WATKINS, ALBERT JOHN (ALLAN) (1922-2011), cricedwr

Enw: Albert John Watkins
Dyddiad geni: 1922
Dyddiad marw: 2011
Priod: Molly Watkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cricedwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: D. Huw Owen

Ganwyd Allan Watkins ar 21 Ebrill, 1922 ym Mrynbuga, yn fab i heddwas. Bu'n briod â Molly, a ganwyd iddynt dri phlentyn.

Ymestynnodd gyrfa Allan Watkins gyda Chlwb Criced Morgannwg dros gyfnod o 23 mlynedd. Yn fatiwr llaw-chwith, sgoriodd 20,361 o rediadau gyda 29 cant mewn gemau dosbarth cyntaf, a chymrodd 833 wiced gyda'i fowlio sêm llaw-chwith, a 464 daliad. Ef oedd un o'r maeswyr ystlys agos gorau a chwaraeodd i'r sir, ac fe'i disgrifiwyd gan Jack Fingleton, y batiwr a sylwebydd o Awstralia, fel y daliwr agos at y wiced gorau yn y byd. Chwaraeodd 15 Gêm Brawf i Loegr rhwng 1948 ac 1952, a theithiodd i Dde Affrica, India a Phacistan gyda'r MCC.

Chwaraeodd i Forgannwg am y tro cyntaf mewn gêm ddosbarth cyntaf yn 1939. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd chwaraeodd beldroed dros Plymouth Argyle a Dinas Caerdydd a rygbi dros Pont-y-pŵl. Ail-gychwynnodd ei yrfa fel cricedwr wedi'r rhyfel, a sgoriodd ei gant cyntaf mewn gêm ddosbarth cyntaf yn 1946. Yn 1948 ef oedd y Cymro cyntaf i chwarae mewn Gêm Brawf y Lludw, a dyma'r gêm enwog a chwaraewyd yn yn yr Oval, sef Gêm Brawf olaf Don Bradman, y batiwr chwedlonol o Awstralia. Bowliwyd Bradman cyn iddo sgorio gan ail belen ei fatiad, ac enillodd Watkins le yn hanes criced gan mai ef oedd y chwaraewr olaf mewn Gêm Brawf i faesu ergyd gan Bradman, sef yr un a drawyd ganddo ar ei belen gyntaf.

Teithiodd i Dde Affrica gyda'r MCC yn ystod gaeaf 1948-49, ac ef oedd y Cymro cyntaf i sgorio cant mewn Gêm Brawf pan sgoriodd 111 yn y bedwaredd Gêm Brawf ym Mharc Ellis ym mis Chwefror, 1949. Gwnaeth hyd yn oed yn well na hynny pan sgoriodd 137 heb fod allan yn y gêm yn erbyn India yn Delhi ym mis Tachwedd 1951. Clodforwyd ei gyfraniad gan Wisden, Beibl y cricedwyr, a gyfeiriodd at yr 'heroic rearguard action led by Watkins, who batted for nine hours, [which] enabled England to draw a match which India should have won.' Cyflawnodd berfformiadau gorau ei yrfa yn 1954, sef sgorio 170 heb fod allan yn erbyn swydd Gaerlŷr yn Abertawe a chipio saith wiced am 28 rhediad yn erbyn swydd Derby yn Chesterfield. Ei daith olaf gyda'r MCC oedd i Bacistan yn 1955-56.

Ymddeolodd o griced sirol hanner ffordd drwy tymor 1962. Wedi gwasanaethu yn gyntaf fel gwarcheidwad yn ysgol Borstal Brynbuga, sicrhaodd swyddi hyfforddi yn Ysgol Framlingham ac yna Ysgol Oundle, swydd Northampton, a bu yn y swydd honno am bedair degawd.

Bu Allan Watkins farw yn Kidderminster ar 3 Awst 2011.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-03-18

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.