Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS, JOHN SAUNDERS (1893-1985), gwleidydd, beirniad a dramodydd.

Ganwyd Saunders Lewis yn 61 Falkland Rd, Poulton-cum-Seacombe, Wallasey, Swydd Gaer, ar 15 Hydref 1893, yr ail o dri mab i Lodwig Lewis (1859-1933), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a'i wraig Mary Margaret (g. Thomas, 1862-1900). Derbyniodd ei addysg yn Liscard High School for Boys, lle'r aeth yn chwech oed, cyn mynd ymlaen i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl yn 1911.

Amharwyd ar ei yrfa academaidd gan y Rhyfel Mawr. Ymrestrodd Lewis yn wirfoddol yng Nghatrawd y Brenin Lerpwl ym Medi 1914. Yn Ebrill 1915 cynigiodd am gomisiwn gyda 12fed Bataliwn Cyffinwyr De Cymru, a daeth yn lifftenant llawn ym mis Chwefror y flwyddyn ganlynol. Anfonwyd ef i Ffrainc yr haf hwnnw. Yn sgil ei glwyfo wrth amddiffyn llain o dir yn ymyl Gonnelieu yn Ebrill 1917, fe'i cludwyd yn ôl i Brydain, ond dychwelodd at ei gatrawd, gan wasanaethu wedi hynny hyd ddechrau 1919.

Yn Ffrainc y darllenodd gofiant Thomas Gwynn Jones i Emrys ap Iwan a gwaith Maurice Barrès. Dysgodd Emrys ap Iwan iddo'r ddawn o sgrifennu'n bryfoclyd; yn nhrioleg nofelau Les Déracinés Barrès canfu'r egwyddorion a gynhaliai ei weledigaeth ef fel llenor a gwleidydd am weddill ei oes: yr angen ar yr unigolyn am wreiddiau daearyddol, hanesyddol, crefyddol a diwylliannol, parch at awdurdod a ffieidd-dra at Ramantiaeth.

Cwblhaodd Lewis ei radd BA yn 1920. Erbyn iddo ennill ei MA ddwy flynedd yn ddiweddarach, am astudiaeth ar ddylanwad beirdd Saesneg y ddeunawfed ganrif ar eu cyfoeswyr Cymraeg (y cyhoeddwyd ei sylwedd yn A School of Welsh Augustans yn 1924), yr oedd wedi cyhoeddi'r ddrama ‘Eingl-Gymreig’ The Eve of St John (1921), a chael ei benodi i'w swydd gyntaf, fel trefnydd cynllun i ddatblygu llyfrgelloedd gwledig yn Sir Forgannwg. Yn 1922 fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg y Brifysgol Abertawe. Daliodd y swydd hyd 1936. Priododd Margaret Gilcriest (1891-1984) ar 31 Gorffennaf 1924 yn eglwys Gatholig Our Lady and St Michael yn Workington, Cumberland, a bu iddynt un ferch, Mair, a anwyd yn 1926.

Yn Abertawe y cychwynnodd o ddifrif ar ei waith llenyddol a beirniadol. Yn ogystal â chyfansoddi ei ddrama Gymraeg gyntaf, Gwaed yr Uchelwyr (1922), lluniodd y pamffledyn An Introduction to Contemporary Welsh Literature (1926) a'r ymdriniaeth arloesol, Freudaidd ei naws, Williams Pantycelyn (1927), lle'r dadleuodd y gellid yn deg synio am emynydd mwyaf blaenllaw Cymru fel y Rhamantydd cyntaf yn Ewrop. Yn Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg Hyd 1536 (1932), daliodd fod Deddfau Uno Harri VIII a'r Diwygiad Protestannaidd rhyngddynt wedi ysgaru Cymru oddi wrth ei thraddodiad Ewropeaidd. Cyfrannodd ysgrifau yn ogystal i gylchgrawn Y Llenor W. J. Gruffydd , yn eu plith ‘Dafydd Nanmor’ (1923), a ymdriniodd â'r cysyniad o berchentyaeth a welai Lewis yn sylfaen i'r traddodiad mawl, a ‘Llythyr Ynghylch Catholigiaeth’, yn ymosod ar ryddfrydiaeth Brotestannaidd am ei hamharodrwydd i gydnabod lle pechod yn ei diwinyddiaeth na'i llenyddiaeth. Rhoddodd Lewis le canolog i bechod yn ei nofel Monica (1930), a ddaeth yn succès de scandale oherwydd ei sôn am buteindra a chlefydau gwenerol. Wedi marwolaeth ei dad yn 1933, dilynodd Saunders ei wraig trwy gael ei dderbyn yn ffurfiol i'r Eglwys Gatholig.

Gweithgarwch mwyaf cyrhaeddbell Lewis yn ystod ei gyfnod yn Abertawe, fodd bynnag, oedd cychwyn Plaid Genedlaethol Cymru yn 1925. Yn 1926, pan ymgymerodd â'r llywyddiaeth, traddododd y ddarlith a amlinellai ei pholisi, Egwyddorion Cenedlaetholdeb. Ni fynnai ddilyn trywydd cenedlaetholdeb Iwerddon. Dadleuodd ynddi, yn hytrach, o blaid rhyddid i Gymru o dan y frenhiniaeth. Yr un pryd, fel golygydd cylchgrawn y Blaid Genedlaethol, Y Ddraig Goch, o 1926 ymlaen amlinellodd o fis i fis ei weledigaeth o Gymru fel gwlad hunangynhaliol, gydweithredol ac amaethyddol. Casglwyd nifer o'r ysgrifau hyn yn Canlyn Arthur (1938). Safodd fel ymgeisydd dros ei blaid yn Etholiad Cyffredinol 1931 dros sedd Prifysgol Cymru, gan ennill 914 o bleidleisiau.

Arweiniodd ei ymlyniad wrth ei blaid at drobwynt mwyaf ei fywyd. Yn 1935 cyhoeddodd y Weinyddiaeth Awyr gynlluniau i droi llain o dir ym Mhen Llŷn yn wersyll ymarfer i'r Awyrlu. Arweiniodd Lewis ymgyrch i atal y datblygiad. Yn sgil deisebau a chyfarfodydd cyhoeddus aflwyddiannus, ar 8 Medi 1936, teithiodd Lewis a dau gyd-aelod o'r Blaid Genedlaethol, David John Williams a Lewis Edward Valentine, i Benrhos a llosgi cytiau'r gweithwyr ar safle'r ‘Ysgol Fomio’ arfaethedig. Aethant oddi yno i orsaf yr heddlu ym Mhwllheli, lle cyflwynasant lythyr yn cyfaddef eu rhan yn y weithred. Daeth y ‘tân yn Llŷn’ neu ‘Penyberth’ (yr enw ar y tŷ a ddymchwelwyd er mwyn codi'r gwersyll) yn rhan o chwedloniaeth cenedlaetholdeb. Y mis canlynol, ym Mrawdlys Caernarfon, fe'u cyhuddwyd o ddifrodi eiddo'r brenin. Methodd y rheithgor â chytuno ar ddedfryd, ac fe'u rhyddhawyd. Hyd yn oed cyn yr ail wrandawiad, yn yr Old Bailey yn Llundain ym mis Ionawr 1937, clywodd Lewis ei fod wedi cael ei ddiswyddo o'i ddarlithyddiaeth. Yn yr ail wrandawiad, cafwyd y tri'n euog ac fe'u dedfrydwyd i naw mis yr un yn Wormwood Scrubs.

Ar drothwy'r ail achos, cyfansoddodd Lewis Buchedd Garmon (1937). Drama yw hi o ran ei thestun ymddangosiadol am ddadleuon diwinyddol yr Eglwys Fore, ond anodd peidio â'i darllen yr un pryd fel datganiad am genedlaetholdeb ceidwadol, Cristnogol Lewis. Cynnwys, yn araith Emrys , ond odid y llinellau enwocaf a ysgrifennodd erioed. Cyffelybir Cymru i winllan a draddodwyd yn dreftadaeth o genhedlaeth o genhedlaeth ond a fygythir bellach gan genfaint o foch. Geilw Emrys ar ei gyd-Gymry, ‘cyffredin ac ysgolhaig’ i'w hatal: ‘Sefwch gyda mi yn y bwlch, / Fel y cadwer i'r oesoedd a ddêl y glendid a fu.’ Cafodd Lewis a'i ddau gyd-garcharor ganiatâd arbennig gan lywodraethwr y carchar i wrando arni pan ddarlledwyd hi gyntaf.

Yn sgil ei ryddhau yn hydref 1937, symudodd Lewis i Lanfarian ar gyrion Aberystwyth, a threuliodd y pymtheng mlynedd i ddod yn ennill bywoliaeth ansicr rhwng dysgu, ffermio a newyddiadura. Yn 1939 rhoddodd y gorau i lywyddiaeth y Blaid Genedlaethol. Gwelodd 1941 gyhoeddi'r gyfrol denau o farddoniaeth, Byd a Betws, ac ynddi'r gerdd agoriadol, ‘Y Dilyw 1939’, yn sôn am lowyr di-waith y de diwydiannol fel ‘y demos dimai’ ac am arianwyr Wall Street ‘[a]'u ffroenau Hebreig yn ystadegau'r chwarter’. Fe'i dyfynnid yn gyson gan ei feirniaid ar y chwith o hynny allan i edliw iddo ei snobyddiaeth a'i wrth-semitiaeth. Gwaith mwy sylweddol oedd colofn ‘Cwrs y Byd’ i'r Faner. Rhwng 1939 ac 1951, cyfrannodd dros 560 o erthyglau o wythnos i wythnos ar fywyd Cymru, Ewrop a'r byd tra wynebai anocheledd rhyfel, dyddiau'r drin a'r byd newydd a ymagorai yn nyddiau'r heddwch. Yn y colofnau hyn y gwelir y gorau a'r gwaethaf yn Lewis: yn darogan gwae ac yn argyhoeddedig na ddôi dim da o fuddugoliaeth y naill ochr na'r llall. Dylai Cymru, meddai, sefyll uwchlaw'r frwydr. Ataliwyd ei golofn fwy nag unwaith a pheth cyffredin oedd pensel las y sensrwr.

Ei farn am y rhyfel a'i tynnodd i'r arena gyhoeddus eto yn 1942, pryd y safodd fel ymgeisydd y Blaid yn isetholiad Prifysgol Cymru. Am rai wythnosau ef oedd yr unig ymgeisydd ar y maes ond yn y pen draw llwyddodd y Blaid Ryddfrydol i ddenu W. J. Gruffydd i'r frwydr fel ymgeisydd di-blaid. Aeth yn ymrafael chwerw rhwng cefnogwyr y ddau ymgeisydd. Cyhuddwyd Lewis gan Gwilym Davies ar dudalennau'r cyfnodolyn Y Traethodydd o gynrychioli ‘y Blaid ffasgaidd yng Nghymru’ ac o fynnu creu Cymru dotalitaraidd a Phabyddol. Boicotiodd cefnogwyr Lewis Y Llenor, gan arwain yn anuniongyrchol at ei dranc yn 1951. Etholwyd Gruffydd yn Ionawr 1943, gan roi terfyn effeithiol ar weithgarwch gwleidyddol Lewis am weddill ei oes.

Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd yr oedd Lewis wedi'i ddadrithio gan gyfeiriad ‘sosialaeth gymunedol’ a heddychol Plaid Cymru (fel y'i gelwid erbyn hynny), ei diffyg pwyslais ar yr iaith, ac yn nes ymlaen gan yr hyn a ystyriai'n safiad llugoer ei llywydd, Gwynfor Evans, ar gynlluniau Corfforaeth Lerpwl i foddi pentref Cwm Celyn er mwyn creu cronfa ddŵr Tryweryn. Ceisiodd loches mewn dau le. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yng Nghaerdydd yn 1952, ac er mai prin oedd ei gynnyrch academaidd, parhaodd hyd 1955 i olygu Efrydiau Catholig, cylchgrawn a gychwynnwyd ganddo yn 1946, lle'r ailafaelodd mewn gwaith beirniadol-lenyddol, gyda diddordeb neilltuol yn yr ail ganrif ar bymtheg. Troes yn ôl hefyd at y theatr. Gwelodd 1948 gwblhau Blodeuwedd, wedi bwlch o bron chwarter canrif ers ysgrifennu'r ddwy act gyntaf. I'r cyfnod hwn y perthyn y comedïau ysgafn a gyfansoddod yn benodol i Theatr Garthewin, Eisteddfod Bodran (1952) a Gan Bwyll (1952), yn ogystal â'i ddramâu mwy sylweddol ac adnabyddus: Siwan (1956), Gymerwch chi Sigarét? (1956), Brad (1958) ac Esther (1960). Fe'u nodweddir bob un gan thema ganolog y dewis dirfodol, anochel a wyneba'r prif gymeriad.

Ymddeolodd Lewis o Gaerdydd yn uwchddarlithydd yn 1957, a pharhaodd i fyw ym Mhenarth am weddill ei oes. Ar drothwy ei 70 oed, yn 1962, mentrodd un o'i sylwadau olaf ar gyflwr Cymru. Bwriadwyd i'w ddarlith radio adnabyddus, Tynged yr Iaith fod yn alwad i Blaid Cymru ymateb i ddirywiad y Gymraeg ‘trwy ddulliau chwyldro’ yn hytrach na phapurau polisi. Esgorodd, fodd bynnag, ar sefydlu mudiad newydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gwneud yr henwr yn eilun i genhedlaeth newydd a fagwyd ar ddelfrydau'r mudiadau hawliau yn ne'r Unol Daleithiau a De Affrica. Aeth yr arch-geidwadwr yn symbol chwyldro.

Gyda chanol y chwedegau, fe'i cafodd ei hun - er syndod iddo - yn ffasiynol: perfformid cyfieithiadau Saesneg o'i ddramâu ar y BBC ac ar lwyfannau Hampstead. Hwn oedd degawd ei waith dramatig ar y Gymru gyfoes, Cymru Fydd (1967) a Problemau Prifysgol (1968), lle y creodd ddarlun o wlad lwgr, golledig. I'r gorffennol y perthynai gogoniant Cymru, ac yr oedd ei agwedd tuag at ei gorffennol Protestannaidd (ac Ymneilltuol yn enwedig) yn llawer mwy llariaidd nag y bu hanner canrif ynghynt. Disgrifiodd y Diwygiad Methodistaidd yn 1974 fel ‘stori ail eni [sic] ein cenedl’, a'r Diwygiad a'i ganlyniadau yw cefndir y ddrama Dwy Briodas Ann (a luniwyd yn 1962 a'i chyhoeddi yn 1973), ei ail nofel, y ‘rhamant hanesyddol’ Merch Gwern Hywel (1964), a'r ddarlith ‘Ann Griffiths: Arolwg Llenyddol’ (1965), lle'r ymgymerodd ag esbonio diffuantrwydd ansentimental troedigaeth yr emynyddes.

Daliai Lewis i gyhoeddi mor ddiweddar ag 1980, er gwaethaf strôc y flwyddyn gynt. Yn 1983, yn 89 oed, dyfarnwyd gradd Doethur mewn Llên iddo gan Brifysgol Cymru, a oedd wedi ei ddiswyddo bron hanner canrif ynghynt. Bu farw wedi salwch hir yn Ysbyty St Winifred, Caerdydd, ar 1 Medi 1985. Yn ei anerchiad yn yr angladd dywedodd yr Esgob Daniel Mullins hyn am ei ffydd Gristnogol: ‘Doedd credu ddim yn beth hawdd iddo. Cymaint yn haws fyddai derbyn mai ar olwg allanol pethau y mae barnu'r byd ac mai pethau'r byd yw'r unig rai sydd. Byddai hynny'n caniatáu iddo fyw yn ôl ei reswm a doethineb yr oesoedd a bod yn atebol iddo ef ei hun yn y diwedd am ei weithredoedd.’ Fel yr oedd, ychwanegodd, rhaid oedd wynebu ‘croesddywediadau arswydus y ffydd Gristnogol’. Datgelwyd yn yr angladd ei fod wedi cael ei urddo'n Ben Marchog o Urdd Sant Gregori gan y Pab Paul VI. Gosodwyd y fedal ar ei arch ac fe'i claddwyd yn yr un bedd â Margaret ym mynwent Gatholig Penarth.

Ffynonellau:

  • Alun R. Jones a Gwyn Thomas (gol.), Presenting Saunders Lewis (1973);
  • Mair Saunders Jones et al (gol.), Saunders Lewis: Letters to Margaret Gilcriest (1993);
  • D. Ben Rees (gol.), Ffydd a Gwreiddiau John Saunders Lewis (2002);
  • T. Robin Chapman, Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis (2006).

Awdur:

T. Robin Chapman, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 2014