Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ELLIS, TECWYN (1918-2012), addysgwr, ysgolhaig ac awdur.

Ganwyd Tecwyn Ellis ar 24 Ebrill 1918 yng Nghae Crydd, tyddyn bychan ar stad y Pale yng Nghaletwr, Llandderfel, sir Feirionnydd, yn unig blentyn i David John Ellis a'i wraig Madge (g. Edwards). Fel brodor o Benllyn, ac o Edeirnion yn ddiweddarach, roedd ei adnabyddiaeth o'r cymydau hyn - eu hanes, eu traddodiadau a'u teuluoedd - yn ddihysbydd.

Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor Llandderfel; ysgol ramadeg y bechgyn, Y Bala, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd gydag anrhydedd mewn cerddoriaeth (1939) a Chymraeg (1940). Ar ôl cyfnod o weithio ar y tir yn ystod 1940-46 (bu'n diwtor ar ddosbarthiadau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ym Mhenllyn, Edeirnion ac Uwchaled y pryd hwnnw yn ogystal), dychwelodd i'r ‘Coleg ger y lli’ yn 1946 gan ennill DipAdd (dosb. cyntaf) y flwyddyn ganlynol. Dilynwyd hyn gan draethawd MA nodedig yn 1951 ar y testun ‘Bywyd a gwaith Edward Jones (Bardd y Brenin)’ a gyhoeddwyd chwe blynedd yn ddiweddarach gan Wasg Prifysgol Cymru (gw. isod).

Bu'n athro yn ysgol ramadeg y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin, 1947-51, ac yn ysgol ramadeg y bechgyn, Y Bala, 1952-58. Treuliodd 1958-60 fel Swyddog Ymchwil yng Nghyfadran Addysg, CPC, Aberystwyth. Bwriad yr ymchwil hwn, yn ei eiriau ef, ‘oedd dadansoddi'r iaith Gymraeg o safbwynt ieithyddiaeth ddiweddar a threfnu patrymau brawddegol yr iaith i gyfarfod â gofynion dysgu Cymraeg fel ail iaith’. (Swydd dros dro am ddwy flynedd oedd hon a chafodd ei ryddhau o'i swydd yn Y Bala i ymgymryd â'r gwaith.) Troi i weinyddu fu ei hanes wedyn am y gweddill o'i yrfa: bu'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Addysg Meirionnydd yn ystod 1960-73, ac yna yn Gyfarwyddwr Addysg cyntaf Gwynedd o 1974 hyd ei ymddeoliad yn Ebrill 1983. Yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr bu'n bleidiwr selog dros addysg ddwyieithog yn yr ysgolion, a hynny pan oedd Cyngor Gwynedd, fel Awdurdod Addysg Lleol, yn llunio a gweithredu ei bolisi iaith.

Yn ychwanegol at ei ymroddiad fel addysgwr, cofnodir hefyd ei gyfraniadau ysgolheigaidd a cherddorol. Cyhoeddodd y gweithiau canlynol: Edward Jones Bardd y Brenin 1752-1824 (1957); Canu Cynnar (2000); Gyda'r Godre (2000) - cyfrol hunangofiannol; Ymlaen â Ni…(2002); Tonau Derfel (2012). Cyfrannodd i'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (1953) ac i Atlas Meirionnydd (1974) a chafwyd erthyglau niferus a phwysig ganddo ar agweddau ar iaith, hanes llên a cherddoriaeth Cymru, yn bennaf yn ystod y 18 a'r 19g., mewn gwahanol gylchgronau. Ceir rhestr o'i gyhoeddiadau rhwng 1946-99 yn Gyda'r Godre (tt. 149-51).

Roedd yn aelod o Orsedd y Beirdd (Urdd Derwydd) dan yr enw ‘Tecwyn Derfel’. Rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth fel pregethwr lleyg, organydd mewn sawl capel, arweinydd band a chymanfaoedd canu a beirniad cerdd mawr ei barch mewn llawer o eisteddfodau - lleol, taleithiol a chenedlaethol. Bu'n aelod ffyddlon o Gymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd ac yn gadeirydd ei Chyngor, 1986-2000; is-lywydd o 2000 ymlaen.

Gŵr hynaws a charedig ei natur oedd Tecwyn Ellis, a chwbl ddiymhongar. Cofir amdano gyda pharch ac edmygedd am ei sêl dros addysg ddwyieithog a'r diwylliant Cymraeg, a hefyd am ei gyfraniadau ysgolheigaidd a cherddorol dros y blynyddoedd.

Priododd, 21 Rhagfyr 1963, ag Elin Valerie Jones, Mynytho, a oedd yn athrawes cerdd yn Ysgol Botwnnog ar y pryd. Ganed tri phlentyn iddynt, mab a dwy ferch. Bu farw 17 Medi 2012 yn 94 oed a chladdwyd ef ym mynwent newydd Llandderfel, ar 21 Medi. Cynhaliwyd Gwasanaeth Coffa yng Nghapel Pendref, Bangor, yn ddiweddarach ar yr un diwrnod.

Ffynonellau:

  • Gwybodaeth gan ei weddw, Mrs E. Valerie Ellis, Penrhosgarnedd, Bangor;
  • adnabyddiaeth bersonol;
  • Tecwyn Ellis, Gyda'r Godre , 2000;
  • Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd , xvi (iv), 2013, 335-9;
  • Barn , Tach. 2012, 36;
  • Y Cyfnod , 21 Medi a 5 Hyd. 2012;
  • Y Cymro , 9 Hyd. 1979;

Awdur:

Arwyn Lloyd Hughes, Llandaf

Blwyddyn Cyhoeddi: 2016