WILLIAMS, Syr GLANMOR (1920-2005), hanesydd

Enw: Glanmor Williams
Dyddiad geni: 1920
Dyddiad marw: 2005
Priod: Margaret Fay Williams (née Davies)
Plentyn: Margaret Williams
Plentyn: Huw Williams
Rhiant: Ceinwen Williams (née Evans)
Rhiant: Daniel Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Prys Morgan

Ganwyd Glanmor Williams ar 5 Mai 1920 yn 3 Cross Francis St, Dowlais, Merthyr Tudful, Morgannwg, yn unig blentyn i Daniel Williams (marw 1957) a'i wraig Ceinwen (ganwyd Evans) a fu farw yn 1970. Yn sir Frycheiniog yr oedd gwreiddiau teulu ei dad ac yn Rhandir-mwyn, Sir Gaerfyrddin yr oedd gwreiddiau teulu'r fam. Roedd y teulu'n Fedyddwyr Cymraeg yn addoli yng nghapel Moriah, Dowlais. Gweithiai ei dad fel halier mewn pwll glo, ac yna fel clerc yswiriant ac yn ddiweddarach fel gweithiwr ffatri. Roedd ei dad-cu a'i fam-gu ar ochr ei fam, a oedd yn byw yn gyfagos, ynghyd â'r capel, yn ddylanwadau cryf ar Glanmor ym more oes.

O 1924 i 1931 bu'n ddisgybl yn ysgol gyfagos y Pant, yna o 1931 i 1937 aeth i ysgol ramadeg Castell Cyfarthfa, a oedd wedi ei lleoli yn rhan o'r plas a godwyd gan deulu Crawshay, y meistri haearn. Cafodd y cyfan o'i addysg trwy gyfrwng y Saesneg, ond gan ei fod am flynyddoedd yn ystyried gyrfa gweinidog gydag enwad y Bedyddwyr, astudiodd y Gymraeg yn y chweched dosbarth, gyda Saesneg a Hanes. Cafodd yrfa ddisglair yn yr ysgol a dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth y Wladwriaeth, Ysgoloriaeth Merthyr ac Ysgoloriaeth Owen M. Edwards, a'r rheini yn ei alluogi i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1937. Yn Aberystwyth, lle chwaraeodd ran flaenllaw ym mywyd y coleg fel Llywydd Cyngor Cynrychioladol y Myfyrwyr yn 1941-2, astudiodd Gymraeg a Hanes, ond cafodd y cwrs Cymraeg yn rhy ieithyddol i'w chwaeth, ac yn raddol dechreuodd feddwl amdano'i hun fel hanesydd yn hytrach na darpar weinidog gyda'r Bedyddwyr. Pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd yn 1939, er ei fod yn aelod o'r Corfflu Hyfforddi Swyddogion yn Aberystwyth, fe'i dyfarnwyd ar dir meddygol yn anaddas at wasanaeth milwrol pan aeth i ymgofrestru ym Mhontypridd. Ym mis Mehefin 1941 dyfarnwyd Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf iddo, a hynny'n agor y drws iddo ddechrau cynllun ymchwil MA ar fywyd Richard Davies, yr esgob o'r unfed ganrif ar bymtheg.

Yn Aberystwyth yn haf 1941 y cyfarfu â'i ddarpar wraig, Fay Davies o Gaerdydd, myfyrwraig hanes ychydig yn iau nag ef, ond dryswyd ei holl gynlluniau ymchwil trwy farw disyfyd ei gyfarwyddwr yr Athro E. A. Lewis. Penderfynodd ddygnu ymlaen ar ei ymchwil yn ddigyfarwyddyd am beth amser, er ei fod yn cael cyngor gan yr Athro David Williams, ac yna llwyddodd i gael ei benodi i swydd athro ysgol yn Ysgol Ganolraddol Merthyr, gan ddysgu hanes a rhai pynciau eraill. Yn 1945 cafodd ei benodi i swydd dros dro yn ddarlithydd hanes yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, coleg a fu'n gartref iddo hyd ei ymddeoliad yn 1982. Pan aeth ei gydweithiwr Glyn Roberts i swydd cofrestrydd Coleg y Gogledd ym Mangor, daeth cyfle iddo yntau i gael ei benodi i swydd darlithydd parhaol yn Hanes Cymru yn Abertawe. Priododd â Fay Davies ar 6 Ebrill 1946, ac aeth y ddau i fyw yn agos i'r Brifysgol yn Abertawe, a magu teulu yno, eu merch Margaret (ganwyd 1952) a'u mab Huw (ganwyd 1953). Gorffennodd ei MA ar Richard Davies yn 1947, a llwyddo i droi'r traethawd yn llyfr (yn Gymraeg) a gyhoeddwyd yn 1953. Cyhoeddodd ddwy gyfrol yn Gymraeg yn ogystal, un ar Samuel Roberts, Llanbryn-mair (yn 1950), ac un ar David Rees, Llanelli (hefyd yn 1950), dwy gyfrol ar arweinwyr anghydffurfiaeth Cymru yn y 19eg ganrif, a chyfrolau'n dangos ei barodrwydd i drin pynciau a oedd y tu allan i'w briod faes, sef oes y Tuduriaid.

Nid oes syndod ei fod wedi ei benodi'n uwch-ddarlithydd yn 1952, o gofio ei rymuster fel darlithydd a dysgawdwr, a'i erthyglau toreithiog, a sylwyd ar ei alluoedd fel gweinyddwr wrth iddo gael ei benodi'n aelod o Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru yn 1948. Pan symudodd yr Athro D. B. Quinn o Abertawe i fod yn Athro Hanes Prifysgol Lerpwl yn 1958, yr oedd mewn safle gref i fod yn ymgeisydd am y gadair. Yn wir fe'i penodwyd i'r gadair, ond roedd hynny yn nannedd gwrthwynebiad amryw gan gynnwys y Prifathro J. S. Fulton. Eithr wedi ei benodi, dangosodd ei allu fel athro hynod fywiog a dyfeisgar a phennaeth adran a fyddai'n ehangu'n gyflym, a defnyddiodd ei adran fel pwerdy i wthio'i syniadau am bwysigrwydd hanes, ac yn anad unpeth hanes Cymru, yn y Brifysgol. Cyflawnodd ei freuddwyd trwy gyhoeddi'n helaeth yn y ddwy iaith, trwy chwarae rhan amlwg mewn cymdeithasau lleol a chenedlaethol, trwy greu cyfryngau newydd i hanes, trwy gynorthwyo dwsinau o haneswyr ifainc o Gymry, ac mewn ffordd anghyffredin os nad unigryw, trwy wasanaethu llaweroedd o gyrff cyhoeddus yng Nghymru (a Lloegr yn ogystal), er mwyn darbwyllo pobl gyhoeddus a'r awdurdodau fod gwir angen iddynt estyn cymorth i'w gynlluniau i roi cyhoeddusrwydd i hanes.

O'r pumdegau hyd ddechrau 2005 ysgrifennodd doreth ddiball o ysgrifau ac adolygiadau, a threfnodd i grynhoi nifer o'r ysgrifau yn gyfrolau. Efallai mai ei waith mwyaf gwreiddiol yw ei lyfr mawr The Welsh Church from Conquest to Reformation (1962), llyfr a ystyriai mewn ffordd yn rhyw fath o ragarweiniad i'w waith mawr arfaethedig ar y Diwygiad Protestannaidd, ond cafodd y llyfr hwn glod mawr fel llusern yn taflu goleuni ar bob agwedd o fywyd Cymru yn y cyfnod cythryblus ac ansicr rhwng 1282 a dechrau'r 16eg ganrif. Golygodd gasgliad o ysgrifau ar ei dref enedigol: Merthyr Politics: the Making of a Working-Class Tradition (1966), ac yn 1967 cafwyd ganddo astudiaeth fer ar Owain Glyndŵr, ac yn yr un flwyddyn ei Welsh Reformation Essays. Aeth rhai blynyddoedd heibio cyn iddo gyhoeddi Religion Language and Nationality in Wales yn 1979, ac yna yn 1985 daeth cyfrol ddwyieithog fer ar Harri Tudur, a chasgliad o ysgrifau ar arweinwyr crefyddol ar hyd yr oesau yng Nghymru, sef Grym Tafodau Tân. Llwyddodd i ddarbwyllo Gwasg Rhydychen i noddi cyfres o lyfrau cyffredinol ar gwrs hanes Cymru, a daeth y gyntaf o'r rhain i'r fei yn 1981, ac yn 1987 ef ei hun a ysgrifennodd y gyfrol ar hanes Cymru o gyfnod Glyndŵr hyd at y Rhyfeloedd Cartref, sef Recovery, Reorientation and Reformation: Wales, c. 1415 to 1642. Daeth casgliad unwaith eto o'i ysgrifau yn 1991, sef The Welsh and Their Religion, ac yn 1997 daeth trydydd magnum opus sef Wales and the Reformation, cynhaeaf oes gyfan o lafurio yn y maes. Roedd yn bedwar ugain oed pan gyhoeddwyd y casgliad olaf o'i ysgrifau sef Cymru a'i Gorffennol: Côr o Leisiau (2000), cyfrol o ysgrifau am wleidyddiaeth a chrefydd.

Pan oedd yn ddarlithydd ifanc yn Abertawe daeth yn aelod blaenllaw o Gyfeillion Gŵyr, a sefydlwyd yn 1948, a daeth yn gyd-olygydd cylchgrawn y Cyfeillion, sef Gower ac ef oedd 'hanesydd' swyddogol y gymdeithas. Cydweithiodd gyda'r hanesydd Syr Frederick Rees i sefydlu Cymdeithas Hanes Morgannwg yn 1951 a daeth yn gyd-olygydd y cylchgrawn newydd Morgannwg am rai blynyddoedd. Darbwyllodd y Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn 1957 y dylai Cymru gael ei chylchgrawn hanesyddol ei hun, ac ef oedd golygydd cyntaf Cylchgrawn Hanes Cymru pan ymddangosodd gyntaf o'r wasg yn 1960. Pan ddaeth yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Hanes Morgannwg gwelodd y cyfle i atgyfodi'r hen gynllun o gael hanes sirol i Forgannwg yr oedd un gyfrol yn unig ohono wedi ymddangos yn 1931. Atgyfododd y gyfres gyda'r fath arddeliad fel y cafodd ei hun yn olygydd cyffredinol y gyfres i gyd ac yn olygydd ar ddwy o'r cyfrolau, y rheini'n ymwneud â hanes y sir o ddiwedd y bymthegfed ganrif hyd ddiwedd y ddeunawfed.

O ran ei arddull roedd yn awdur anymfflamychol, a gofalus a chytbwys ei farn, bob amser yn amcanu at fod yn ddymunol o ddarllenadwy, a bwriad ei gasgliadau niferus o ysgrifau oedd cyflwyno gwaith o gylchgronau academaidd neu hanes lleol i'r darllenydd cyffredinol, hynny yw, y math o bobl y byddai yntau'n hoffi darlithio iddynt ar hyd ei oes mewn cymdeithasau neu ddosbarthiadau allanol. Cwynai ambell waith y câi drafferth i ysgrifennu yn Gymraeg, ond y gwir amdani yw fod ei weithiau Cymraeg niferus yn llifo'r un mor llyfn ac esmwyth â'i weithiau Saesneg, ac yr oedd ei sgyrsiau yn Gymraeg yn gallu bod yn fwy dadlennol a ffraeth na'r rheini yn Saesneg. Mae'n gwbl amlwg o'r hyn a ddywedwyd am ei gyhoeddiadau mai crefydd yw eu prif bwnc, y Diwygiad Protestannaidd yn arbennig a chrefydda yng Nghymru'n gyffredinol. Mae hyn yn adlewyrchu ei ddaliadau crefyddol dyfnion ar hyd ei fywyd. Ond yn aml byddai'n poeni bod llawer o'i waith yn mynd i fod yn annealladwy ac yn amherthnasol i genedlaethau'r dyfodol gan gymaint y dirywiad mewn crefydda a welai ymhobman o'i gwmpas. Crybwyllyd rhan yn unig o'i waith ysgrifenedig, ac nid oedd ei lyfrau ond yn rhan o'i frwydr bersonol i ddangos i Gymru fod ei hanes yn bwysig iddi.

Credai fod sefydliadau cenedlaethol yn bwysig dros ben, ac roedd yn bwyllgorddyn delfrydol gan ei fod yn rhyfeddol o huawdl a chwimwth ei feddwl. Roedd ynddo ryw fath o drefnusrwydd naturiol, greddf i fod yn ddibynadwy a thaclus ei feddwl a'i ffordd. Roedd gwaith gweinyddol felly yn apelio ato, a'i dymer hawddgar a'i ymdeimlad cryf o ddyletswydd i wasanaethu ei gyd-ddynion yn golygu bod tuedd ynddo i dderbyn swyddi a gynigid iddo gan ei gyfoeswyr, gan eu bod hwythau'n gwerthfawrogi ei reddf drefnus. Hyd yn oed fel myfyriwr bu'n Llywydd y myfyrwyr yn Aberystwyth, a phan oedd yn gyw-ddarlithydd roedd yn drysorydd y staff yn cadw llygad ar gyngor myfyrwyr Abertawe. Am gyfnod byr wedi 1961 bu'n warden ar un o'r neuaddau preswyl newydd a godwyd ar y campws, ac yn 1964 cafodd swydd deon cyfadran newydd Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol. Rhwng 1975 a 1978 bu'n Is-brifathro'r coleg, ond gwrthododd y cynnig i fod yn Brifathro yn nes ymlaen. Roedd yn gredwr cryf yn y berthynas agos rhwng y coleg a'r dref: bu'n aelod cadarn ar hyd ei oes o Gyfeillion Gŵyr, ac o 1967 ymlaen am rai blynyddoedd bu'n aelod o bwyllgor Gŵyl Gerdd Abertawe. Bu'n Is-lywydd Sefydliad Brenhinol De Cymru yn Abertawe ac yn Ynad Heddwch ar fainc ynadon Abertawe ac am flynyddoedd bu'n un o gyfarwyddwyr Cymdeithas Adeiladu'r Dillwyn. Afraid dweud ei fod yn aelod pybyr ar hyd ei oes o eglwys fedyddwyr Capel Gomer, ac wrth ei waith fel cyhoeddwr yn union cyn ei afiechyd terfynol.

Bu'n aelod o Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru am ddegawdau lawer ac yn gadeirydd am rai blynyddoedd. Bu'n Is-lywydd ei hen goleg yn Aberystwyth o 1987 i 1996, yn gadeirydd Cymdeithas Hanes Morgannwg o 1968 i 1975 ac yna yn Llywydd hyd 2005. Roedd hefyd yn Llywydd Ymddiriedolaeth Hanes Morgannwg, corff yn dosbarthu arian i gefnogi hanes lleol. Bu'n aelod o gyngor Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion am flynyddoedd a derbyniodd fedal y Cymmrodorion yn 1991 am ei gyfraniad i hanes Cymru. Roedd yn Is-lywydd y Royal Historical Society o 1979 i 1983, ac yn Llywydd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru yn ystod 1980. Rhwng 1962 a 1990 bu'n aelod o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac yn gadeirydd arno rhwng 1986 a 1990. Bu'n gadeirydd Bwrdd Cofebau Hynafol Cymru rhwng 1983 a 1995, ac yn aelod o Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru o 1962 i 1989 - gorchwyl a roddai bleser diflino iddo - a bu'n aelod o Gyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru rhwng 1983 a 1990, ac o 1987 i 1990 ef oedd cadeirydd pwyllgor yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan, ond ymddiswyddodd o'r ddwy swydd yn yr Amgueddfa am ei fod yn anghytuno â pheth o bolisi'r sefydliadau hynny. O 1978 i 1981 bu'n aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru ac am amser byr rhwng 1969 a 1970 bu'n aelod o Gomisiwn Cefn Gwlad Cymru. Gan ei fod wedi treulio rhan o'i yrfa fel ysgolfeistr, roedd yn ymddiddori ym mhroblemau cyflwyno hanes i blant ysgol, a mawr oedd ei lawenydd pan ofynnwyd iddo fod yn Llywydd cyntaf Cymdeithas Athrawon Hanes Cymru yn 1988, ac yn y swydd honno chwaraeodd ran allweddol yn llunio a chyflwyno cwricwlwm hanes newydd i'r ysgolion.

Y peth anarferol yn ei yrfa oedd ei barodrwydd i wneud pob math o gymwynasau cyhoeddus mewn meysydd heb ddim cysylltiad â'i briod faes academaidd. Y tro cyntaf y daeth ei enw gerbron y cyhoedd yng Nghymru yn fwy na thebyg oedd pan benodwyd ef yn aelod o'r Pwyllgor ar Statws Cyfreithiol yr Iaith Gymraeg rhwng 1963 a 1965 ('Pwyllgor Hughes Parry' ar lafar, gan mai Syr David Hughes Parry oedd ei gadeirydd), ac o waith y pwyllgor y daeth Deddf yr Iaith Gymraeg yn 1967 gyda'r egwyddor o ddilysrwydd cyfartal i Saesneg a Chymraeg yng Nghymru. Roedd yn ogystal am rai blynyddoedd yn aelod o'r Panel ar Ffurflenni Cymraeg, gwaith a gododd o basio'r ddeddf. Edmygai 'Dafydd' Hughes Parry yn fawr a chytunodd i'w ddilyn fel cadeirydd Ymddiriedolaeth Pantyfedwen yn Aberystwyth rhwng 1973 a 1979. Ystyriai'r llywodraeth yn Llundain Glanmor Williams fel 'pâr diogel o ddwylo', a chafodd ei benodi rhwng 1965 a 1971 yn Llywodraethwr Cenedlaethol dros Gymru ar Fwrdd Llywodraethwyr y BBC ac yn gadeirydd y Pwyllgor Darlledu dros Gymru. Dyma beth oedd swydd hynod o anodd ar adeg o dyndra rhwng y ddwy iaith yng Nghymru, a wnaethpwyd yn fwy cynhennus byth o achos y dadlau ynghylch Arwisgo Tywysog Cymru yn 1969. Mae'r penodau ar ei waith i'r BBC ymhlith y mwyaf bywiog yn ei hunangofiant difyr Glanmor Williams: a Life (2002). Mae'n debygol mai o achos cysylltiad agos y BBC â seremonïau'r Arwisgo y gwnaethpwyd ef yn aelod o Bwyllgor Arwisgo Tywysog Cymru rhwng 1967 a 1969.

Yn fuan wedi gorffen ei waith i'r BBC penodwyd ef rhwng 1973 a 1980 yn aelod o Fwrdd y Llyfrgell Brydeinig a oedd yn trefnu trosglwyddo llyfrgell yr Amgueddfa Brydeinig i safle gwbl newydd, ac yna o 1980 i 1985 penodwyd ef yn gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol y Llyfrgell Brydeinig, a mwy neu lai yr un pryd rhwng 1974 a 1982 bu'n aelod o'r Pwyllgor Ymgynghorol ar y Cofysgrifau Cyhoeddus. Prin iawn yw'r Cymry yn y cyfnod hwnnw a lanwodd gymaint o swyddi cyhoeddus, ac y mae'n bosib yn y dyfodol y caiff ei weld fel dyn allweddol yn y 'gymdeithas suful' yng Nghymru, un o'r dynion hanfodol a nodweddiadol yn y rhwydwaith cynyddol o fyrddau a phwyllgorau yng Nghymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, a arweiniodd at 'oes y datganoli' o 1997 ymlaen. Nid yw'n syndod ei fod wedi ennill parch a bri am yr holl gymwynasau cyhoedddus hyn. Daeth yn gymrawd y Royal Historical Society yn 1954, yn gymrawd y Society of Antiquaries yn 1970, yn gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1986, cafodd anrhydedd y CBE yn 1981, ac fe'i dyrchafwyd yn farchog yn 1995. Dyfarnodd Prifysgol Cymru radd D. Litt. iddo yn 1963, a LL. D. er anrhydedd iddo yn 1998. Un o'r anrhydeddau a roddodd bleser anghyffredin iddo oedd cael ei wneud yn rhyddfreiniwr anrhydeddus o Fwrdeistref Merthyr Tudful yn 2002.

O ran golwg, roedd yn nodweddiadol o dde Cymru, dyn byr, gwydn, a gwallt tywyll, ag wyneb manwl gyda thalcen uchel, a llygaid anarferol o dreiddgar. Roeddd ganddo lais tenor clir a melodaidd, a dawn yr actor medrus i newid tôn y llais, fel y byddai'r galw mewn darlith, neu wrth ddynwared pobl. Gellid disgrifio ei acen Saesneg fel Saesneg addysgiedig y Deheudir, a'i acen Gymraeg yn Gymraeg safonol y Deheudir yn hytrach na'r Wenhwyseg, sef acen Dowlais a ddefnyddiai yn unig wrth sôn am ei blentyndod. Roedd yn ŵr diarhebol o drefnus ei arferion, yn rhyfeddol o gynhyrchiol, yn gallu ymchwilio ac ysgrifennu bob dydd, ac yn cadw dyddiadur cyflawn a lenwai yn agos bob dydd, ac y mae'r dyddiaduron hynny ymhlith ei bapurau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd ei ddarlithiau yn dawel a mesuredig, wedi eu paratoi'n fanwl ymlaen llaw, ac wedi eu hamseru'n berffaith, a byddai'n hoelio'i sylw ar y gynulleidfa ond yn syllu ar ei destun bob pum eiliad, gan droi'r tudalennau'n rheolaidd fel y cloc, gan wneud ambell sylw prin o'r frest.

Yr oedd yn ffodus i fwynhau iechyd ardderchog ar hyd ei oes, ond teithiodd i Rydychen ar 7 Chwefror 2005 mewn tywydd arswydus o oer i draddodi darlith i anrhydeddu ymddeoliad yr Athro Syr Rees Davies, gan ddal annwyd ar ei ffordd adre ar y trên, ac o fewn ychydig ddyddiau gwaethygodd ei gyflwr yn anesboniadwy, ac aethpwyd ag ef i Ysbyty Treforys yn Abertawe, lle y bu farw ar 24 Chwefror o ddiffyg ar y galon. Llosgwyd ei gorff yn Amlosgfa Abertawe ar 8 Mawrth ym mhresenoldeb ei weddw, Fay, a'i ddau blentyn a'u teuluoedd, a thorf enfawr o gannoedd o'i gyfeillion, a gwasgarwyd ei lwch ym Mro Gŵyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-05-04

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.