FITZGERALD, MICHAEL CORNELIUS JOHN (1927-2007), brawd o Urdd Carmel, offeiriad, athronydd a bardd

Enw: Michael Cornelius John Fitzgerald
Dyddiad geni: 1927
Dyddiad marw: 2007
Rhiant: Martha Helena FitzGerald (née O'Sullivan)
Rhiant: Michael FitzGerald
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brawd o Urdd Carmel, offeiriad, athronydd a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Iestyn Daniel

Ganwyd John FitzGerald ar 3 Chwefror 1927 yn Llwydlo, Sir Amwythig, yn fab i Wyddelod o swydd Kerry, sef Michael FitzGerald (1889-1949) a Martha Helena O'Sullivan (1896-1978) a symudodd i fyw i Loegr yn 1922 ar ôl chwalu Heddlu Brenhinol Iwerddon lle buasai'r tad yn gwasanaethu. Yn drydydd o bedwar o blant, fe'i bedyddiwyd yn Michael Cornelius. Enwau'r lleill (yn nhrefn oed) oedd Gerald Joseph (y Tad Gregory O. Carm.), Bridget Cecilia (y chwaer Bridget Mary o urdd Crefyddwragedd Calon Sanctaidd Mair), a Mary Catherine (Mrs Pryer).

Dan ddylanwad eu hewythr Conleth FitzGerald, Uchel Bennaeth Taleithiol Carmeliaid Iwerddon a gŵr a ddaeth i swydd uchel yn y Fatican, taniwyd diddordeb y ddau frawd Gregory a John yn urdd Carmel, ac yn 1940, yn 13 oed a chan ddilyn Gregory, anfonwyd John i Goleg y Santes Fair, Aberystwyth (cartref i'r Cyngor Llyfrau bellach dan ei hen enw, Castell Brychan), man hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth gyda gofal hefyd am y plwyf. Ailsefydlwyd y Coleg yn 1936, yn yr un adeilad â choleg Catholig cynharach o'r un enw a symudwyd yno o Dreffynnon ac a fuasai'n wag am ysbaid, gan aelodau o Dalaith Iwerddon o Urdd Carmel dan arweiniad y Tad Malachy Lynch, a hynny trwy wahoddiad esgob newydd Mynyw, Mihangel McGrath (a fuasai hefyd yn offeiriad plwyf Aberystwyth cyn hynny), mewn ymgais i adfer yr hen ffydd Gatholig i wlad a oedd â'i Hanghydffurfiaeth, yn ei farn ef ac eraill, yn prysur golli ei gafael. Ond trwy dro tyngedfennol cafodd John yno hefyd yn athro Cymraeg iddo neb llai na Saunders Lewis, a enynnodd ynddo gariad mawr at iaith, llenyddiaeth a thraddodiadau Cymru gyda'r canlyniad iddo ddod yn argyhoeddedig mai yng Nghymru y dylai ddilyn ei alwedigaeth, ac felly y bu.

Yn 1942 aeth i frodordy'r Carmeliaid yn Kinsale, de Iwerddon, i ymuno â'r urdd, gan fabwysiadu'r enw crefydd John (ar ôl ei nawddsant, y Sbaenwr mawr o gyfrinydd Ioan y Groes), ac o hynny hyd 1948 bu'n nofis yn Iwerddon, gan broffesu ei addunedau cyntaf fel brawd yn 1943. Tra oedd yno, aeth i Goleg y Brifysgol, Dulyn, lle parhaodd ei addysg Gymraeg dan yr Athro John Lloyd-Jones. Fodd bynnag, cynghorodd yr Athro ef i droi, yn hytrach, at Roeg a Lladin, a dyna a wnaeth ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf (teg tybio nad y Gymraeg oedd ei bwnc cryfaf ar y pryd), ac yn 1946 graddiodd gyda gradd ddosbarth cyntaf yn y Clasuron. Cadwai ei Gymraeg, er hynny, trwy fenthyca llyfrau gan Lloyd-Jones, a phan ddychwelodd i Gymru yn 1956 synnwyd aelodau'r Cylch Catholig gan ei afael ar yr iaith pan arweiniodd eu Tridiau Ysbrydol yn Aberhonddu gan bregethu'n raenus er gwaethaf ei ddiffyg profiad yn y pulpud Cymraeg. Wedi penderfynu aros yn yr urdd, aeth ymlaen i Goleg yr Iesuwyr yn Milltown, Dulyn, i astudio diwinyddiaeth am bedair blynedd, ac yn 1951 fe'i hurddwyd yn offeiriad.

Yn dilyn hynny, dringodd i lefel uwch o efrydiaeth pan dreuliodd flwyddyn yn darllen diwinyddiaeth yn Rhufain (1952-3) a dwy flynedd wedyn yn darllen y Clasuron yng Ngholeg Crist, Caergrawnt (1954-5), lle cafodd radd anrhydedd ddosbarth cyntaf. Cyfarfu yno hefyd â llawer o Gymry Cymraeg yng Nghymdeithas y Mabinogi gan fwynhau eu cwmni.

Yn 1956 dychwelodd i Gymru, lle arhosodd am weddill ei oes, gan fynd yn gyntaf i Goleg y Santes Fair yn Nhre-gib, Llandeilo, ysgol uwchradd breswyl yn wreiddiol a agorwyd gan y Carmeliaid yn 1947 ond a symudwyd yn 1958 i Cheltenham, Lloegr, oherwydd prinder bechgyn yng Nghymru i dalu ei chostau'n llawn. Y pryd hwnnw roedd si y byddai'r brodyr FitzGerald hwythau'n mynd i Loegr cyn hir ond, dan arweiniad Gregory yn bennaf, di-ildio oedd eu dymuniad i aros yng Nghymru. Yn ffodus, newidiwyd swyddogaeth Tre-gib gan ei throi'n ganolfan astudio i Garmeliaid Cymru a Lloegr, a phenodwyd John, wedi cyfnod o ddysgu bechgyn ysgol, yn brior a chyfarwyddwr astudiaethau, gan ddysgu athroniaeth i'r nofisiaid; ond gweithredai hefyd fel offeiriad plwyf i Landeilo. Yn 1964 aeth yn gaplan i'r myfyrwyr Pabyddol yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth. Yn 1970 penodwyd ef yn ddarlithydd yn yr Adran Athroniaeth, lle dysgodd yn bennaf trwy'r Gymraeg, nes iddo ymddeol yn 1993 pan aeth yn gaplan eilwaith i'r myfyrwyr, gan olynu yn hyn o swydd ei frawd Gregory y tro hwn. O 2002 cyfunai swydd caplan â swydd prior ei gymuned hyd adeg ymadawiad y Carmeliaid ag Aberystwyth yn 2004 i ofalu am blwyf Llanelli, lle parhaodd yn brior. Yno, hyd ei farwolaeth yn 2007, mewn plwyf mawr, bu'n rhaid iddo ysgwyddo baich bugeiliol trymach nag a fu arno erioed o'r blaen.

Bu John yn weithgar iawn gydol ei fywyd, fel bugail ac fel gŵr llên. Ymrannai ei ddiddordebau a'i ymrwymiadau llenorol yn dair prif ffrwd - athroniaeth, cyfieithu litwrgi yr Eglwys Gatholig, a barddoni, a'r cwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyson-uchel oedd ei safon ym mhob un o'r rhain, ac fel aelod o banel cyfieithu Y Beibl Cymraeg Newydd gwnaeth gyfraniad sylweddol a phwysig. Fel athronydd, ysgrifennodd lawer, ar ffurf erthyglau a chyfieithiadau. Ymddiddorai yn bennaf yn y Cyn-Socratigion, Aristoteles, St. Anselm a Descartes, gan gyfieithu rhai o'u gweithiau pwysicaf, megis 'Proslogion' St. Anselm (1982), 'Traethawd ar y Method' a 'Myfyrdodau ar yr Athroniaeth' Descartes (1982), a Moeseg Nicomachaidd Aristoteles (1998), prif orchest ei gyfieithu athronyddol. Echreiddig braidd ar dro oedd ei arddull yn y rhain ond cwbl gywir a chlir.

Yn dilyn Ail Gyngor y Fatican (1962-5), oherwydd y newid a ddaeth yn ei sgil o'r Lladin i'r ieithoedd brodorol fel cyfrwng mynegiant y litwrgi, roedd galw am ddarparu cyfieithiadau i'r Gymraeg hithau, a diolch i lafur John FitzGerald ac eraill cafwyd litwrgi sylfaenol addoliad cyhoeddus yr Eglwys Gatholig, ynghyd â ffurfiau'r sagrafennau, yn ein hiaith. Yna, yn 1988, cyrhaeddwyd carreg filltir pan gyhoeddwyd Llyfr Offeren y Sul wedi ei olygu a'i gyfieithu gan John ar y cyd â Patrick Donovan, gwaith a gymerodd le'r llyfrynnau a'r pamffledi y buasai cynulleidfaoedd Pabyddol Cymraeg yn dibynnu arnynt ers blynyddoedd. Cyfieithodd hefyd ran helaeth o'r darlleniadau dyddiol ond bu farw cyn gallu cwblhau a chyhoeddi'r gwaith.

Megis yn achos Saunders Lewis, bychan, ond euraid, oedd swm cynnyrch barddonol 'Ieuan Hir' (ei ddewis enw barddol). Cyhoeddwyd Cadwyn Cenedl yn 1969 a'i ddilyn yn 2006 gan Grawn Gwirionedd, casgliad o'i holl gerddi a enillodd le, yn dra haeddiannol, ar restr fer 'Llyfr y Flwyddyn'. Cymysgedd ydynt, lle defnyddir mesurau caeth, rhydd a phenrhydd, ar themâu crefyddol, clasurol, cymdeithasol, ac eraill, gan gynnwys rhai cyfieithiadau, sy'n adlewyrchu diddordebau a phrofiadau eang ac amrywiol yr awdur a hynny mewn iaith gynnil a chaboledig, gyda gwybodaeth drylwyr o lenyddiaeth Gymraeg yn gefn iddynt.

At weithgaredd deallol John dylid ychwanegu hefyd ei olygyddiaeth o Y Cylchgrawn Catholig ar ran y Cylch Catholig o 1993 i 2003, cyhoeddiad y cyfrannodd iddo yn fwy na neb trwy erthyglau diwinyddol ac athronyddol a chyfieithiadau o bytiau, a'i ddiddordeb mewn ieithoedd. Medrai ryw ddwsin o ieithoedd modern, yn rhugl neu'n rhannol, gan gynnwys iaith eithriadol anodd Gwlad y Basg - ac roedd sôn iddo bregethu hefyd yn honno! Diddordeb arall o'i eiddo - y tro hwn y tu allan i Gymru - oedd 'The Christian Philosophy Conference', casgliad blynyddol anffurfiol o bobl Cristnogol eu cefndir â diddordeb mewn athroniaeth a gynhelir yn Chelsea neu Guildford ac yr oedd John yn aelod sefydlu ohono.

Fel bugail, roedd yn weithgar mewn llawer modd, yn bennaf oll trwy fod yn offeiriad gwir ymroddedig a adwaenai ei braidd ac a'u gwasanaethai yn eu gwahanol anghenion. Mynychai gyfarfodydd y Cylch Catholig, gan weithredu'n aml fel is-gadeirydd, a hefyd ei stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn lle roedd yn wyneb cyfarwydd. Y tu hwnt i'r Eglwys Gatholig, cynrychiolai hi, fel sylwedydd, esboniwr, neu amddiffynnydd, i gynulleidfaoedd Cymraeg ar radio a theledu ac yn y wasg, ond gydag annibyniaeth meddwl. Roedd yn eciwmenydd ymroddedig, pwyllog a thawel ei ddull, a adwaenai lawer o glerigwyr yn yr enwadau eraill gan fwynhau eu cwmni a chyfeillachu â hwy, a châi ei wahodd i bregethu yn eu haddoldai.

O ran person a phersonoliaeth, roedd yn dal iawn a golygus, ac yn allblyg, mwyn, cyfeillgar, a chymwynasgar ei natur, gan feddu ar garisma dwfn a graslon a ddenai bobl. Rhannai ei ddysg a'i ddiddordebau eithriadol eang yn hael â phawb. Ymenyddol iawn oedd ei ddull wrth drafod ac esbonio pynciau, ac ni soniai am agweddau mwy ymarferol y bywyd ysbrydol. Roedd mewn gwirionedd yn fwy cymhleth nag yr ymddangosai - a chymysg oedd ei gefndir a'i hunaniaeth - ond ei rinweddau a wnâi fwyaf o argraff.

Bu John FitzGerald farw ar 28 Tachwedd 2007 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, yn dilyn llawdriniaeth ar gyfer poenau yn ei stumog a fuasai'n ei flino ers blynyddoedd, ac fe'i claddwyd ym Mhriordy Aylesford, swydd Gaint, ar 7 Rhagfyr 2007. Gŵr ydoedd a gyfoethogodd fywyd crefyddol, diwylliannol, a deallusol y Gymru Gymraeg trwy ddwyn ffrydiau meddwl newydd iddi a rhannu â hi ei bersonoliaeth radlon yn ysbryd gostyngedig ac agored yr efengyl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-08-02

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.