Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MATHIAS, WILLIAM JAMES (1934-1992), athro a chyfansoddwr.

Ganed William Mathias ar 1 Tachwedd 1934 yn Hendy-gwyn-ar-Daf. Roedd ei dad, James Hughes Mathias (1893-1969), yn athro hanes yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn a'i fam Marian (g. Evans, 1896-1980) yn organyddes ac yn bianyddes. Yn chwech oed dechreuodd gael gwersi piano gan David Lloyd Phillips, Llanfyrnach, ac iddo ef y cyflwynodd Mathias ei sonata i'r piano, op.23. Yn 1952 aeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth i astudio wrth draed Ian Parrott . Graddiodd yn 1956 a chafodd ysgoloriaeth agored i'r Academi Gerdd Frenhinol i astudio cyfansoddi gyda Lennox Berkeley a phiano gyda Peter Katin. Penodwyd ef yn ddarlithydd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor yn 1959, a bu yno nes symud i Brifysgol Caeredin yn 1968. Dychwelodd i Gymru yn 1969 wedi marwolaeth ei dad, ac yn 1970 fe'i penodwyd yn Athro Cerdd yng Ngholeg y Brifysgol Bangor, swydd a ddaliodd tan ei ymddeoliad yn 1987. Etholwyd ef yn Gymrawd yr Academi Gerdd Frenhinol (FRAM) yn 1965 a derbyniodd radd D. Mus. (Cymru) yn 1966. Sefydlodd Ŵyl Gerdd Gogledd Cymru yn Llanelwy yn 1972 a bu'n gyfarwyddwr cerdd iddi tan ei farw. Derbyniodd Wobr Gyfansoddi Cymdeithas Bax yn 1968 a bu'n llywydd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion, 1990-1.

Yr oedd William Mathias yn un o gyfansoddwyr amlycaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Cafodd lwyddiant cynnar gyda pherfformiad o'i Sonata i'r clarinet yng Ngŵyl Gerdd Cheltenham yn 1957, a dwy flynedd yn ddiweddarch clywyd ei Berceuse i gerddorfa yn y Festival Hall yn Llundain. Yn ystod y 1960au datblygodd yn sylweddol fel cyfansoddwr a darganfod ei lais unigryw ei hun, gan gyfansoddi ym mhob ffurf ymron ac ysgrifennu gweithiau cysegredig a seciwlar. Llwyddodd i greu cerddoriaeth a oedd yn nodedig am ei rhithmau bywiog ac am ei hapêl barod i gynulleidfaoedd. Dywedwyd amdano ei fod wedi llwyddo i ddod â dylanwadau Ewropeaidd cyfoes i Gymru heb golli ei lais unigryw ei hun.

Ymhlith ei weithiau corawl mwyaf adnabyddus y mae St Teilo (1962), This World's Joie (1974), Lux Aeterna (1982) a World's Fire (1989). Cyfansoddodd un opera lawn, sef The Servants, i libretto gan yr awdur Iris Murdoch. Comisiynwyd ei anthem ‘Let the people praise thee, O Lord’ ar gyfer priodas Tywysog Cymru yn 1981. Yn ystod y 1970au lluniodd gyfres o weithiau i gerddorfa a alwodd yn ‘dirluniau'r meddwl’, sef Laudi (1973), Vistas (1975), Helios (1977) a Requiescat (1977). Cyfansoddodd dair simffoni, gan adael pedwaredd heb ei gorffen adeg ei farw.

Priododd ym Medi 1959 â (Margaret) Yvonne Collins o Aberdâr, a chawsant un ferch, Rhiannon (g.1968). Bu farw ym Mhorthaethwy ar 29 Gorffennaf 1992. Trosglwyddwyd ei lawysgrifau i ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ffynonellau:

  • Malcolm Boyd, William Mathias , Caerdydd, 1978;
  • Geraint Lewis, ‘William (James) Mathias’, Grove Music Online;
  • John G. Slawson, ‘The choral music of William Mathias’ (Univ. Cincinnati, D.M.A., 1985);
  • ODNB.

Awdur:

Dr Rhidian Griffiths, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 2014