adegau o argyfwng ac wrth wneud penderfyniadau. Tebyg bod a wnelo'r gynhysgaeth hon â'r difrifoldeb moesol, y sêl genhadol, a'r ymroddiad hunan-aberthol dros yr achos a'i nodweddodd yn ei yrfa wleidyddol, yr oedd yn ei gweld, meddai, fel 'math o weinidogaeth'.

Proses led raddol fu gwneud y cysylltiad rhwng ethig anghydffurfiol ei fagwraeth a gwladgarwch, ac yna genedlaetholdeb, Cymreig. Saesneg oedd prif iaith aelwyd Dan a Catherine Evans, ac yn bendant iaith gyntaf y Gwynfor ifanc, ei chwaer Ceridwen (1914-2011) a'i frawd Alcwyn (1917-2007). Deffrowyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a hanes Cymru wrth draed athrawon eneiniedig tra'n ddisgybl yn chweched dosbarth ysgol ramadeg y Barri. Serch hynny pan aeth i astudio'r gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1931 Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr a gweithgareddau Clwb Cyd-berthnasoedd Rhyngwladol a aeth â'i fryd. Yna daeth dan ddylanwad aelodau ifainc o Blaid Cymru a bu darllen The Economics of Welsh Self-Government D. J. Davies yn fodd i'w argyhoeddi y gallai hunan-lywodraeth i Gymru fod yn ymarferol.

Ymunodd â'r Blaid yn haf 1934 cyn cychwyn ar gwrs dwy flynedd yn Rhydychen lle y dyfnhawyd ei ymrwymiad wrth genedlaetholdeb. Pan ddychwelodd i Gymru, ac i swydd cyw-gyfreithiwr yng Nghaerdydd, fe ymdaflodd i actifistiaeth wleidyddol wirfoddol, o blaid hunan-lywodraeth i Gymru ond lawn cymaint, yn arbennig dan ddylanwad George M. Ll. Davies a'r Dr Gwenan Jones, dros Gristnogaeth gymdeithasol a heddychiaeth. Yn 1939 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd Heddychwyr Cymru, cangen Gymreig y Peace Pledge Union, mudiad a oedd yn arddel pasiffistiaeth ddigymrodedd. Gwireddwyd dyhead Gwynfor i asio heddychiaeth wrth genedlaetholdeb Cymru pan basiwyd penderfyniad yng nghynhadledd Plaid Cymru, Abertawe 1938, yn groes i ddymuniad Saunders Lewis, i ymwrthod yn llwyr â thrais yn y frwydr dros hunan-lywodraeth. Byddai pasiffistiaeth Gwynfor, ynghyd â phenderfyniad cyfochrog y Blaid i gyrchu at ryddid i Gymru yn bennaf drwy ddulliau cyfansoddiadol, etholiadol, yn asgwrn cynnen parhaus rhyngddo ef a Saunders Lewis dros y degawdau dilynol, yn achos tyndra yn ei agweddau ef ei hun ac yn destun ymrafael yn y 'mudiad cenedlaethol' yn gyffredinol.

Cam tyngedfennol yng ngyrfa Gwynfor oedd ei benderfyniad yn 1939 i gefnu ar gyfreitha a symud i Langadog, yn gyntaf i ffarmio ac wedyn i redeg busnes garddio masnachol. Dyma ddychwelyd at ei wreiddiau teuluol a diwylliannol ac ar yr un pryd sefydlu mesur o annibyniaeth ariannol a fyddai'n ei alluogi i ymdaflu'n llwyr i'w genhadaeth dros Gymru. Dyma hefyd osod sylfaen ei berthynas wleidyddol â Sir Gaerfyrddin a fyddai'n ei arwain i'r Cyngor Sir (1949-73) ac i gynrychioli'r etholaeth ddwywaith yn San Steffan (1966-70, 1974-79). Ar Ŵyl Ddewi 1941 priododd â Rhiannon Prys Thomas (1919-2006) y bu ei chefnogaeth ddiamod i'w gŵr ac i'r achos cenedlaethol yn gwbl allweddol drwy lafur diflino a chyffroadau ei yrfa wleidyddol, ac a gariodd i raddau anghymesur y cyfrifoldeb o fagu eu saith plentyn.

Yng Ngorffennaf 1940 cafodd Gwynfor ryddhad diamod rhag gwasanaeth milwrol ar dir crefyddol. Dros y blynyddoedd dilynol daeth amlygrwydd cyhoeddus cynyddol i'w ran drwy'i ymgyrchu dros y mudiad heddwch a hefyd dros Undeb Cymru Fydd a sefydlwyd i wrthweithio'r bygythiadau i ddiwylliant Cymru, a'r Gymraeg yn arbennig, a ddaeth yn sgil y rhyfel. Bu wrthi yn ogystal yn dwysystyried sut y dylai Plaid Cymru ymbaratoi erbyn yr heddwch, er enghraifft ym maes diwydiant a'r economi, lle roedd yn gweld bwlch anferth ym mholisi'r Blaid. Pan ymddiswyddodd J. E. Daniel o lywyddiaeth y Blaid yn 1943 roedd amryw, gan gynnwys Saunders Lewis, yn gweld Gwynfor fel olynydd amlwg iddo ond am resymau personol a theuluol bu rhaid gohirio'r datblygiad, anochel braidd, hwnnw tan Awst 1945, blwyddyn etholiad cyffredinol pan safodd y Blaid mewn saith etholaeth, a Gwynfor yn ennill 10% o'r bleidlais ym Meirionnydd.

Dros y deng mlynedd nesaf fe ymdaflodd i genhadu diarbed, gan adeiladu'n raddol aelodaeth a threfniadaeth ei blaid. Gam wrth gam, yn boenus o araf, mewn cyfarfodydd cyhoeddus diddiwedd, drwy ohebiaeth a chyhoeddiadau, aeth ati i boblogeiddio ei neges graidd: bod Cymru'n genedl ag iddi orffennol anrhydeddus a diwylliant cyfoethog; mai ei safle darostyngedig o fewn y wladwriaeth Brydeinig oedd gwraidd ei mynych broblemau, yn ddiwylliannol ac yn economaidd; a bod hunan-lywodraeth nid yn unig yn hawl moesol ond yn rhagamod y ffyniant yr oedd pob rheswm i gredu a oedd yn ddichonol iddi. Drwy waith caib-a-rhaw felly, Gwynfor yn fwy na neb arall a lwyddodd i blannu'r naratif yma ym meddyliau cyfran gynyddol o'i gyd-Gymry, a'r to-oedd-yn-codi o siaradwyr Cymraeg yn arbennig.

Ar yr un pryd roedd wrthi'n ceisio dylanwadu ar gyfeiriad polisi drwy ei aelodaeth o Lys Prifysgol Cymru, lle galwodd am sefydlu Coleg Cymraeg, ac o Bwyllgor Ymgynghorol y BBC. Yn 1954 rhoddwyd mynegiant i'r parch mawr oedd iddo ymysg cenhedlaeth ifanc y Gymru anghydffurfiol pan gafodd ei ethol yn gadeirydd Undeb yr Annibynwyr (121,000 o aelodau meddid), a llwyfan i draddodi araith estynedig ar 'Gristnogaeth a'r Gymdeithas Gymreig'.

Yn ei ymdrechion i hyrwyddo'r Gymraeg yn y Cyngor Sir, fe aeth benben â'r grŵp Llafur mewn gwrthdaro hynod niweidiol a barhaodd mewn gwahanol ffyrdd dros y tri degawd dilynol. Ar y llaw arall gwelwyd ei awydd i hyrwyddo cynnydd y genedl drwy gydweithio trawsbleidiol yn y ffaith iddo berswadio Pwyllgor Gwaith y Blaid yn 1949 i roi cychwyn ar ymgyrch Senedd i Gymru mewn Pum Mlynedd. Dechreuad digon sigledig a gafodd yr ymgyrch ond llwyddwyd i ddenu Megan Lloyd George yn gadeirydd ac ymhen y rhawg Huw T. Edwards a nifer o ASau Llafur i gefnogi'n gyhoeddus. Cafwyd ralïau mawr a chyfarfodydd gorlawn ac erbyn i S. O. Davies gyflwyno'i Fesur Senedd i Gymru (a ddrafftiwyd gan un o gefnogwyr pennaf Gwynfor, Dewi Watkin Powell) ger bron y Senedd ym Mawrth 1955 roedd y ddeiseb yn denu llofnodwyr wrth y miloedd, gan gynnwys yng nghymoedd y de.

Erbyn 1955 roedd gan Gwynfor bob rheswm i gredu bod ei strategaeth ymgyrchol-etholiadol yn dwyn ffrwyth. Gallai ddehongli penderfyniad Llywodraeth Geidwadol Churchill i benodi Gweinidog Materion Cymreig yn 1951 a datganoli rhai pwerau cyfyngedig i Gymru fel cydnabyddiaeth o statws cyfansoddiadol arbennig y genedl ac fel ymateb i bwysau cenedlaetholdeb. Ar yr un pryd roedd cefnogaeth etholiadol y Blaid ar gynnydd. Yn etholiad seneddol 1955 dyblodd pleidlais Gwynfor ym Meirionnydd i 22% a chafwyd nifer o ganlyniadau addawol ledled Cymru.

Ar ddiwedd y 1950au torrodd cynllun Corfforaeth Lerpwl i foddi Cwm Tryweryn ar draws y broses ofalus yma o adeiladu graddol. Dros y blynyddoedd wedi'r rhyfel roedd y Blaid, a Gwynfor yntau, wedi bod yn barod i droi at weithredu anghyfreithlon mewn achosion neilltuol, yn erbyn y Swyddfa Ryfel yn Nhrawsfynydd er enghraifft. Yn achos Tryweryn fodd bynnag brigodd y tyndra, a'r rhaniad o fewn y Blaid, i'r wyneb mewn modd dramatig. Ar y naill law wele'r garfan a oedd am weld adfer traddodiad arwrol Penyberth, ag arweinyddiaeth y Blaid yn defnyddio gweithred anghyfreithlon fel catalydd a fyddai'n tanio deffroad cenedlaethol. Roedd y garfan arall yn gweld gweithredu felly yn chwalu'r ymdrech i sefydlu'r Blaid yn rym gwleidyddol poblogaidd ac yn tanseilio'i strategaeth etholiadol.

Mae pob rheswm i gredu bod Gwynfor ei hun yn cael ei rwygo rhwng y ddau dueddiad. Ni wnaeth neb fwy nag ef i ddygyfor a threfnu'r gwrthwynebiad i gynllun Lerpwl ond methwyd â meddalu calon y ddinas fawr. Pleidwyr etholiadaeth a chyfaddawd o fewn y Blaid a orfu a'u gobaith oedd y dôi'r wobr drwy ethol Gwynfor yn AS Meirionnydd yn etholiad cyffredinol 1959. Siom fodd bynnag oedd canlyniad yr etholiad hwnnw ac agorwyd pennod bum-mlynedd o ymrafael chwerw yn hanes y Blaid a'i Llywydd.

Cafodd Gwynfor ei herio o ddau gyfeiriad. Gwelodd pleidwyr torcyfraith ei fethiant i weithredu'n uniongyrchol fel colli cyfle hanesyddol ar y gorau ac fel brad ar y gwaethaf. Methiant fu cynnig y garfan hon yng Nghynhadledd Llangollen yn 1961 i gael y Blaid i ymrwymo i weithredu'n anghyfreithlon yn Nhryweryn. Saith mis yn ddiweddarach, serch hynny, yn Chwefror 1962 taniodd Saunders Lewis sialens uniongyrchol i holl ethos a strategaeth y Blaid yn ei ddarlith radio, 'Tynged yr Iaith', â'i galwad am ymgyrch drefnedig o weithredu uniongyrchol dros statws swyddogol i'r Gymraeg. Camddeallwyd neges y ddarlith gan rai pobl ifainc, ond nid gan Gwynfor a'i gydarweinyddion, a'r canlyniad fu sefydlu Cymdeithas yr Iaith ar gyrion Cynhadledd Pontarddulais, Awst 1962. Yn yr un Gynhadledd llwyddodd Gwynfor i drechu Wynne Samuel, a oedd wedi cynnig am y Llywyddiaeth, o fwyafrif clir ond nid llethol.

Daeth yr ail her o gyfeiriad New Nation, grŵp o radicaliaid ifainc, yn cynnwys Phil Williams ac Emrys Roberts, a oedd yn gweld ymlyniad Gwynfor wrth gapelyddiaeth Gymraeg yn rhwystr i dwf y Blaid yn y Gymru gynyddol seciwlar, ddiwydiannol. Yn eu cylchgrawn Cilmeri ymosodasant ar y 'bagad brith o sycoffantiaid' ('Llys Llangadog') yr oedd Gwynfor yn dibynnu arnynt am gyngor ac a oedd allan o gysylltiad yn llwyr â 'syniadau cyfredol yng Nghymru'. Yn ogystal â shifft ideolegol, galwent am ailwampio pellgyrhaeddol ar drefniadaeth y Blaid.

Yn dilyn siom bellach etholiad 1964 roedd llawer hyd yn oed ymhlith cefnogwyr pennaf Gwynfor yn amheus o'i bwyslais ar etholiadau seneddol. Bu ymadawiad Elystan Morgan am y Blaid Lafur yn ergyd bersonol i Gwynfor ac yn arwydd ymddangosiadol o fethiant ei strategaeth.

Yna, mewn modd cwbl anrhagweladwy, cyfiawnhawyd y strategaeth honno, ynghyd â llafur cenhadol diarbed Gwynfor dros y blynyddoedd, drwy ei fuddugoliaeth lachar yn isetholiad Caerfyrddin, Gorffennaf 1966. Bu Gwynfor yn flaengar ac yn fawrfrydig yn awr ei lwyddiant. Siarsiodd ei gefnogwyr i groesawu'r miloedd o aelodau newydd, gwahanol iawn eu cefndir a'u diwylliant, a fyddai'n llifo i rengoedd y Blaid. Gweithredwyd diwygiadau trefniadol New Nation a chafodd aelodau'r grŵp hwnnw ran amlwg, yn benodol wrth estyn dylanwad y Blaid i'r de-ddwyrain diwydiannol. A hithau'n dod yn agos i gipio'r Rhondda (1967) a Chaerffili (1968) roedd ymchwydd llwyddiant y Blaid yn drawiadol. Gwnaeth Gwynfor ei farc fel aelod newydd yn wyneb ymosodiadau ffyrnig yn y Senedd.

Serch bod y Blaid wedi ymroi'n llwyr i wleidyddiaeth gyfansoddiadol fodd bynnag, fu traddodiad gweithredu uniongyrchol y mudiad cenedlaethol ddim yn hir cyn dod yn ôl i'w brathu, gan greu dilemâu personol a gwleidyddol poenus i Gwynfor. Penderfynodd beidio â mynychu Arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1969, ystum o gydnabyddiaeth i safbwynt y protestwyr, ond cytunodd i groesawu'r Tywysog i Gaerfyrddin yn rhinwedd ei swydd yn AS. Tra'n ceisio sefydlu pellter rhwng ei Blaid gyfansoddiadol ac ymgyrchoedd cynyddol ffyrnig Cymdeithas yr Iaith, mynegodd edmygedd o wroldeb y gweithredwyr. Gallai'n hawdd wadu unrhyw gysylltiad â'r mudiadau treisgar tanddaearol a fu'n ysbeidiol weithgar dros gyfnod o ryw ugain mlynedd ond roedd hynny'n amhosibl yn achos protestiadau'r Gymdeithas, ag aelodau o'i deulu'i hun yn amlwg ynddynt. Tebyg mai hyn a alluogodd y Blaid Lafur i daenu parddu eithafiaeth ar ddelwedd Plaid Cymru ac i lesteirio'i chynnydd. Collwyd etholaeth Caerfyrddin yn 1970.

Trwy gydol y 1970au fe'i cafodd Gwynfor ei hun yn ceisio llywio Cymru tuag at fesur o hunan-lywodraeth drwy groesgerrynt tymhestlog. Yn dilyn etholiadau 1974, pan lwyddodd i ennill yng Nghaerfyrddin am yr eildro, a'r ddau Ddafydd, Wigley ac Elis Thomas, yn gymrodyr seneddol iddo, y gamp oedd defnyddio'u safle i wthio Llafur tuag at ymrwymiad i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru. Am ba reswm bynnag serch hynny, o ganol y 70au roedd y gwynt yn hwyliau gwleidyddol Plaid Cymru yn pallu ac o dipyn i beth enillodd gwrthwynebwyr datganoli ymysg ASau Llafur y blaen. Dadleuodd amryw o fewn y Blaid dros olchi dwylo o unrhyw gyfrifoldeb i gefnogi Deddf Cymru 1968 ac roedd Gwynfor ei hun rhwng dau feddwl. Penderfyniad ar-y-cyd grŵp seneddol y Blaid fodd bynnag oedd nad oedd dewis ond cefnogi Ymgyrch Ie yn refferendwm 1979. Roedd y canlyniad, gyda dim ond 12% o'r etholwyr yn pleidleisio o blaid Cynulliad, yn drychineb i achos hunan-lywodraeth ac yn ddim llai nag argyfwng dirfodol i Blaid Cymru. I Gwynfor roedd holl obeithion 35 mlynedd a mwy o ymgyrchu unplyg yn sarn wrth ei draed. Yn gap ar y cwbl fe'i disodlwyd gan etholwyr Caerfyrddin am yr ail waith ar 3 Mai.

Roedd a wnelo'i adduned cyhoeddus flwyddyn yn ddiweddarach i ymprydio hyd angau â llawer yn fwy na'i bwrpas echblyg, sef sefydlu sianel deledu Gymraeg. Argyhoeddiad Gwynfor oedd fod ei blaid, ac yn bwysicach na hynny ei genedl, yn wynebu difancoll. Dim ond gweithred arwrol symbolaidd a allai eu hachub. Ped enillid sianel, byddai buddugoliaeth yn sbardun i godi'r Blaid o'i llesgedd. Pe bai'n marw, byddai achos Cymru'n cael ei chynysgaeddu â thaerineb newydd a allai weddnewid ei ragolygon. Yn wyneb amheuon dwfn rhai o'i gydweithwyr agosaf ac amryw ymdrechion i'w berswadio i newid ei feddwl, ar dir moesegol yn ogystal â strategol, daliodd Gwynfor wrth ei fwriad ac ym Medi 1980 cyhoeddwyd y byddai sianel deledu Gymraeg. Roedd Plaid Cymru wedi cael ei hailwefreiddio drwy i lywiawdwr ei datblygiad cyfansoddiadol ddychwelyd i draddodiad gweithredu uniongyrchol arwrol ei blynyddoedd cynnar, a'i hysbrydoli yn ogystal i symud ymlaen i gam newydd yn ei datblygiad.

Yn eironig ddigon mabwysiadu sosialaeth oedd y cam hwnnw. Gwrthwynebu'r symudiad a wnaeth Gwynfor i ddechrau, gan ei ddisgrifio fel 'cysgod-baffio, ymaflyd codwm rhithiol, balihw'. Fodd bynnag fe bleidleisiodd yng Nghynhadledd Caerfyrddin, 1981, ac yntau'n ymddeol o'r llywyddiaeth, dros gynnwys sosialaeth yn amcanion y Blaid. Diogelu undod y Blaid oedd rhan o'i gymhelliad ond roedd yna elfen o gyffes hunan-feirniadol yn ogystal â realaeth strategol yn ei eiriau yn ystod streic y glowyr: 'Rhaid i ni gael gwared ar y ddelwedd, y bûm i'n ddiarwybod gyfrifol am ei chreu, o genedlaetholdeb wledig, anghydffurfiol, a'i phwyslais i gyd ar yr iaith'.

Diau mai camgymeriad oedd ei benderfyniad i geisio ailgipio Caerfyrddin yn etholiad 1983. Cadwodd Llafur y sedd a gwthiwyd Gwynfor i'r trydydd safle gan y Tori. Roedd ei yrfa wleidyddol ar ben, ond nid ei ymlyniad gweithredol angerddol at yr achos. Ymatebodd yn greadigol i bryder ei gyd-genedlaetholwyr ynghylch effaith mewnfudiad ar yr iaith - pryder yr oedd e'n ei deimlo'n gymaint â neb - drwy sefydlu yn 1988 fudiad PONT, gyda'r bwriad o ddenu newydd-ddyfodiaid i ymuniaethu â gwlad eu mabwysiad. Fe'i penodwyd yn Llywydd Anrhydeddus y Blaid a bu'n ddibrin ei gyngor a'i gefnogaeth iddi. Dros flynyddoedd ei ymddeoliad ymlwybrodd aml i bererin i'w gartref e a Rhiannon ym Mhencarreg i ofyn am farn ac i rannu syniadau. Un a ddaeth yno i dalu parch, derbyn ysbrydoliaeth a mwynhau'r lletygarwch oedd Ron Davies AS, pensaer Deddf Llywodraeth Cymru, y pleidleisiodd etholwyr Cymru o'i phlaid yn Refferendwm 1997, pan fu lefel y gefnogaeth yn Sir Gaerfyrddin yn allweddol i'r canlyniad. Yn dilyn llwyddiant rhyfeddol Plaid Cymru yn etholiad cynta'r Cynulliad Cenedlaethol daeth grŵp Aelodau Cynulliad y Blaid hwythau ar bererindod i Bencarreg.

Bu farw Gwynfor yn ei gartref, Talar Wen, Pencarreg, ar Ebrill 21, 2005, a chynhaliwyd ei angladd, a ddarlledwyd, yng nghapel Seion Aberystwyth. Amlosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Aberystwyth a gwasgarwyd ei lwch yn ôl ei ddymuniad ar fryngaer y Garn Goch ger Llangadog, lle y bu'n aml yn ceisio nodded ac ysbrydoliaeth, a lle y saif cofeb iddo bellach. Ymhen wyth mis roedd ei weddw Rhiannon hithau wedi cyrraedd diwedd ei rhawd.

Buasai cyfraniad unigryw Gwynfor Evans i'r achos cenedlaethol yn amhosibl oni bai am ei gefndir teuluol go freintiedig. Gallodd sefydlu busnes a'i gwnaeth am gyfnod yn ariannol annibynnol ond tynnodd yn helaeth ar gefnogaeth ariannol ei berthnasau agosaf yn ogystal. Fe'i cefnogwyd yn ariannol hefyd gan edmygwyr eraill a oedd yn gweld ei gyfraniad yn allweddol i lwyddiant yr achos cenedlaethol. Fodd bynnag, cymeriad eithriadol Gwynfor ei hun a fu'n bennaf cyfrifol am y cyfraniad unigryw, cwbl ffurfiannol, a wnaeth i dwf cenedlaetholdeb ac i sefydlu'r egin-wladwriaeth Gymreig sydd ohoni heddiw. Drwy'i ddycnwch unplyg anhygoel, ei ymgyrchu diflino a'i graffter gwleidyddol fe wnaeth fwy na neb i argyhoeddi ei gyd-Gymry y gallent fod mewn gwirionedd yn genedl wleidyddol. Roedd hefyd yn awdur nodedig o doreithiog a esgorodd ar ffrwd ddiatal o erthyglau a phamffledi a chyfrolau megis Rhagom i Ryddid (1964) ac Aros Mae (1971), ei bortread poblogaidd, arloesol a dylanwadol o hanes Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-02-24

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.