MERCER, JOHN (Jack) (1893-1987), cricedwr

Enw: John Mercer
Dyddiad geni: 1893
Dyddiad marw: 1987
Priod: Kathrine Mercer (née Kemish)
Priod: Santa Lorenzo Mercer (née Green)
Rhiant: Mary Gwendolen Mercer (née Grey)
Rhiant: Walter Ernest Mercer
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cricedwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: D. Huw Owen

Ganwyd Jack Mercer ar 22 Ebrill, 1893 yn Southwick, Sussex, yr ail o chwech o blant Walter Ernest Mercer, ffariar, a'i wraig Mary. Priododd (1) Santa Lorenzo Green yn 1919, gwahanwyd yn 1932; (2) Kathrine (Kay) Kemish yn 1973.

Ymunodd â Chlwb Criced Sussex fel bowliwr gwyro yn 1913, wedi iddo chwarae i glwb Southwick cyn hynny. Gadawodd y flwyddyn ganlynol a theithiodd ar draws Ewrop i Rwsia. Dychwelodd i Brydain yn 1914, a gwasanaethodd gyda'r Royal Sussex Regiment yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi ei anafu a gorwedd mewn crater am ddau ddiwrnod yn 1916, gollyngwyd ef o'r fyddin oherwydd gwaeledd. Ail-ymunodd â staff Clwb Criced Sussex yn 1919, a chwaraeodd ddeuddeg gêm i'r sir yn ystod y cyfnod 1919-21.

Yn ymwybodol o'r her a wynebai yn Sussex gan bresenoldeb Maurice Tate, ymunodd â Chlwb Criced Morgannwg yn 1921, ac ymgymhwysodd ar gyfer cofrestru gyda'i sir newydd drwy chwarae i glybiau criced Y Barri a Chaerdydd. Yn 1923 cipiodd bedair wiced am 41 o rediadau pan drechodd Morgannwg India'r Gorllewin, a daeth yn aelod cyson o dîm Morgannwg y flwyddyn ganlynol. Bu'n fowliwr hynod lwyddiannus wedi 1925 a chipiodd fwy na 100 wiced ar chwe achlysur, gyda'i dymor mwyaf llwyddiannus yn 1929 pan gipiodd 137 wiced ar gyfartaledd o 20.35 rhediad. Enwebwyd ef yn 1926 yn un o bum Cricedwr y Flwyddyn gan y Wisden Almanack, ac ef oedd y cricedwr cyntaf o Forgannwg i dderbyn yr anrhydedd hwn. Chwaraeodd mewn 412 gêm o 1922 tan 1939, ac yn 1936 dyfarnwyd iddo, pan oedd yn 41 mlwydd oed, Flwyddyn Dysteb, gyda'r canlyniad iddo dderbyn swm o £729. Yn y flwyddyn honno, cipiodd y deg wiced i gyd yn erbyn swydd Warwick, y tro cyntaf a'r unig dro i fowliwr o Forgannwg sircrhau yr orchest hon. Yr oedd ei lwyddiannau eraill fel bowliwr yn cynnwys wyth wiced am 41 rhediad yn erbyn swydd Caerwrangon yn 1930 ac wyth wiced am 42 rhediad yn erbyn swydd Warwick yn 1931, a thrithro yn erbyn Surrey yn 1932.

Teithiodd i India, Burma a Sri Lanka gyda'r MCC yn 1926-7, bu'n aelod o dîm Syr Julien Cahn a chwaraeodd yn Jamaica yn 1928-9, ac roedd yn aelod rheolaidd o dîm y 'Players' yn eu gêm flynyddol yn erbyn y 'Gentlemen'. Yn fatiwr trefn-isel ymosodol, sgoriodd 31 rhediad oddi ar belawd wyth-pêl yn erbyn swydd Gaerwrangon yn 1939.

Bu Jack Mercer yn chwaraewr proffesiynol hŷn y clwb o 1932 tan ei ymddeoliad ar ddiwedd tymor 1939, ond chwaraeodd eto i Forgannwg yn 1943 mewn gêmau cyfeillgar adeg y rhyfel. Fe'i penodwyd yn hyfforddwr swydd Northampton yn 1947 a chwaraeodd i'r sir yn ei flwyddyn gyntaf. Yn ystod ei yrfa ddosbarth-gyntaf cipiodd 1,591 wiced ar gyfartaledd o 23.38 rhediad, sgoriodd 6,076 rhediad a sicrhaodd 144 daliad. Bu'n hyfforddwr swydd Northampton tan 1963 pan benodwyd ef yn sgoriwr y clwb, a bu yn y swydd honno tan ei ymddeoliad yn 1981.

Roedd yn enwog hefyd fel chwaraewr cardiau a swynwr, ac roedd yn aelod o'r Magic Circle. Roedd ei ddiddordebau eraill yn cynnwys rasys ceffylau.

Bu farw Jack Mercer yn Llundain ar 31 Awst, 1987, yn 94 mlwydd oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-03-20

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.