LEVY, MERVYN MONTAGUE (1914-1996), awdur a darlledwr ar y celfyddydau gweledol

Enw: Mervyn Montague Levy
Dyddiad geni: 1914
Dyddiad marw: 1996
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur a darlledwr ar y celfyddydau gweledol
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Peter Lord

Ganwyd Mervyn Levy yn Abertawe ar 11 Chwefror 1914 o dras Iddewig, un o dri phlentyn Louis Levy a'i wraig Have (ganwyd Rubenstein). Tyfodd i fyny mewn amgylchiadau cyfforddus ymhlith y genhedlaeth dalentog yn Abertawe a gynhwysai Alfred Janes, Daniel Jones a Dylan Thomas. Yn y 1930au cynnar mynychent gaffi'r Kardomah, gyda Vernon Watkins, Charles Fisher ac eraill. Aeth Levy i Ysgol Gelf Abertawe dan ei Phrifathro dylanwadol, William Grant Murray, cyn mynd ymlaen i'r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain yn 1932. Rhannai fflat yn Chelsea gyda Thomas a Janes, ac yn nes ymlaen hefyd gyda'r arlunydd William Scott. Mabwysiadodd y grŵp ffordd o fyw Fohemaidd gan efelychu Augustus John, un a oedd yn 'seren arweiniol' iddynt yng ngolwg Levy. Yn y Coleg Brenhinol rhagorodd Levy fel dyluniwr, gan ennill Gwobr Syr Herbert Read am Ddylunio yn 1935. Cyfrannodd ei ddarluniau o Dylan Thomas tuag at ffurfio delwedd gyhoeddus y bardd.

Ar ôl iddo adael y Coleg Brenhinol a mynd i mewn i 'jyngl erchyll y byd go iawn', cymerodd Levy amryw swyddi er mwyn ei gynnal ei hun hyd ddechrau'r Ail Ryfel Byd, pan aeth i Sandhurst. Daeth allan yn 1941 gyda chomisiwn yng Nghorfflu Addysg Brenhinol y Fyddin, a threuliodd flynyddoedd y rhyfel yn dysgu. Ar ôl y rhyfel cafodd swyddi mewn addysg oedolion ym Mryste ac yn Llundain. Yn y gwaith hwn perthynai Levy i brif ffrwd y y mudiad i ddemocrateiddio'r celfyddydau wedi'r rhyfel, dan arweiniad Cynghorau'r Celfyddydau, ond yn y 1950au daeth i'r amlwg fel arloeswr trwy gyflwyno'r gyfres 'Painting for Housewives' ar deledu'r BBC. Atgyfnerthodd y gwaith hwn gyda chyhoeddiadau am gelf wedi eu sgrifennu ar gyfer y darllenydd cyffredin - Painter's Progress (1954), Painting for All (1958) - ac ar gyfer plant, Painting with Sunshine (1955). Yn ystod y cyfnod hwn o amlygrwydd Prydeinig ni chollodd gyswllt â'i wlad ei hun, gan gyfrannu ar arddangosfeydd ac ar artistiaid unigol i'r cylchgrawn Wales, a olygid gan Keidrych Rhys, gan gynnwys adolygiad nodedig o ddeifiol ar lyfr David Bell, The Artist in Wales (1957).

Yn 1962 daeth Levy yn olygydd nodwedd ar gyfer y cylchgrawn The Studio, swydd a ddaliodd am bedair blynedd ac a fu'n fodd iddo ddod i adnabod ac i sgrifennu am nifer o artistiaid Ewropeaidd blaenllaw, gan gynnwys Salvador Dali. Datblygodd ddiddordeb arbennig yng ngwaith L.S. Lowry, a chyhoeddodd dair cyfrol arno, gan gynnwys The Paintings of L.S. Lowry: oils and watercolours (1975). Mae ysgrifau Levy yn amlygu diddordeb cyson yn seicoleg artistiaid, dan ddylanwad syniadau Ffreudaidd am rywioldeb (The Moons of Paradise: some reflections on the appearance of the female breast in art, 1962). Yn Liberty Style, The Classic Years, 1798-1910 (1986), dadleuodd fod Art Nouveau cyfandirol wedi ei drawsnewid gan atalnwyd rhywiol Seisnig yng ngwaith Liberty & Co. Yn 1982 cyhoeddodd hunangofiant byr, Reflections in a Broken Mirror.

Roedd ar Levy olwg drawiadol. Roedd yn eithriadol o fyr, ac eto'n olygus. Yn waraidd ei ddull, roedd yn chwedleuwr o fri ac yn hoff o ffantasi, gan ddiddanu ymwelwyr â'r Chelsea Arts Club, a ddeuai ato'n llu yn ei flynyddoedd olaf i glywed ei straeon am Dylan Thomas. Bu'n briod deirgwaith a chafodd un ferch a dau fab; un o'r meibion yw'r gwneuthurwr ffilmiau dogfen Ceri Levy. Bu Mervyn Levy farw yn Llundain ar 14 Ebrill 1996.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-01-09

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.