MORGAN, DYFNALLT (1917-1994), bardd, beirniad llenyddol a chyfieithydd

Enw: Dyfnallt Morgan
Dyddiad geni: 1917
Dyddiad marw: 1994
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, beirniad llenyddol a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Llion Wigley

Ganwyd Dyfnallt Morgan ym Mhenydarren, Merthyr Tudful ar 24 Mai 1917, yn unig blentyn i Osborne Morgan (1881-1937) a'i wraig Frances Jane (ganwyd Hawes, 1882-1966). Roedd teulu ei dad wedi symud o Geredigion i Ferthyr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roedd gwreiddiau teuluol ei fam yn Llanddewi Brefi. Cyfarfu ei rieni yn Llanddewi ar ôl i'w fam symud i'r pentref o Lundain i fyw gyda'i modryb. Trigai'r teulu yn Haydn Terrace yng nghornel uchaf Penydarren uwchben gweithfeydd dur a haearn Dowlais. Glöwr yn Fochriw, ac yn ddiweddarach pwyswr ac amserwr yng ngweithfeydd cwmni Guest, Keen and Nettlefields yn Nowlais oedd ei dad. Collodd ei swydd yn 1930 o ganlyniad i'r dirwasgiad mawr, a bu'n ddi-waith nes ei farwolaeth ym 1937.

Aeth Morgan i ysgol gynradd Gellifaelog yn 1922, cyn ennill ysgoloriaeth i fynd i ysgol ramadeg Castell Cyfarthfa yn 1928. Awyrgylch ac addysg uniaith Saesneg oedd yn ei ysgol gynradd, ond atgyfnerthwyd ei Gymraeg yn y cyfnod hwn trwy ymweld â'i fodrybedd yn Llanddewi Brefi bob gwyliau haf. Roedd wrth ei fodd yng nghefn gwlad Ceredigion, a phrofiad poenus oedd dychwelyd i Ferthyr bob mis Medi. Cofiwyd amdano yn gynnes yn yr ardal. Adlewyrchwyd hyn yn y cyngerdd croeso a gynhaliwyd yn neuadd y pentref i'w gyfarch wedi iddo ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1957.

Gwelodd dlodi enbyd yn ardal Dowlais yn ystod ei blentyndod, a phrofodd ei deulu ei hun gyni ar ôl i'w dad golli ei swydd. Cofiai wisgo dillad wedi cwtogi ar ôl ei dad a cherdded tair milltir i Ysgol Cyfarthfa ac yn ôl bob dydd rhwng 1928 a 1935. Bu sawl un o'i gyd-ddisgyblion farw o'r diciâu. Daeth ei alluoedd llenyddol i'r amlwg yn y chweched dosbarth o dan arweiniad ei athrawes Gymraeg, Miss Hettie Morris. Fe'i cyflwynwyd i waith T. H. Parry Williams a Gwenallt, dau arwr personol y daeth i'w hadnabod ar ôl cychwyn fel myfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth ym 1935. Enillodd ysgoloriaeth i'r coleg ger y lli, a theithiodd yno o Ddowlais ar ei feic ym Medi 1935. Tua 600 o fyfyrwyr oedd yn Aberystwyth ar y pryd, llawer ohonynt o gymoedd De Cymru. Sefydlodd staff y coleg glwb cinio er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr tlotaf yn cael o leiaf un pryd da o fwyd y dydd, a bu Morgan yn byw ar ffa pob yn bennaf yn y tŷ a rannai gyda Merfyn Turner, Cledwyn Hughes, ac eraill yn South Road. Astudiodd Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg a Cherddoriaeth, gan ennill gradd anrhydedd yn y Gymraeg ym 1938, a Saesneg yn 1939. Arhosodd yn y coleg am flwyddyn bellach er mwyn hyfforddi fel athro.

Ymyrrodd yr Ail Ryfel Byd ag unrhyw gynlluniau i gychwyn gyrfa mewn addysg. Fel Cristion o argyhoeddiad a fagwyd yn y traddodiad Annibynnol yng nghapel y Gwernllwyn, Dowlais, penderfynodd wneud safiad trwy wrthod dwyn arfau. Mae un o'i gerddi cynnar, Y Milwr Gwyn, am y gofeb rhyfel yn Llanddewi Brefi, a gyfansoddodd pan oedd yn un ar hugain oed, yn tystio'n huawdl i'w wrthwynebiad i filitariaeth. Daeth o flaen Tribiwnlys De Cymru yn Aberystwyth ym 1940 gyda rhai o'i gyd-fyfyrwyr, fel Merfyn Turner, a chafodd ei ddaliadau heddychol eu cydnabod gan y barnwr. Fe'i cofrestrwyd fel gwrthwynebydd cydwybodol, a phenderfynodd ymuno â changen o'r Christian Pacifist Forestry and Land Units (a sefydlwyd yng Nghymru gan Gwynfor Evans). Bu'n goedwigwr ger Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin am flwyddyn, cyn symud i weithio fel cynorthwyydd yn y ward lawfeddygol yn Ysbyty Queen Elizabeth, Birmingham ym 1941. Ymunodd ag Uned Ambiwlans y Crynwyr yn 1943 - un o nifer o Gymry ymysg dros fil o ddynion a weithiodd i'r Uned ar draws Ewrop, Gogledd Affrica ac Asia rhwng 1939 a 1946 - gan weithio gyda ffoaduriaid am bedair blynedd, yn gyntaf yn yr Eidal ac yn hwyrach yn Awstria. Gweithiodd yn bennaf fel swyddog lles a swyddog cyswllt rhwng y lluoedd milwrol Prydeinig a'r milwyr Sofietaidd mewn gwersylloedd i ffoaduriaid yn agos i'r ffin rhwng Awstria a Hwngari. Penderfynodd ymroi i ddwy flynedd bellach o wasanaeth i'r Uned yn Tseina yn 1946 wedi i'w gyfnod o wasanaeth cenedlaethol ddod i ben oherwydd teimlai nad oedd yn deg iddo gystadlu am swyddi gyda'r milwyr oedd wedi dychwelyd i Gymru. Roedd hon yn weithred nodweddiadol o'i bersonoliaeth wylaidd a meddylgar. Ar ôl degawd o frwydro rhwng Japan a Tseina, roedd y rhyfel cartref rhwng y Comiwnyddion o dan arweiniad Mao Tse Tung, a'r Cenedlaetholwyr, y Kuomintang, newydd ailgychwyn. Hwyliodd Morgan i Shanghai ym Mehefin 1946 a theithiodd i Chengchow yn nhalaith Honan, lle'r oedd tua phum miliwn o ffoaduriaid wedi dychwelyd ar ôl ffoi o luoedd Japan. Helpu i gludo bwyd a nwyddau hanfodol eraill o Shanghai i Chengchow, ac yn ddiweddarach i Hankow, oedd ei brif orchwyl, nes iddo orfod dychwelyd i Brydain ym 1947 oherwydd afiechyd difrifol. Parlyswyd ei fraich chwith gan y diciâu a bu'n glaf yn ysbyty Heatherwood yn Ascot am flwyddyn, cyn treulio blwyddyn bellach yn ei gartref yn gwella o'r anaf.

Wedi cyfnod o waith ymchwil ym Mhrifysgol Caeredin, dychwelodd Morgan i Gymru ym 1951 i gymryd swydd yn adran Addysg Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. Cyflawnodd arolwg ar ddwyieithrwydd mewn ysgolion cynradd trwy ymweld ag ysgolion yn siroedd gorllewin a chanolbarth Cymru. Cyfarfu â'i briod Eleri, merch i'r prifardd a gweinidog T. Eirug Davies, yn ystod y cyfnod hwn, a chawsant un mab, Tomos. Gweithiodd i'r BBC yn Abertawe a Bangor am ddegawd rhwng 1954 a 1964 fel cynhyrchydd rhaglenni radio, gan gyflwyno nifer o raglenni ei hun. Dangoswyd rhychwant ei ddiddordebau a'i ddiwylliant yn yr amrywiaeth eang o raglenni y bu'n gyfrifol amdanynt ar fyd natur, gwyddoniaeth, llenyddiaeth ac amaethyddiaeth. Roedd ganddo lais cyfoethog a weddai'n berffaith i'r radio - ym marn ei gyfaill Islwyn Ffowc Elis 'y llais mwya' persain a glywais i erioed gan Gymro' - a gwnaeth gyfraniad pwysig i fyd darlledu trwy helpu i ddatblygu'r eirfa a ddefnyddiwyd a'r ystod o bynciau a drafodwyd ar y radio yn Gymraeg. Deallodd mai, yn ei eiriau ei hun, 'radio a theledu yw prif gyfryngau cyfathrebu ein hoes'. O 1964 tan ei ymddeoliad yn 1984 bu'n gweithio fel darlithydd i Adran Efrydiau Allanol Coleg y Brifysgol, Bangor. Teithiodd o amgylch trefi a phentrefi gogledd Cymru yn rhoi dosbarthiadau nos ar lenyddiaeth Gymraeg, ac roedd yn athro hynaws a hoffus.

Daeth yn agos i gipio coron Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl ym 1953 gyda'i bryddest 'Y Llen'. Byddai un o'r tri beirniad, sef Saunders Lewis, wedi'i goroni'r flwyddyn honno, oherwydd credai mai'r darlun yn ei gerdd o newid cymdeithasol a diwylliannol mewn tref ddiwydiannol, ddirwasgedig oedd y mwyaf grymus yn y gystadleuaeth. Defnyddiodd Morgan dafodiaith Morgannwg yn 'Y Llen', sy'n adrodd hanes gŵr canol oed yn dychwelyd i Ddowlais ar gyfer angladd hen ffrind. Sylwa ar y seddi gwag a safon symol y canu wrth ymweld â'i hen gapel, ac fe ellir dadlau bod y gerdd hon yn un o'r ymatebion creadigol mwyaf trawiadol i'r broses o seciwlareiddio a Seisnigeiddio a brofwyd yng nghymoedd de Cymru yn hanner gyntaf yr ugeinfed ganrif. Thema debyg sydd i'w ddrama fydryddol Rhwng Dau, a enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol sir Fôn iddo ym 1957, sef y ffin rhwng dwy ffordd o fyw a dau ddiwylliant a phwysigrwydd gwneud dewis ymarferol, ymwybodol i warchod yr hen ffordd o fyw rhag cael ei draflyncu gan y newydd. Casglwyd ei gerddi gorau at ei gilydd yn ei unig gyfrol o farddoniaeth, Y Llen a Myfyrdodau Eraill (1967).

Cyhoeddwyd ei weithiau pwysicaf fel beirniad llenyddol yn y 1970au cynnar: ymdriniaeth hyddysg a threiddgar o farddoniaeth Gwenallt yn y gyfres Writers of Wales (1972), a gyfrannodd at gyflwyno ei waith i gynulleidfa newydd; astudiaeth bwysig ac arloesol o weithiau cynnar T. H. Parry Williams, Rhyw Hanner Ieuenctid (1971); a darlith arbennig o ddeallus ar themâu mwyaf barddoniaeth Waldo Williams, sy'n treiddio'n ddwfn o dan wyneb ei gerddi i ddatgelu craidd daliadau Cristnogol a dyngarol y bardd (1975). Nodwedd amlwg o'r ymdriniaethau beirniadol hyn oll yw ystod cyfeiriadaeth Morgan, a ddeilliai o'i wybodaeth a'i ddarllen eang a'i feistrolaeth o sawl iaith, yn cynnwys Ffrangeg, Eidaleg ac Almaeneg. Llwyddodd i gyfleu amrywiaeth a dyfnder ei wybodaeth mewn arddull hamddenol, sgyrsiol, sy'n llawn cyffyrddiadau o'r dafodiaith a glywodd fel plentyn yng Ngheredigion. Roedd yn olygydd medrus hefyd a gasglodd gyfrolau diddorol at ei gilydd ar Ann Griffiths, Y Ferch o Ddolwar Fach (1976), a Merfyn Turner, Cyfaill Carcharorion (1991), ynghyd â dwy gyfrol o sgyrsiau radio ar lenyddiaeth Gymraeg, a chyfrannodd amrywiaeth o erthyglau ac adolygiadau i'r wasg Gymraeg. Gwnaeth ddefnydd pellach o'i ddoniau fel ieithydd i gyfieithu toreth o weithiau llenyddol a cherddorol i'r Gymraeg. Cyflwynodd weithiau theatrig pwysig gan Pirandello (gyda'i wraig, Eleri), a'r dramodydd Tsiec Vaclav Cibula i gynulleidfa Gymraeg, a chyfieithodd dros 250 o weithiau cerddorol o'r Almaeneg, Ffrangeg ac Eidaleg ar gais Pwyllgor Cerdd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn ogystal â'i ddoniau llenyddol unigryw, roedd Morgan yn ŵr arbennig o hynaws a bonheddig a gofiwyd am gynhesrwydd ac addfwynder ei bersonoliaeth. Adlewyrchwyd ei ysbryd annibynnol yn ei benderfyniad na ddylid cynnwys y deyrnged arferol mewn gwasanaeth Anghydffurfiol yn ei angladd ei hun. Ysgrifennodd lythyr yn ystod ei gyfnod olaf o waeledd a ddarllenwyd yn lle hynny a oedd yn dystiolaeth rymus o'i gariad i'w deulu a'i argyhoeddiadau dwfn fel Cristion a heddychwr. Bu farw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar 6 Hydref 1994 a chynhaliwyd y gwasanaeth coffa yng nghapel Pendref a'r Amlosgfa ym Mangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-04-20

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.