WILLIAMS, SYR JOHN KYFFIN (1918-2006), arlunydd ac awdur

Enw: John Kyffin Williams
Dyddiad geni: 1918
Dyddiad marw: 2006
Rhiant: Essyllt Mary Williams (née Williams)
Rhiant: Henry Inglis Wynne Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd ac awdur
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: David Meredith

Ganwyd Kyffin Williams yn Tanygraig, Llangefni, Ynys Môn, ar 9 Mai 1918, yn ail fab i Henry Inglis Wynne Williams (1870-1942), rheolwr banc, a'i wraig Essyllt Mary (1883-1964), merch Richard Hughes Williams, rheithor Llansadwrn. Ganwyd eu mab cyntaf Owen Richard Inglis Williams (Dick) ym 1916 a bu farw 1982. Ymfalchïai Kyffin Williams yn ei wreiddiau teuluol dwfn yn naear Cymru, ym Môn (teulu ei dad), ym Maldwyn (o ble y deuai'r enw Kyffin) ac yn ardal Ystrad Fflur yng Ngheredigion (lle claddwyd ei hen hen nain ar ochr ei fam). Perthynai ar ddwy ochr ei deulu i nifer helaeth o ficeriaid a rheithoriaid eglwysig a mawrygai eu gwasanaeth i'w cyd-ddyn. Roedd unigolion lliwgar hefyd ymhlith ei hynafiaid, megis Thomas Williams (1737-1802), y gŵr a ddatblygodd ddiwydiant copr Mynydd Parys ym Môn.

Wedi cyfnod byr yn 1924 yn Ysgol Moreton Hall ger y Waun, lle roedd ei dad yn rheolwr banc, mynychodd Kyffin ysgol gynradd ym Mae Trearddur, Môn (1925-1931). Rhwng 1931 a 1936 bu'n ddisgybl preswyl yn Ysgol yr Amwythig. Wedi gadael yr ysgol, lle bu'n anhapus oherwydd teimladau o unigrwydd ac athrawon gor-awdurdodol, trefnodd ei dad iddo ymuno ag asiantaeth tir 'Yale and Hardcastle' ym Mhwllheli (1937-1939), cyfnod a'i galluogodd i ddod i adnabod cefn gwlad Llŷn o'i gartref, erbyn hynny yn Abererch. Ar anogaeth ei fam ymunodd â'r Capten Jack Jones a Helfa'r Ynysfor yn ardal Aberglaslyn, a bu'n cerdded y mynyddoedd yn benrhydd ym mhob tywydd, yn hela llwynogod a dod i adnabod pob cilfach a phant, profiad amheuthun i arlunydd tirluniau. Dywedid am Kyffin Williams pan oedd yn peintio mynydd, y gwyddai beth oedd yr ochr arall i'r llechwedd a'i hwynebai - gwelai'r darlun yn llawn.

Ym 1937 comisiynwyd ef fel Ail Lifftenant y Ffiwsilwyr Cymreig (TA), ond cafodd ei ollwng o'r fyddin yn 1940 oherwydd iddo gael trawiad epileptig. Bu'n dioddef yn ddewr o'r aflwydd epilepsi gydol ei oes. Yn y cyfnod hwn cafodd gyfeillgarwch triw Sandy Livingstone-Learmouth o Dremadog. Sandy anogodd Kyffin i ymuno â'r fyddin diriogaethol. Bu'r ddau, er mawr ddifyrrwch iddynt, yn llunio limrigau 'Crawshaw-Bailey', penillion digri i'w canu ar y dôn Mochyn Du. Cyhoeddwyd y casgliad yn y llyfr Boyo Ballads (Gwasg Excellent/Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1995). Gwelir gwaith cartŵn ardderchog Kyffin Williams yn y llyfr hwn.

Wrth gael ei ollwng o'r fyddin y cyngor a gafodd Kyffin gan y doctor milwrol oedd: 'Williams, gan eich bod mewn gwirionedd yn abnormal credaf y byddai'n syniad da i chi droi at arlunio', geiriau y câi Kyffin, pan yn benblaenor y celfyddydau yng Nghymru, fwynhad mawr o'u hailadrodd. Yn hydref 1941 aeth Kyffin yn fyfyriwr i Ysgol Gelf y Slade, oedd wedi symud o Lundain i Amgueddfa'r Ashmolean yn Rhydychen oherwydd y rhyfel. Yn yr Ashmolean, wrth syllu'n ddwys ar lun o'r 'Atgyfodiad' gan Piero della Francesca, cymaint oedd yr effaith emosiynol ar Kyffin fel yr wylodd yn hidl. Fel y dywedodd, dyma oedd ei 'ffordd i Ddamascus'. Sylweddolodd am y tro cyntaf nad rhoi delweddau i lawr ar bapur neu ganfas yn unig oedd yr act o beintio llun, ond bod cariad a 'mood' yn rhan annatod o'r broses greadigol. Ymhlith ei athrawon yn y Slade roedd Randolph Schwabe (y Prifathro), Allan Gwynne-Jones a Tancred Borenius, arbenigwr ar gelfyddyd y Dadeni yn ardal Vicenza a Fenis yn yr Eidal. Er gwaethaf honiadau gwylaidd cyson Kyffin nad oedd ganddo dalent yn y cyfnod yma, dyfarnwyd ysgoloriaeth bwysig Robert Ross iddo pan adawodd y Slade.

Yn y pedwardegau, rhestrodd Kyffin Williams 'y gwŷr creadigol hynny oedd yn golygu llawer i mi'. Yn eu plith roedd Rembrandt a Vincent van Gogh. Soniodd lawer amdanynt. Dywedodd fod rhai peintiadau o eiddo Rembrandt yn gwneud iddo wylo, cymaint oedd yr emosiwn ynddynt. Gwelai debygrwydd rhwng bywyd van Gogh a'i fywyd ei hun, van Gogh yn fab i weinidog a Kyffin â chysylltiadau eglwysig niferus, a'r ddau ohonynt yn dioddef o epilepsi. Credai fod van Gogh dan orfodaeth i gyfathrebu: 'Roedd rhaid iddo ddangos ei gariad at flodau neu bobl neu'r tirwedd, a dyna ni'. Felly hefyd Kyffin. Dywedodd droeon fod obsesiwn yn bwysicach na thalent, ond roedd Kyffin yn obsesiynol ac yn dalentog.

Ym 1944 penodwyd Kyffin i swydd athro celf hŷn yn Ysgol Highgate yn Llundain. Bu yno am gyfnod o naw mlynedd ar hugain, ei unig swydd ffurfiol fel athro, er iddo ledaenu gwybodaeth a rhannu o'i ddysg a'i ddawn gydol ei oes. Ym 1968 dyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth Churchill i gofnodi y Gymdeithas Gymreig ym Mhatagonia. Dyma oedd antur fawr ei fywyd. Yn hanner cant oed, roedd yn awyddus i gyflawni rhywbeth arbennig. Bu yn y Wladfa am bedwar mis yn cofnodi y bobl, y tirwedd, yr adar a'r anifeiliaid. Dychwelodd i Gymru gyda chasgliad unigryw o beintiadau. Fe'i cyflwynodd yn rhodd i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, wedi i'r Amgueddfa Genedlaethol ei wrthod. Ar sail ei rodd o gasgliad peintiadau Patagonia a'i roddion eraill, ystyrir Kyffin yn un o brif noddwyr y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Bellach yn y Llyfrgell mae 700 o sleidiau lliw, lluniau camera a dynnwyd gan Kyffin yn y Wladfa, 250 o beintiadau olew (yn cynnwys Casgliad Patagonia) a 1,456 o weithiau creadigol ar bapur. Hwn yw'r casgliad mwyaf yn y byd o waith Kyffin. Yn ystod ei oes cyflwynodd rodd hefyd i Oriel Ynys Môn, sef 400 o luniau gwreiddiol o'i eiddo.

Ym Mai 1974 gadawodd ei swydd ddysgu yn Llundain a dychwelyd i Fôn, gan gael cartref iddo ei hun am y tro cyntaf yn ei fywyd, a hynny ym Mhwllfanogl ger pentref Llanfairpwllgwyngyll, mewn tŷ o eiddo Ardalydd ac Ardalyddes Môn, dau a fu'n noddwyr a chefnogwyr hael i Kyffin Williams. Ym Mhwllfanogl, o fewn tafliad carreg i'r Fenai, roedd Kyffin ym mharadwys, gyda mynyddoedd Eryri o'i flaen a thir ei hoff Sir Fôn dan ei draed. Yma bu ei gartref am weddill ei oes. Er ei fod yn byw yn hen lanc ar ei ben ei hun ym Mhwllfanogl, roedd ganddo gylch eang o gyfeillion a chydnabod.

Cyfrifir Kyffin Williams yn brif arlunydd Cymru a'r mwyaf llwyddiannus erioed o ran gyrfa fel artist proffesiynol. Gwnaeth ei lun cyntaf pan oedd oddeutu pedair oed, a pharhaodd i arlunio hyd ddiwedd ei oes hir. Adnabyddid ac edmygid ef gan lawer fel peintiwr mynyddoedd a'r môr oddiar arfordir Môn, ond yn ddiddorol, yn ei farn ei hun, o'i holl weithiau i'w rhoi ar bedastl, rhestrodd ddau beintiad o ffarmwr a'i gi mewn eira yn brwydro yn erbyn yr elfennau a dau bortread o ddwy wraig oedrannus. Ef am gyfnod oedd hoff bortreadwr sefydliadau Cymru gyda phrin yr un llywydd neu gadeirydd neu farnwr nas portreadwyd ganddo. Yn saith deg oed, cyhoeddodd ei ymddeoliad o'r dasg hon gan ddatgan na ddeuai'r gorchwyl yn hawdd iddo. Carai beintio blodau ac anifeiliaid, yn arbennig ceffylau a chŵn defaid. Un o ddoniau pennaf Kyffin Williams oedd y ddawn i 'osod' golygfa ar ganfas a'r gamp o wneud hynny drwy ddefnyddio cyllell balet yn hytrach na brwsh, yn wahanol iawn i'w gyfoeswyr. Carai beintio allan yn yr awyr agored ym mhob tywydd a pharhaodd i wneud hynny nes i ystyriaethau iechyd ei orfodi i'r stiwdio. Gweithiai yn gyflym iawn gan gwblhau portread mewn diwrnod.

Cynhaliodd ei arddangosfa gyntaf yn Oriel Colnaghi yn Llundain ym 1948 ac o 1975, am gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain, bu'n cynnal arddangosfeydd yn Galeri y Thackeray yn yr un ddinas. Yng Nghymru bu'n arddangos yn gyson dros y blynyddoedd ym mhrif galerïau'r wlad. Dylid nodi yr arddangosfa adolygol gyntaf o'i waith yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, Mawrth 1987, arddangosfa o 131 o beintiadau. Gwelwyd yr arddangosfa hon yng Ngaleri y Glyn Vivian Abertawe ac hefyd yn Oriel Mostyn Llandudno. Dros y blynyddoedd bu nifer o arddangosfeydd cofiadwy o'i waith yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, un yn arbennig i ddathlu ei benblwydd yn 80 ar 9 Mai 1998, ac un arall i arddangos ei gasgliad Patagonia yn 2000. Cynhaliodd y Llyfrgell hefyd nifer o arddangosfeydd teithiol o'i waith. Bu Oriel Ynys Môn yn driw iawn iddo gan arddangos ei waith yn rheolaidd a chynnal dwy arddangosfa fawr o beintiadau - Arddangosfa Portreadau 1944-1991 ym 1993 ac Arddangosfa y Tirwedd ym 1995. Yn Oriel Ynys Môn hefyd y gwelwyd datblygu yr Oriel er cof am Kyffin Williams.

Bu nifer o galerïau yn gwerthu ei beintiadau, gyda thair yn cymeryd rhan amlwg yn y gweithgarwch, Galeri y Tegfryn ym Mhorthaethwy (er 1968), cyfeillion agos i Kyffin, Galeri y Thackeray yn Llundain (er 1975), noddwyr twymgalon, a Galeri yr Albany yng Nghaerdydd (er 1975). Gweithredai Mary Yapp, perchennog yr Albany, fel asiant iddo. Dylid nodi hefyd i Oriel Plas Glyn y Weddw Llanbedrog fod yn agos at galon Kyffin. Bellach mae ei waith celf mewn nifer o galerïau trwy Brydain a thramor, gyda'r mwyafrif o'r miloedd o luniau a beintiodd yn ystod ei oes mewn casgliadau preifat.

Yn ystod llwyddiannau Kyffin Williams yn y 1980au y lluniwyd y geiriau gogleisiol gan awdur anhysbys, 'Llwyddiant yw tŷ ym Mhontcanna, Volvo yn y garej a Kyffin ar y wal'. Yr oedd Kyffin bellach yn cynrychioli statws a'i beintiadau olew yn gwerthu am filoedd lawer. Symud o dlodi cymharol yn y pedwardegau i gyfoeth yn y nawdegau fu ei hanes. Yn ei ewyllys a luniwyd ym 1999, gadawodd filiynau o bunnoedd i'w rhannu rhwng ei deulu, cyfeillion agos a'r sefydliadau hynny a gefnogai, yn elusennau ac yn sefydliadau celfyddydol, megis Galeri y Tabernacl ym Machynlleth a'r cynllun mentrus i ddatblygu hen danerdy adfeiliedig yn y dref yn galeri gelf.

Yn ystod y deuddeng mlynedd ar hugain y bu'n byw ym Môn, pentyrrwyd pob anrhydedd arno: aelodaeth o'r Academi Frenhinol 1974, MA er anrhydedd Prifysgol Cymru 1978, Anrhydedd yr Ymerodraeth Brydeinig OBE 1983, Dirprwy Lifftenant Gwynedd 1987, cymrodoriaethau er anrhydedd Prifysgol Cymru Abertawe (1989), Prifysgol Cymru Bangor (1991) a Phrifysgol Cymru Aberystwyth (1992), Medal y Cymmrodorion 1991, Llywydd yr Academi Frenhinol Gymreig (am ddau gyfnod), Aelod o Lys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Gwobr Glyndŵr Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth 1995, a'i urddo'n Farchog gan y Frenhines yn 1999.

Yn 2004, yn wythdeg chwech oed, teithiodd Kyffin Williams i ddinas Fenis ar gyfer rhaglen deledu wedi ei chomisiynu gan BBC Cymru/Wales yn dwyn y teitl 'Reflections in a Gondola'. Cyfarwyddwyd y rhaglen hon gan John Hefin. Ynddi rhestrodd Kyffin bedwar digwyddiad arwyddocaol a thyngedfennol yn ei fywyd, sef ei eni yn Sir Fôn, gweld darlun o ffresco Piero della Francesca, peintio ar Gader Idris ym 1947 pryd y sylweddolodd y gallai efallai fod yn arlunydd, ac ymweld â Fenis am y tro cyntaf ym 1950, gan ryfeddu at ei champweithiau celfyddydol.

Cyhoeddodd Kyffin Williams ddwy gyfrol hunangofiannol, Across the Straits (1973) ac A Wider Sky (1991), cyfrolau a ystyrir yn glasuron o'u bath. Bu'n weithgar gyda Chymdeithas y Celfyddydau yng Ngogledd Cymru, a darlithiodd yn helaeth ar gelf led-led y wlad. Rhoddodd bob cymorth i ysgolion, gan groesawu dosbarthiadau di-ri i'w gartref a'i stiwdio ym Mhwllfanogl. Er y dywedai yn aml nad oedd am fod yn hen ŵr blin, safodd yn gadarn yn erbyn sothach ffansïol a elwid yn gelf gyfoes, hyd yn oed pan olygai hynny ymosodiadau arno yn y wasg. Mynnai barhau i amddiffyn y safonau gorau ym myd celf a pharchu traddodiad. Galwodd yn daer ar yr Amgueddfa Genedlaethol i arddangos Celf Cymru gyda'r pwyslais ar ddweud mai Cymry oedd yr artistiaid. Gresynodd na chafodd Richard Wilson ei gydnabod yn gall fel Cymro a John Gibson, y cerflunydd mawr o Gonwy yr un modd. Llafuriodd yn llwyddiannus gydag eraill i ddiogelu i Gymru gasgliad ei gyfaill, y peintiwr adar Charles Tunnicliffe, sail Oriel Ynys Môn.

Er i'w fam wahardd y Gymraeg ar yr aelwyd, a'r tad a'r fam yn siarad Cymraeg yn rhugl, siaradai Kyffin lawer o Gymraeg, gallai adrodd darnau o farddoniaeth Dafydd ap Gwilym, ysgrifennai at gyfeillion agos yn y Gymraeg, a phan ddatganodd yn yr wythdegau 'I paint in Welsh', golygai hyn ei fod wedi trechu tabŵ ei fam. Un o'i hoff eiriau yn ateb i'r cwestiwn “Sut ydech chi Kyffin?” oedd “O llipa”, a'i hoff gyfarchiad pan yn arwyddo llyfrau fyddai 'Cofion Gorau - Kyffin'. Pan oedd ym Mhatagonia gorfu iddo ddarlledu ac annerch cynulleidfa yn y Gymraeg, profiad yn ôl ei dystiolaeth ei hun a wnaeth fyd o les iddo er gwella yr hyn a alwai ei 'Gymraeg coman'.

Dyn a'i draed ar y ddaear oedd Kyffin Williams, dyn ffraeth, llawn hiwmor a sgwrsiwr penigamp, gŵr hynod o wybodus am ei grefft a hanesydd celf heb ei ail. Gorfu iddo wynebu problemau dyrys yn ystod ei oes, iechyd ei frawd mawr Richard, cyfreithiwr galluog a ffefryn ei fam, a anafwyd yn ystod y rhyfel ac a aeth yn gaeth i'r ddiod, a'i iechyd ef ei hun, yr epilepsi a chancr y prostad a'r ysgyfaint - y cancr a'i lladdodd.

Bu farw yn 88 mlwydd oed yng Nghartref Sant Tysilio, Llanfairpwllgwyngyll, Ynys Môn, ar 1 Medi 2006, wedi cyfnod fel claf yn Ysbyty Gwynedd. Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol ar 11 Medi yn Eglwys Gadeiriol Bangor, lle bu ei daid y Parchedig Owen Lloyd Williams yn ganghellor. Arweiniwyd y gwasanaeth gan Archesgob Cymru y Parchedicaf Barry Morgan, a chladdwyd Kyffin ym Mynwent Eglwys Llanfair-yng-Nghornwy, Môn, lle claddwyd ei daid. Cynlluniwyd ei garreg fedd gan ei gyfaill y cerflunydd Ieuan Rees, carreg seml a diarddurn o chwarel lechi Aberllefenni ym Meirionnydd. Ar 18 Gorffennaf 2008 agorwyd Oriel Kyffin Williams yn Llangefni yn gofadail urddasol iddo. Gweithia Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams i hyrwyddo ei enw a hybu ei werthoedd ym myd celf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2014-12-15

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.