EDWARDS, Syr JOHN GORONWY (1891-1976), hanesydd

Enw: John Goronwy Edwards
Dyddiad geni: 1891
Dyddiad marw: 1976
Priod: Gwladys Edwards (née Williams)
Rhiant: Emma Edwards (née Pickering)
Rhiant: John William Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Ralph A. Griffiths

Ganwyd Goronwy Edwards yn Salford, sir Gaerhirfryn, ar 14 Mai 1891, yn unig blentyn i John William Edwards, gweithiwr rheilffordd, a'i wraig Emma (née Pickering), y ddau wedi'u geni a'u magu yn sir y Fflint.

Ffermwyr ger Halcyn yn Nyffryn Clwyd oedd hynafiaid ei dad, a'i fam yn ferch i löwr o Sais a ymfudodd o swydd Efrog i Gernyw. Magwyd eu mab yn Gymro Cymraeg ac yn Fethodist Calfinaidd, a dychwelodd y teulu i Halcyn yn 1893 pan ddaeth John Edwards yn signalwr ym Magillt ar y rheilffordd rhwng Caergybi a Chaer. Ymfalchïai Goronwy yn ei dreftadaeth Eingl-Gymreig a'i wreiddiau yng ngororau Sir y Fflint. Mynychodd Ysgol Genedlaethol Halcyn, ac wedyn, yn 1902, Ysgol Ramadeg y Sir yn Nhreffynnon lle dechreuodd ei ddiddordeb mewn hanes, yn enwedig hanes Cymru. Rhagorodd mewn cemeg hefyd, ond yn sgil pwl difrifol o glefyd crydcymalau cynghorwyd ef yn erbyn gwaith labordy ac aeth ymlaen i ganolbwyntio ar hanes, Cymraeg a Saesneg.

Prifysgol Manceinion oedd ei ddewis cyntaf, ond yn 1909 enillodd ysgoloriaeth sylfaen Gymreig yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, lle y graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn hanes yn 1913, wedi colli blwyddyn oherwydd pwl arall o glefyd difrifol. Cafodd ysgoloriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Manceinion (1913-15) a roes gyfle iddo weithio gyda Thomas Frederick Tout (1855-1929), hanesydd canoloesol blaenaf Prydain a oedd wedi ymdrin â Chymru a Sir y Fflint yn ei waith ei hun. Mawr oedd edmygedd Tout ac Edwards ill dau o gyfrol feistrolgar John Edward Lloyd, History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (1911), nid lleiaf fel sylfaen ar gyfer astudio'r cyfnod dilynol yn hanes Cymru. Cwblhaodd Edwards draethawd MA yn 1915 ar 'The Edwardian settlement of Wales: its establishment and its working, 1283-1307'. Tout oedd mentor a noddwr Edwards tan ei farwolaeth yn 1929, ac er gwaetha'r gwahaniaeth oedran roedd perthynas bersonol agos rhyngddynt a buant yn gohebu'n gyson. Cafodd y berthynas hon ddylanwad ffurfiannol ar ddatblygiad Edwards fel hanesydd, o ran yr hyfforddiant mewn ymchwil hanesyddol a dderbyniodd ac o ran ei ddiddordeb cynyddol yn hanes Cymru a Lloegr. Cafodd brofiad o ddysgu hefyd ym Manceinion fel tiwtor hanes.

Yn fuan ar ôl i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau, ymunodd Edwards ag O.T.C. Manceinion yn Ionawr 1915 gyda'r bwriad o sicrhau comisiwn ar ôl ymuno â'r milwyr traed, er gwaethaf ei grydcymalau. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach ymrestrodd gyda Chatrawd Sir Ddinbych o'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Aeth dros ddwy flynedd heibio cyn iddo gychwyn ar wasanaeth gweithredol, ac mae ei rwystredigaeth yn amlwg yn ei lythyrau at Tout. Yn y cyfamser, yn ei waith gweinyddol fel dirprwy ac yna fel capten amlygwyd ei ddawn trefnu a'i gwnaeth yn anhepgor ym mhencadlys y catrawd. O'r diwedd, yn Ebrill 1918, ymunodd â Chatrawd Sir Ddinbych (Bataliwn yr Arloeswyr) yn Ffrainc a bu'n arwain cwmni a aeth i mewn i Lille ym mis Hydref 1918. Cafodd wasanaeth rhyfel yn gyffrous ac eto'n anesmwythol. Datgelodd iddo ei allu gweinyddol ond fe'i gwnaeth hefyd yn ddiamynedd i ddychwelyd at yr ymchwil hanesyddol a ddechreuodd gyda Tout: 'It's the last year in France that has nearly made me love the Army and turn traitor to the Cloister' (meddai mewn llythyr at ei fentor). Arferai ambell gyfeiriad milwrol fel athro yn nes ymlaen yn ei fywyd.

Cyn iddo adael Ffrainc ym Mai 1919, teithiodd Edwards o gwmpas trefi a dinasoedd anrheithiedig Fflandrys, gyda'i gamera wrth law; bu'n ffotograffydd brwd ar hyd ei oes. Wrth wynebu gadael y fyddin a chwilio am waith, ystyriodd y posibilrwydd o ymuno â gweinyddiaeth addysg y Punjab yn India, ond gyda chefnogaeth Tout fe'i hetholwyd yn gymrawd a thiwtor mewn hanes modern yn ei hen goleg yn Rhydychen. Cyn cychwyn yng Ngholeg yr Iesu yn Hydref 1919, treuliodd amser yn y Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus yn trawysgrifio ac yn golygu roliau pleon sir y Fflint ar gyfer teyrnasiad Edward I er mwyn ymgyfarwyddo o'r newydd ag ymchwil. Y canlyniad oedd ei lyfr cyntaf, Flintshire Plea Rolls, 1283-5, a gyhoeddwyd yn 1922 gan Gymdeithas Hanes Sir y Fflint, cymdeithas y cadwodd gyswllt agos â hi weddill ei oes, gan wasanaethu fel ei golygydd o 1922 i 1929 ac eto, er yn ddyn prysur iawn, o 1951 i 1960.

Treuliodd Edwards dri degawd bron yng Ngholeg yr Iesu, cyfnod hapusaf ei fywyd mae'n debyg. Ar 1 Medi 1925 priododd Gwladys (marw 1982), merch y Parch. William Williams. Roeddent wedi cyfarfod gyntaf yn Ysgol Sir Treffynnon, er i Gwladys raddio yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, mewn cerddoriaeth; rhannai'r ddau gariad dwfn at gerddoriaeth gydol eu hoes.

Bu Edwards yn diwtor hŷn yng Ngholeg yr Iesu o 1931 ac yn ddirprwy-brifathro yn 1945-8, ac roedd yn ffigwr allweddol yn ysgol hanes y Brifysgol. Roedd ei ddarlithoedd ar hanes cyfansoddiadol Lloegr, gan gyfeirio'n arbennig at ysgrifau William Stubbs (1825-1901), a fuasai'n diwtor ar Tout flynyddoedd ynghynt, yn ddiarhebol: wedi eu saernïo'n ofalus, yn synhwyrol a golau wrth lunio dadl; wedi eu traddodi'n bwyllog (hyd yn oed yn ailadroddus er mwyn eglurder), roedd eu casgliadau'n anorfod. Fel athro roedd yn amyneddgar, yn gymwynasgar ac yn ddynol; roedd yn gas ganddo ymhoniad, drwgdybiai athronyddu ynghylch digwyddiadau hanesyddol, a'r jargon cymdeithasegol ffasiynol (nid heb reswm yr oedd yr Oxford English Dictionary on Historical Principles yn hoff gyfeirlyfr ganddo!). Roedd y cyfeillgarwch a fu mor bwysig iddo yn ystod y rhyfel yn batrwm ar gyfer ei berthynas gynnes ef (ynghyd â'i wraig groesawgar) â myfyrwyr a'u parch arhosol hwythau ato ef - gydol oes yn aml. Yn y gwasanaeth goffa iddo yn 1976, darllenwyd y llith gyntaf gan fyfyriwr o'r '30au, y Gwir Anrhydeddus Syr Harold Wilson.

Oherwydd ei nodweddion personol a phroffesiynol cafodd Edwards ei benodi'n un o olygyddion The English Historical Review, prif gylchgrawn hanes Prydain, yn 1938, gan ddod yn y pen draw yn olygydd hŷn: yn fanwl-gywir, yn dreiddgar ac yn gymwynasgar bob amser, bu'n olygydd rhagorol nes iddo ymddeol yn 1959. Llwyddwyd i ymdopi ag anawsterau'r Ail Ryfel Byd 'i raddau helaeth trwy ei bwyll a'i ymroddiad ef', ac yn 1959 talodd cyhoeddwyr y cylchgrawn, Longman, Green and Company, deyrnged gyhoeddus iddo: 'a whole generation of scholars, beginners as well as established historians, have reason, we believe, to feel gratitude for his patience, care and fairmindedness'.

Nid ymyrrodd cyfrifoldebau cynyddol Edwards yn Rhydychen â'i ymchwil na'i gyhoeddiadau rheolaidd, gan amlaf yn ymwneud â Chymru yn y genhedlaeth ar ôl goresgyniad Edward I, ac yna, o 1925 ymlaen, â diddordeb cysylltiedig yn y senedd (a swyddogaeth Tŷ'r Cyffredin ynddo) a oedd yn arwydd o'i ddyled i William Stubbs, ysgolhaig a edmygai'n fawr er nad yn anfeirniadol. Yn 1931 ymunodd â Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru, corff a sefydlwyd i hyrwyddo ysgolheictod Cymreig. J. E. Lloyd oedd cadeirydd Pwyllgor Hanes a Chyfraith y Bwrdd, a gwasanaethodd Edwards arno am bedwar degawd, er nad oedd yn aelod o'r brifysgol. Noddodd y Bwrdd gyhoeddi dau olygiad testunol ganddo a oedd yn ganolog i'w ymchwil ei hun ac sydd wedi bod yn sail i'r astudiaeth o hanes Cymreig ac Eingl-Gymreig yn y drydedd a'r bedwaredd ganrif ar ddeg byth oddi ar hynny: Calendar of Ancient Correspondence concerning Wales (1935), cyfrol o destunau neu grynodebau o destunau o archifau'r Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus, wedi eu dyddio'n ddiogel am y tro cyntaf; a Littere Wallie (1940) o 1217 i 1297, a gymerwyd o gofrestr o ddogfennau wedi eu trawysgrifio'n llawn gan Edwards ynghyd ag ysgrif a drawsnewidiodd ddealltwriaeth o'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a'i berthynas ag Edward I. Ar yr un pryd, roedd ysgrifau ar y senedd, trethiant a chwynion y barwniaid mewn cyfnod o ryfel yn ddatblygiadau naturiol o'i waith ar deyrnasiad Edward I, a'r rhain a'i gwnaeth yn hanesydd blaenaf Tŷ'r Cyffredin yn y senedd yn ei gyfnod mwyaf ffurfiannol. Cynhaliwyd ei ddiddordeb yn y ddau faes astudio ar ôl iddo adael Rhydychen yn 1948.

Siom fwyaf ei fywyd academaidd oedd methu cael ei benodi'n brifathro Coleg yr Iesu yn 1946, pan deimlai rhai - yn rhyfeddol - nad Cymro (gydag acen Gymreig amlwg) oedd angen ar y coleg. Serch hynny, dangosodd deyrngarwch i'r coleg ac i'w gydweithwyr trwy wasanaethu fel dirprwy-brifathro tan 1948. Fe'i gwnaed yn gymrawd anrhydeddus o Goleg yr Iesu yn 1949, anrhydedd a roes gryn bleser iddo.

Bu'r proffesiwn hanesyddol ar ei ennill o golled Rhydychen. Yn 1948 derbyniodd Edwards swydd cyfarwyddwr yr Institute of Historical Research ym Mhrifysgol Llundain, ynghyd â chadair mewn hanes, swyddi a lanwodd yn rhagorol tan ei ymddeoliad yn 1960. Yn wir, rhyddhaodd y penodiad hwn egni newydd yn Edwards, ac yntau'n hanner cant a saith oed, ac fe'i galluogodd i roi ei ddoniau unigryw at wasanaeth cynulleidfa ryngwladol ehangach. Caffaeliad mawr i'r Institute oedd ei ddawn weinyddol, ei hynawsedd a'i letygarwch diarhebol ef a'i wraig: cynyddodd niferoedd ôl-raddedigion yr Institute, a'r ysgolheigion ar ymweliad o bedwar ban byd, ar ôl y symud i safle newydd wedi'r Ail Ryfel Byd, ac ehangodd ei lyfrgell; ffynnodd ei gynhadledd flynyddol o haneswyr Eingl-Americanaidd yn enwedig. Daeth Edwards hefyd yn olygydd ar y Bulletin of the Institute of Historical Research. Am ryw ddeuddeng mlynedd, bu'r ddau brif gylchgrawn hanesyddol a gyhoeddid ym Mhrydain dan law'r un golygydd. Credai Edwards, a gâi amser hefyd i olygu cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir y Fflint, fod gwaith golygyddol o'r fath yn wasanaeth hanfodol i'r proffesiwn hanesyddol. Parhaodd i ddysgu palaeograffeg a diplomateg, pwnc yr oedd yn gryn feistr arno, i fyfyrwyr o brifysgolion cartref a thramor, a rhagarweiniad i fethod hanesyddol ac ymddygiad proffesiynol ar gyfer ôl-raddedigion ifainc a gyfleodd ddoethineb di-lol yn seiliedig ar ei brofiad ei hun.

Fel cyfarwyddwr roedd galw am ei gyngor y tu allan i furiau'r Institute, gan gynnwys yng Nghymru. Daeth yn aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Lawysgrifau Hanesyddol yn 1953, ac ymunodd â Chyngor Ymgynghorol yr Arglwydd Ganghellor ar Gofnodion Cyhoeddus. Fe'i penodwyd i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn 1949 a bu'n gadeirydd arno o 1955 i 1967. Bu hefyd yn aelod o'r Bwrdd Henebion dros Gymru a gynghorodd yr Ysgrifennydd Gwladol ar yr amgylchedd hanesyddol. Yn 1965-74 ef oedd cadeirydd Ymddiriedolaeth Hanes y Senedd.

Parhaodd i gyhoeddi ei ymchwil yn doreithiog wedi ei ymddeoliad, yn fwyaf nodedig mewn astudiaethau pointilliste pellach ar swyddogaeth seneddau cynnar, rôl bwysig Tŷ'r Cyffredin ynddynt, a'r berthynas rhwng y Cyffredin a'r Arglwyddi, pynciau a'i tynnodd i mewn i ymrafaelion academaidd a driniodd gyda synnwyr cyffredin a chwrteisi. Mae ei ddawn dadansoddi fforensig ar bynciau penodol a chyffredinol yn amlwg yn ei ddadansoddiad manwl o waith codi cestyll Edward I, ei gostau a'i drefniant, a'r ffyrdd y crewyd arglwyddiaethau Normanaidd y Mers, ac, ar y llaw arall, yn ei arolwg o'r astudiaeth o lyfrau cyfraith Cymru a datblygiad cyfansoddiadol tywysogaeth Cymru o gytundeb Trefaldwyn yn 1267 hyd yr ugeinfed ganrif.

Yn sgil diffyg cyfrol gyffredinol eang yn y naill na'r llall o'i ddau brif faes, aeth ati yn ei flynyddoedd olaf i osod ei waith ei hun ac eraill mewn perspectif awdurdodol, gyda llyfrynnau hir ar William Stubbs (1952), Historians and the Medieval English parliament (1960), a The Commons in Medieval English parliaments (1957), ac, yn olaf, yn ei ddarlithoedd Ford yn Rhydychen ar The Second Century of the English Parliament (a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth yn 1979). Roedd astudiaethau Edwards o ddatblygiad cydberthynol Cymru a Lloegr yn yr Oesoedd Canol, eu strwythurau gwleidyddol a'u sefydliadau, yn wreiddiol o ran cysyniadaeth ac maent yn dal yn ddylanwadol. Nid oedd yr un o'i ysgrifeniadau'n fyrhoedlog.

Cydnabuwyd ei ragoriaeth ysgolheigaidd yn eang: Cymrodoriaeth yr Academi Brydeinig yn 1943; Cymrodoriaeth Cymdeithas Hynafiaethwyr Llundain yn 1959; graddau er anrhydedd gan brifysgolion Manceinion, Rhydychen, Cymru, Reading a Leeds; darlithydd Ford yn Rhydychen yn 1960-1. Bu'n llywydd y Gymdeithas Hanes Frenhinol yn 1961-4 (gan rannu ei bedair darlith lywyddol yn briodol rhwng ei ddiddordebau Cymreig a Seisnig). Yn 1969 dyfarnwyd iddo fedal y Cymmrodorion gan Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion 'am wasanaeth nodedig i Gymru'. I nodi ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain, cyflwynwyd iddo Book of Prests for the King's Wardrobe for 1294-5, 'llyfr gwardrob canoloesol cyfan' y bu'n pori ynddo ers dyddiau ei ymchwil gynharaf. Nodwyd ei ben-blwydd yn bedwar ugain gan gyfrol arbennig o Gymdeithas Hanes Sir y Fflint, cyf. 24. Ar achlysur ei ymddeoliad fel cyfarwyddwr yr Institute yn 1960 fe'i hurddwyd yn farchog.

Roedd Edwards yn ddyn cydnerth a siriol ei wedd, heb rithyn o hunan-bwysigrwydd. Roedd yn graff, gyda'r gallu i feddwl yn ddwys ac ystyriol, heb ruthro wrth ddod i gasgliadau na ellid prin byth eu cwestiynu. Bu farw ar 20 Mehefin 1976 yn Ysbyty Queen Mary, Roehampton, wedi iddo gwympo yn ei gartref yn Barnes, Llundain. Claddwyd ei lwch yn sir y Fflint ger yr ysgol a fynychodd ym mhentref Halcyn. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn Llundain ar 20 Hydref 1976.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-10-19

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.